Neidio i'r prif gynnwy

Mae’n amser meddwl am eich nodau eich hun. Os nad ydych wedi edrych ar dudalennau Gosod nodau a Chymhelliant Pwysau Iach Byw'n Iach eisoes, efallai yr hoffech chi wneud hynny yn gyntaf i’ch helpu i osod eich nodau.

Rydym yn argymell dewis nifer bach o nodau i ganolbwyntio arnyn nhw. Gall hyn fod yn 1, 2, neu 3 nod. Atebwch y cwestiynau isod yn fan cychwyn – Cofiwch ystyried y gwerthoedd yr ydych wedi’u nodi wrth wneud hyn!

Fy nod SMART:

  • Penodol (Specific) – Gwnewch eich nod mor benodol â phosibl. Beth yn union ydych chi eisiau ei gyflawni?
     
  • Mesuradwy (Measurable) – Nodwch ffordd o fesur eich cynnydd wrth weithio tuag at eich nod. Sut byddwch chi’n gwybod pan fyddwch chi wedi ei gyrraedd?
     
  • Cyraeddadwy (Achievable) – Dylai’ch nod fod ychydig allan o gyrraedd ond nid allan o’r golwg. Ydy’ch nod yn heriol ond yn bosibl ei gyflawni?
     
  • Perthnasol (Relevant) – Meddyliwch am eich gwerthoedd. Ydy hyn yn rhywbeth a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’ch bywyd?
     
  • Amser-gyfyngedig (Time-bound) – Rhowch amser erbyn pryd yr hoffech chi gyrraedd eich nod. Erbyn pryd ydych chi eisiau ei gyrraedd?

Fy nodau tymor byr

Cofiwch, dyma'ch camau bach i'ch helpu i gyrraedd eich prif nod. Ceisiwch eu gwneud mor benodol â phosib. Er enghraifft, byddaf yn:

  • yfed 6-8 gwydraid o ddŵr y dydd
  • cerdded y ci ddwywaith y dydd am 30 munud
  • cael un pryd tecawê yn unig y mis.

Beth allai fy rhwystro?

Ystyriwch eich nod tymor hir, y camau bach, a'r nodau tymor byr yr ydych newydd eu hysgrifennu. Treuliwch ychydig o amser yn meddwl am yr hyn a allai eich baglu neu’ch rhwystro rhag cyrraedd eich nod.

Dod dros rwystrau

Nawr, ystyriwch beth allwch chi ei wneud i'ch helpu gyda'r rhwystrau hynny; a sut y gallwch chi gynnwys y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch. Er enghraifft, os mai’ch nod yw coginio cinio iachach gartref yn ystod yr wythnos, efallai y bydd diffyg amser yn eich rhwystro chi oherwydd bod yn rhaid i chi weithio’n hwyr neu fod gan eich plant chwaraeon ar ôl ysgol. Efallai yr hoffech chi gynllunio’r hyn yr ydych chi eisiau ei fwyta a’r amser sydd ei angen arnoch i’w baratoi. Gallech hefyd ystyried coginio mewn swmp ar gyfer sawl diwrnod. Gall helpu i ysgrifennu hyn:

Os bydd ____________________________ yn digwydd,
Rwy’n bwriadu ________________________________.

Adolygu ac adnewyddu!

Mae’n bwysig adolygu eich nodau’n rheolaidd. Gallai hyn fod yn wythnosol neu’n fisol, gan ddibynnu ar eich nodau. Gofynnwch i’ch hun, ydw i’n gwneud cynnydd? Oes rhywbeth y gallwch ei newid i wneud eich nod yn fwy realistig neu'n haws ei gyflawni?

Parhau â'ch siwrnai

Ewch i'r dudalen nesaf sef Cael eich hun yn ôl ar ben ffordd ar ôl baglu i barhau â'ch siwrnai.

 

Ymuno â'r Gymuned

Byddwch y cyntaf i glywed am gynnwys a nodweddion newydd trwy ymuno â'n rhestr bostio. Rhagor