Neidio i'r prif gynnwy

Yn fwy nag erioed, gyda chostau byw cynyddol, mae cael trefn ar y biliau a chael deiet iachus a chytbwys yn gallu bod yn heriol. Gall bwyd iach fod yn ddrutach, ac yn aml mae’r bargeinion arbed arian ar gael ar eitemau llai iach. Gall hyn ei gwneud hi'n anoddach cael gafael ar fwyd iachach. Gall y cymorth cyllidebu a bwyd sydd ar gael i chi helpu i wneud eich cyllideb fwyd ychydig yn haws ei rheoli.

 

 

 

Cyllidebau ar gyfer bwyd

Efallai fod gennych ddealltwriaeth dda o gyllideb eich cartref eisoes, a all eich helpu i gyfrifo a rheoli eich cyllideb fwyd. Os hoffech adolygu neu reoli eich proses gyllidebu, mae adnoddau ymarferol ar gael a allai fod o gymorth i chi.

Mae gan Helpwr Arian UK gynlluniwr cyllideb a all eich tywys drwy'r holl gamau i gyfrifo cyllideb eich cartref, gan gynnwys eich cyllideb fwyd. Pan fyddwch yn gwybod eich cyllideb fwyd, gallwch gynllunio ychydig yn haws. 

 

Cymorth bwyd

Os ydych yn ei chael hi’n anodd cael bwyd, dyma rai lleoedd y gallwch gysylltu â nhw am gymorth:

Mae Cychwyn Iach yn darparu talebau bwyd a llaeth os ydych yn feichiog neu os oes gennych blant o dan bedair oed ac yn gymwys i gael budd-daliadau penodol. Gallwch gadarnhau a ydych yn gymwys yma. (Linc Saesneg yn unig)

Mae’n bosibl y bydd cymorth arall ar gael yn lleol. Gan fod ardaloedd lleol yn cynnig pethau gwahanol, gallech chwilio ar-lein i ddod o hyd i’r cymorth sydd ar gael yn eich ardal. Rhowch gynnig ar ddefnyddio'r chwiliadau canlynol; banc bwyd lleol, pantri bwyd lleol, oergell gymunedol, hyb bwyd cymunedol, canolfannau bwyd lleol a chlwb cinio lleol.

Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd yn ap Olio, (Linc Saesneg yn unig) sy'n rhannu bwyd dros ben gan fusnesau lleol am ddim i leihau gwastraff bwyd. Gallwch gadarnhau beth sydd ar gael yn lleol yma. (Linc Saesneg yn unig)

Opsiynau arbed arian

Pan fyddwch yn gwybod eich bod wedi cael gafael ar y cymorth a’r adnoddau sydd eu hangen arnoch, mae ffyrdd ymarferol o gadw costau ychydig yn is wrth siopa a choginio.

Siopa
  • Cynlluniwch eich prydau bwyd a lluniwch restr siopa. Mae hyn yn eich helpu i brynu dim ond yr hyn sydd ei angen arnoch.
  • Defnyddiwch gynhwysion sydd gennych yn eich cartref yn barod. Edrychwch wrth i chi lunio eich rhestr siopa.
  • Dylech siopa pan nad oes chwant bwyd arnoch neu pan nad ydych yn flinedig, os yw’n bosibl. Gall siopa pan fydd chwant bwyd arnom arwain at brynu bwydydd sy’n cynnwys mwy o fraster a siwgr.
  • Cadwch at eich rhestr. Edrychwch yn eich basged cyn talu a thynnwch eitemau nad ydyn nhw ar y rhestr.
  • Chwiliwch am frandiau’r siop ei hun, sydd yn aml yn rhatach.
     
  • Yn aml, nid yw cynhyrchion rhatach mewn lleoliadau canolog neu amlwg yn y siopau – edrychwch ar y silffoedd uchaf ac isaf.
  • Nid yw cynigion arbennig bob amser yn rhatach – edrychwch ar y label er mwyn sicrhau eich bod yn arbed arian ac yn prynu’r hyn sydd ei angen arnoch yn unig.

  • Chwiliwch am ffrwythau a llysiau tymhorol, a all fod yn rhatach.

  • Mae llawer o archfarchnadoedd yn gwerthu blychau ffrwythau a llysiau ‘wonci’ erbyn hyn, sydd ychydig yn wahanol o ran siâp i’r arfer, ond sy’n rhatach, yr un mor iach ac yn blasu llawn cystal.

  • Mae ffrwythau a llysiau wedi'u rhewi ac mewn tun yr un mor iach â ffres, ond gellir eu storio am gyfnod hirach ac maen nhw’n aml yn rhatach. Ceisiwch ddewis ffrwythau mewn tun mewn sudd a llysiau mewn tun heb halen ychwanegol, os yw'n bosibl.

Gweler ein tudalen siopa iachach am ragor o wybodaeth.

 

 
 
Coginio
  • Coginiwch gartref os gallwch chi, ac ewch â chinio cartref neu bicnic gyda chi pan fyddwch chi allan.
  • Coginiwch eich prydau bwyd mewn swmp a'u rhewi mewn dognau, os yw’n bosibl.
  • Mae ffa, codlysiau a chorbys yn ffyrdd gwych o roi swmp i brydau bwyd, ac yn aml gellir eu prynu’n rhan o fargeinion sy'n arbed arian.
  • Cwtogwch ar faint o gig rydych yn ei goginio, a defnyddiwch lysiau, ffa, corbys a chodlysiau yn ei le.
  • Mae rhai dulliau coginio yn rhatach nag eraill; ceisiwch wneud un sosban neu ddefnyddio'r ficrodon yn lle'r ffwrn.
  • Os oes gennych fesurydd deallus, gall helpu i fonitro eich costau coginio gartref.

Gweler ein tudalen gwneud prydau bwyd bob dydd yn iachach am ragor o wybodaeth.​​​​​

Os bydd angen cymorth arnoch i gyllidebu ar gyfer bwyd, rhowch gynnig ar ddefnyddio'r cynlluniwr cyllideb i gyfrifo'ch cyllideb.

Os ydych yn meddwl y gallech wneud rhai newidiadau ymarferol i'ch arferion siopa neu goginio, gwnewch restr a gosodwch nod siopa neu goginio i'ch hun.

 

Ymuno â'r Gymuned

Byddwch y cyntaf i glywed am gynnwys a nodweddion newydd trwy ymuno â'n rhestr bostio. Rhagor