Neidio i'r prif gynnwy

Symud yn dda

Gall gweithgarwch corfforol rheolaidd helpu i atal a rheoli dros 20 o gyflyrau cronig a chlefydau, sy’n fwy nag unrhyw ymyriad unigol arall. Yn ddiweddarach mewn bywyd, gall helpu i drin a lliniaru symptomau ystod o gyflyrau cronig (e.e. iselder, CVD, clefyd Parkinson).

I bobl sydd â chyflwr cronig neu glefyd eisoes, bydd bod yn fwy actif yn gorfforol yn cynnig amrywiaeth eang o fanteision meddyliol a chorfforol ac yn helpu i drin y cyflwr/cyflyrau neu glefyd(au) sylfaenol mewn llawer o achosion. Os oes gennych gyflwr cronig ar hyn o bryd, mae’n bwysig iawn eich bod chi bob amser yn trafod gyda gweithiwr iechyd proffesiynol cyn dechrau unrhyw newid arfaethedig i’ch gweithgarwch corfforol dyddiol neu wythnosol.

 

I gael rhagor o wybodaeth am sut i fod yn actif pan fo gennych gyflwr iechyd – ewch i’r wefan We Are Undefeatable. (Linc Saesneg yn unig)
 

Pe bai gweithgarwch corfforol yn gyffur, byddem yn cyfeirio ato fel gwyrth, oherwydd yr afiechydon niferus y gall eu hatal neu helpu i’w trin.

 

Atgyfeirio i ymarfer corff

Mae’r Cynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS) yn darparu mynediad i ymarfer corff wedi’i deilwra a’i oruchwylio i bobl 16+ oed, sy’n anactif lle ceir risg o fod â chyflwr iechyd hirdymor neu gronig, neu fod hynny eisoes yn wir.

Gall gweithwyr iechyd proffesiynol atgyfeirio unigolion i’r cynllun NERS lleol a bydd yn cael asesiad cychwynnol, adolygiad 4 wythnos a rhaglen ymarfer corff wedi’i graddio’n briodol am 16 wythnos. Ar ddiwedd y rhaglen, anogir cyfranogion i symud ymlaen i amrywiaeth o gyfleoedd  i fod yn actif yn gorfforol ac maen nhw’n cael eu cyfeirio at raglenni amrywiol yn eu cymunedau lleol.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am y Cynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff, gan gynnwys darganfod a ydych yn gymwys i ddefnyddio’r gwasanaeth.

 
 
Dechreuwch heddiw, mae pob munud yn cyfri!

 

Ymuno â'r Gymuned

Byddwch y cyntaf i glywed am gynnwys a nodweddion newydd trwy ymuno â'n rhestr bostio. Rhagor