Neidio i'r prif gynnwy

I chi, gall gwneud newidiadau bach i'ch deiet fod yn rhan bwysig o reoli eich iechyd a'ch pwysau.

Nid yw bwyta’n iachach yn golygu cyfnewid yr holl brydau rydych fel arfer yn eu coginio a’u mwynhau am rai gwahanol. Mae llawer o ffyrdd o wneud eich hoff ryseitiau'n iachach, gyda newidiadau bach sy'n addas i chi.

Nid oes yn rhaid i chi wneud yr holl newidiadau ar unwaith. Gallech roi cynnig ar un neu ddau o bethau i ddechrau, ac adeiladu arnyn nhw gyda newidiadau newydd ar eich cyflymdra eich hun dros amser.

Gwneud prydau bwyd bob dydd yn iachach

Efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi feddwl am eich prydau arferol a'r dognau sydd gennych ar eich plât fel arfer. Ydyn nhw’n gytbwys, neu ydych chi'n meddwl y gallech wneud newidiadau ar gyfer cyfuniad iachach?

Dyma rai newidiadau eraill y gallech eu gwneud hefyd.

 

Rhoi cynnig ar ddewisiadau grawn cyflawn

Mae gan fara, roti, chapati, pasta, reis a grawnfwydydd brecwast grawn cyflawn fwy o ffibr a maethynnau na fersiynau gwyn a gallan nhw hefyd eich llenwi am gyfnod hirach.                                                   

Os nad ydych wedi arfer â dewisiadau grawn cyflawn, dechreuwch gyda hanner a hanner, fel bara 50:50.

Rhoi cynnig ar sawsiau tomato

Gall sawsiau tomato gynnwys llai o galorïau na sawsiau caws a hufen.


Newid i ddarnau o gig â llai o fraster

Gall dewis darn gwahanol o gig neu dorri'r braster i ffwrdd wrth goginio wneud eich prydau'n iachach.
 

Math
Newidiwch
Rhowch gynnig ar
Porc
Darn o fola porc wedi'i goginio gyda braster.
Coes porc heb lawer o fraster wedi'i goginio heb fraster.
Cig Eidion
Stecen cig eidion neu gig eidion wedi’i ddeisio â braster.
Stecen heb lawer o fraster neu gig eidion wedi’i ddeisio heb fraster.
Briwgig eidion 20% braster.
Peli Cig.
Briwgig eidion llai na 12% braster.
Peli cig heb lawer o fraster.
Cig Oen
Briwgig oen 20% braster.
Briwgig oen 10% braster.
Dofednod    
Brest cyw iâr neu gluniau cyw iâr gyda’r croen.
Brest cyw iâr neu gluniau cyw iâr heb y croen.

Newid rhai o’r cig yn eich prydau bwyd am ffa neu gorbys

Mae ffa, codlysiau, ffa soia, darnau soia a chorbys neu dhal yn cynnwys lefelau is o fraster a lefelau uwch o ffibr o’u cymharu â chig.

 

Ychwanegu mwy o lysiau at eich prydau bwyd

Ceisiwch ychwanegu mwy o lysiau a llai o gig neu garbohydradau. Gallech ddefnyddio unrhyw lysiau sydd gennych gartref drwy ychwanegu at eich ryseitiau cyffredin, fel stiwiau, cyris, caserolau a bwyd wedi'i dro-ffrio.
 

Dulliau coginio

Yn lle ffrio, ceisiwch grilio neu bobi os yw’n bosibl. Os ydych yn rhoi rhan neu'r cyfan o'ch prydau yn y ficrodon, ceisiwch ddraenio'r braster i ffwrdd ar ôl coginio.

Gall newid o fenyn, lard neu ghee i olew llysiau, olew olewydd neu olew chwistrellu, a defnyddio ychydig bach yn unig wrth goginio wneud eich prydau bwyd yn iachach heb gael gwared ar y blas rydych yn ei fwynhau.

Meddyliwch am bryd o fwyd rydych yn ei wneud yn rheolaidd ac ysgrifennwch y newidiadau posibl y gallech eu gwneud.

 

Gwella sgiliau coginio

Gall y cyrsiau canlynol fod yn ddefnyddiol ar gyfer cymorth pellach i wella eich sgiliau coginio neu i fagu eich hyder wrth goginio gartref.

Mae Sgiliau Maeth am Oes yn cynnig cyrsiau bwyd a maeth difyr ac anffurfiol i aelodau’r gymuned ledled Cymru. Dewch o hyd i’ch cwrs lleol yma.

Mae ‘Healthy Cooking Made Easy’ yn gwrs ar-lein am ddim i’ch helpu i ddatblygu neu ddiweddaru eich sgiliau coginio gartref. Gallwch gofrestru yma. (Linc Saesneg yn unig)

Efallai y bydd cyrsiau ar-lein neu gyrsiau dysgu i oedolion lleol eraill ar gael i chi. Chwiliwch i weld beth allai fod yn briodol i chi.

 

Ymuno â'r Gymuned

Byddwch y cyntaf i glywed am gynnwys a nodweddion newydd trwy ymuno â'n rhestr bostio. Rhagor