Neidio i'r prif gynnwy

Adolygwch eich nodau a'ch gwerthoedd

Edrychwch ar y gwerthoedd a'r nodau SMART y gwnaethoch eu gosod i’ch hun – Os nad ydych wedi gwneud hyn eisoes gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yma. Cofiwch, eich gwerthoedd yw'r rheswm pam y cychwynnoch chi'r siwrnai.

A yw eich nodau SMART yn dal i deimlo'n berthnasol ac yn realistig? Os ydyn nhw, daliwch ati!

Os ydyn nhw'n teimlo allan o’ch cyrraedd i raddau, gallwch wneud rhai newidiadau. Er enghraifft, os oeddech chi'n bwriadu nofio gyda ffrind 5 diwrnod yr wythnos yn wreiddiol, ceisiwch anelu at 2 ddiwrnod yr wythnos yn lle hynny.

Gofynnwch i’ch hun beth sy'n eich rhwystro

Mae'n arferol wynebu rhwystrau ar y ffordd pan fyddwn yn gwneud newidiadau i'n harferion bob dydd. Pan fyddwch chi'n wynebu rhwystr, yn hytrach na 'cheisio gwneud iawn amdano' gyda gweithgarwch corfforol gormodol neu drwy gyfyngu ar fwyd, treuliwch ychydig o amser yn myfyrio.

Os ydych chi'n hunan-fonitro drwy ddefnyddio dyddiadur bwyd neu weithgarwch (gallwch ddarllen mwy am y rhain yma), gallai fod yn ddefnyddiol defnyddio hyn i nodi beth sy'n eich rhwystro. Dyma rai rhwystrau cyffredin y mae llawer o bobl yn eu hwynebu wrth wneud newidiadau i ffordd o fyw.

'Does gen i ddim digon o amser' 

Nid oes rhaid cyflawni eich gweithgarwch corfforol i gyd ar yr un pryd, mewn gwirionedd mae'n fwy buddiol ei rannu’n gyfnodau llai yn ystod y dydd.

'Rwy’n rhy flinedig'

Gall paratoi eich cinio ar gyfer gwaith y noson gynt neu baratoi eich swper yn y bore fel y bydd yn barod pan fyddwch chi'n teimlo'n flinedig gyda'r nos yn gallu helpu i'ch cadw ar ben ffordd. Cofiwch, er y gallech deimlo'n rhy flinedig i fod yn actif, mae bod yn actif yn gorfforol yn rhoi mwy o egni i chi yn y pendraw.

'Dydw i ddim yn teimlo unrhyw gymhelliant'

Atgoffwch eich hun o'ch gwerthoedd, rhowch nhw mewn mannau lle gallwch eu darllen yn rheolaidd. Gall rhannu eich nodau â ffrindiau a theulu helpu gan y gallan nhw eich cefnogi chi hefyd.

Byddwch yn garedig i’ch hun

Mae'n bwysig cofio y dylai'r newidiadau yr ydych chi'n eu gwneud aros gyda chi am oes, felly dylen nhw fod yn realistig ac yn bleserus i chi eu cyflawni. Drwy wneud hynny, rydych chi'n fwy tebygol o fod eisiau parhau â'ch dewisiadau o ran ffordd o fyw iach hyd yn oed pan fyddwch chi wedi cyrraedd eich nod.

Cofiwch, mae hyn yn newid hirdymor felly peidiwch â theimlo'n euog na beirniadu eich hun yn ormodol pan na fydd pethau'n mynd fel y dylen nhw.

Parhau â'ch siwrnai

Rydych chi wedi cyrraedd diwedd y siwrnai Cymdeithasol. Mae'r tudalennau nesaf yn ymwneud â Bwyd a Diod, gan ddechrau gyda Trosolwg o fwyta'n iach.

 

Ymuno â'r Gymuned

Byddwch y cyntaf i glywed am gynnwys a nodweddion newydd trwy ymuno â'n rhestr bostio. Rhagor