Neidio i'r prif gynnwy

Yn y byd sydd ohoni, a'r ffyrdd niferus rydym yn cael gwybodaeth, efallai y byddwch yn ei chael hi'n anodd gwybod pa gyngor ar faeth a rheoli pwysau i ddibynnu arno neu i'w osgoi. Er y gall beri dryswch, mae ychydig o bethau y gallwch eu gwneud i ganfod gwybodaeth ddiogel a dibynadwy.

Darllenwch y tu hwnt i’r penawdau

Yn aml, defnyddir pennawd i hoelio'ch sylw ac nid yw'n adlewyrchu'r cyngor gwirioneddol. Darllenwch heibio'r pennawd i ddysgu beth mae'r wybodaeth ei hun yn ei gynnwys.

Edrychwch ar y ffynhonnell – a yw’n ddibynadwy?

A yw'r wybodaeth wedi'i rhoi gan rywun cymwys ym maes maeth? Gallwch weld a yw'n arbenigwr maeth ac yn cael ei reoleiddio yn y DU drwy’r Gymdeithas Faeth (AfN) ar gyfer Maethegwyr Cofrestredig (RNutr) neu'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) ar gyfer Deietegwyr Cofrestredig (RD):

Hefyd, edrychwch am ‘RD’ neu ‘RNutr’ wrth ymyl yr enw.

Os byddwch yn amau unrhyw beth, dylech gadarnhau â ffynonellau swyddogol

Dylech gadarnhau'r wybodaeth eto gyda ffynonellau swyddogol, fel Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC), y GIG, neu Gymdeithas Ddeieteg Prydain (BDA). Ydyn nhw’n dweud yr un peth?

Os yw’n swnio’n rhy dda i fod yn wir, mae’n debyg ei fod!

Ni fydd cyngor ar faeth a rheoli pwysau sy'n ddiogel ac yn realistig yn eich annog i roi cynnig ar atebion rhwydd neu i golli pwysau mewn ffyrdd eithafol a chyflym dros gyfnod byr.

Byddwch yn ofalus pan fydd cynnyrch neu gwmni yn noddi'r wybodaeth neu berson

Gall hyn hyrwyddo cynnyrch neu ddiddordeb cwmni yn lle rhoi cyngor ar faeth sy'n gywir ac yn ddiogel.

Nid yw gweithwyr proffesiynol maeth a gweithwyr iechyd eraill yn gwerthu atchwanegiadau neu gynhyrchion deiet

Os yw'r wybodaeth yn cynnwys dolen neu’n eich annog i brynu cynnyrch, byddwch yn ofalus. Cadarnhewch gyda gweithiwr maeth proffesiynol cymwys. 

Mae cyngor ar hyrwyddo ‘uwch-fwydydd’ yn ffug ac yn gamarweiniol

Nid oes ‘uwch-fwydydd’ ar gael. Gall diet cytbwys ac iach gefnogi eich iechyd, ond ni all unrhyw eitem o fwyd nac un atchwanegiad ‘roi hwb’ i’ch system imiwnedd.  

Osgowch gyngor sy’n argymell cael gwared ar fwydydd neu grwpiau bwyd o’ch deiet yn llwyr

Nid yw cyngor swyddogol ar fwyta’n iach yn argymell cael gwared ar fwydydd neu grwpiau bwyd oni bai bod gweithiwr iechyd proffesiynol wedi dweud wrthych am wneud hynny. 

 Y tro nesaf y byddwch yn darllen gwybodaeth am fwyd yn y cyfryngau, ystyriwch y pwyntiau hyn cyn i chi ddibynnu ar y cyngor.

 

Adnabod Cyngor Credadwy

 

Ymuno â'r Gymuned

Byddwch y cyntaf i glywed am gynnwys a nodweddion newydd trwy ymuno â'n rhestr bostio. Rhagor