Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw hunan-fonitro a pham dylwn ei wneud?

Mae hunan-fonitro yn ffordd o fesur ein cynnydd. Trwy wneud cofnod o’n hymddygiad, rydym hefyd yn dod yn fwy ymwybodol o’r hyn a allai fod yn ein hatal rhag cyrraedd ein nodau. Os nad ydych wedi darllen am osod nodau eto, gallwch ddarllen amdano yma.

Dyddiaduron bwyd

Un o'r mathau mwyaf cyffredin o hunan-fonitro yw drwy ddyddiadur bwyd. Chi sy’n penderfynu beth i'w gynnwys yn eich dyddiadur bwyd. Gallai fod yn ddefnyddiol cynnwys yr hyn y gwnaethoch ei fwyta, pryd, gyda phwy, sut roeddech yn teimlo a maint eich dogn. Gall cadw dyddiadur bwyd eich helpu i fod yn ymwybodol o'ch arferion bwyta, a gall eich helpu i nodi’r newidiadau bach y mae angen i chi eu gwneud o bosibl i'ch helpu i gyrraedd eich nod.

Er enghraifft, efallai y byddwch yn sylwi dros y 7 diwrnod diwethaf eich bod wedi cael tair bisgïen am 4pm oherwydd bod eisiau bwyd arnoch a’ch bod yn teimlo dan straen. Efallai gallech chi benderfynu cynllunio byrbryd yn gynnar yn y prynhawn sy'n iachach ac yn ddigonol. 

Efallai y bydd yn haws i chi gadw dyddiadur bwyd digidol ar eich ffôn symudol neu liniadur, yn hytrach nag un ffisegol.

Cael y Dyddiadur Pwysau Iach, Byw'n Iach yma:

Hunan-bwyso rheolaidd

Mae pwyso eich hunain yn fath arall o hunan-fonitro a ddefnyddir yn aml. Mae’n syniad da pwyso eich hun ar yr un amser o’r dydd bob wythnos. Gall cymryd nodyn o’ch pwysau wythnosol ar dabl neu graff eich helpu i fesur eich cynnydd. Gall monitro eich pwysau yn rheolaidd hefyd eich helpu i gynnal eich pwysau ar ôl colli pwysau.

Os nad ydych yn teimlo'n gyfforddus yn pwyso'ch hun, gallech fesur eich cluniau, eich canol a'ch brest yn lle hynny. Mae lluniau cynnydd yn ffordd arall o fesur eich cynnydd, neu gallwch ddilyn teimlad eich dillad yn lle hynny. Ystyriwch beth sydd orau i chi.

Cofnodion gweithgarwch

Yn yr un modd â dyddiaduron bwyd, gellir defnyddio cofnodion gweithgarwch i gofnodi faint o funudau o weithgarwch corfforol rydych wedi'u cwblhau bob dydd, pa fath o weithgarwch y gwnaethoch ei gwblhau a pha mor anodd ydoedd. Efallai y byddwch hefyd yn dewis cofnodi eich camau bob dydd wrth gerdded. Gellir gwneud gweithgarwch corfforol drwy gydol y dydd, a gall cofnodi bob tro y byddwch yn actif yn gorfforol fod yn ffordd galonogol o weld faint o gynnydd rydych yn ei wneud, neu gall eich atgoffa i gynnwys mwy o weithgarwch corfforol yn eich trefn ddyddiol.

Parhau a'ch siwrnai

Ewch i'r dudalen nesaf sef Gosod eich nodau i barhau a'ch siwrnai.

 

Ymuno â'r Gymuned

Byddwch y cyntaf i glywed am gynnwys a nodweddion newydd trwy ymuno â'n rhestr bostio. Rhagor