Neidio i'r prif gynnwy

Pam mae cwsg yn bwysig?

Mae cwsg yn bwysig oherwydd ei fod yn effeithio ar ein lles corfforol ac emosiynol. Mae cysgu’n dda yn golygu ein bod yn teimlo’n hapusach fel arfer, ac yn ein galluogi i ymdopi â phroblemau bywyd yn well. Mae’n ein helpu i weithredu’n well yn ystod y dydd.

Mae insomnia yn broblem gyffredin sy'n effeithio ar oddeutu 10% o bobl. Os ydych wedi cael trafferth mynd i gysgu neu’n aros ynghwsg sawl gwaith yr wythnos am dri mis, mae’n bosibl eich bod yn dioddef o insomnia a dylech ofyn am gymorth gan eich meddyg teulu.

Beth allaf ei wneud i gysgu’n dda?

Gall yr awgrymiadau canlynol eich helpu i gysgu'n dda:

  • Sicrhewch fod gennych amser rheolaidd i fynd i'r gwely a deffro.
  • Ceisiwch gadw at drefn amser gwely debyg er mwyn helpu i baratoi eich corff a'ch meddwl ar gyfer cwsg.
  • Sicrhewch fod gennych le cyfforddus a digynnwrf i gysgu ynddo.
  • Byddwch yn gorfforol weithgar yn ystod y dydd.
  • Cymerwch amser i ymlacio cyn mynd i’r gwely. Gallai hyn gynnwys mynd am gawod neu ddarllen llyfr.
  • Peidiwch ag yfed llawer o alcohol. 
  • Osgowch gael ffôn clyfar wrth eich gwely. 
  • Ceisiwch beidio ag yfed te neu goffi ar ôl canol y prynhawn. 
  • Ceisiwch beidio â bwyta pryd mawr o fwyd yn hwyr yn y nos oherwydd gall rhai bwydydd effeithio ar eich cwsg. 
  • Osgowch fwydydd llawn siwgr yn agos at amser gwely.
  • Gall cadw llyfr nodiadau wrth ochr eich gwely fod yn ddefnyddiol os byddwch yn sylwi nad ydych yn gallu cau eich meddyliau cyn cysgu. 

Gall yr awgrymiadau uchod helpu, ond efallai y byddwch yn ei chael hi'n anodd mynd i gysgu neu aros ynghwsg o hyd. Mae astudiaethau diweddar yn awgrymu y gall problemau cysgu ddigwydd pan fyddwch yn teimlo eich bod yn ymdroi gyda meddyliau penodol, neu fod eich meddyliau'n rasio a'ch bod yn cael trafferth eu 'diffodd'.  Gall gweithgareddau fel ymarferion anadlu gofalgar helpu yn y sefyllfa hon

Dysgu mwy

Meddwlgarwch / Mindfulness - NHS  (Linc Saesneg yn unig)

Problemau Cwsg / Sleep problems - Every Mind Matters - NHS  (Linc Saesneg yn unig)

Os ydych yn gwneud pob un o'r uchod ac yn cael trafferth cysgu o hyd, neu'n meddwl eich bod yn dioddef o insomnia, siaradwch â'ch meddyg teulu i gael rhagor o gymorth.

 

 

Ymuno â'r Gymuned

Byddwch y cyntaf i glywed am gynnwys a nodweddion newydd trwy ymuno â'n rhestr bostio. Rhagor