Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw delwedd corff iach?

Delwedd corff yw’r ffordd rydym yn meddwl ac yn teimlo am ein cyrff. Mae delwedd corff iach yn golygu derbyn eich corff a bod yn fodlon gyda'ch ymddangosiad.

Nid yw delwedd corff yn ymwneud â phwysau yn unig. Gall gynnwys pethau fel cymharu sut rydych yn edrych â phobl eraill a faint y mae barn pobl eraill ar eich ymddangosiad yn effeithio ar y ffordd yr ydych yn teimlo amdanoch eich hun.

Pam mae delwedd corff iach yn bwysig?

Mae teimlo’n dda amdanoch eich hun yn bwysig ar gyfer eich iechyd a’ch lles meddyliol yn gyffredinol.

Mae hunan-barch da yn golygu bod yn hyderus o ran pwy ydych chi, gan gynnwys sut rydych yn edrych ac yn teimlo am eich nodweddion a’ch priodoleddau.

Gall fod yn fodlon ar eich corff helpu gyda rheoli eich pwysau. Gall pobl sydd â delwedd corff iach ei chael hi’n haws i fwyta deiet iach a chael mwy o hyder i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol.

   

 

 

Beth allaf ei wneud i gynnal delwedd corff iach?

Mae llawer o siapau a meintiau corff gwahanol. Fodd bynnag, gall y cyfryngau ddangos syniadau afrealistig am sut y dylai cyrff edrych. Sylwch ar sut rydych chi’n teimlo wrth ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, a pheidiwch ag ymgysylltu â chynnwys sy'n gwneud i chi deimlo'n anghyfforddus.

Gwerthfawrogwch bopeth y mae eich corff yn ei wneud i chi. Gall teimlo'n ddiolchgar am y pethau y mae eich corff yn eich helpu i'w gwneud, fel mynegi eich hun, eich helpu i ganolbwyntio ar y pethau da.

Ceisiwch ganmol pobl eraill am eu sgiliau neu bethau rydych yn eu hoffi am eu personoliaeth, nid dim ond ar sut maen nhw’n edrych.

Ymarferwch fod yn garedig i’ch hun. Siaradwch â’ch hun ac amdanoch eich hun fel y byddech chi'n siarad â ffrind.

 

Ymuno â'r Gymuned

Byddwch y cyntaf i glywed am gynnwys a nodweddion newydd trwy ymuno â'n rhestr bostio. Rhagor