Neidio i'r prif gynnwy

Efallai eich bod wedi sylwi ar eich pwysau yn cynyddu yn dilyn newidiadau yn eich bywyd. Gall hyn gynnwys swydd newydd neu newid i’ch trefniadau gweithio, dechrau teulu, newid perthynas, diagnosis iechyd, neu amser heriol llawn straen oherwydd y pandemig.

Efallai fod y profiadau hyn wedi effeithio ar sut rydych yn bwyta a faint a’r mathau o fwydydd rydych chi’n eu bwyta. Efallai eich bod yn bwyta neu’n yfed mwy, gan ddewis bwydydd egni uwch.

Efallai eu bod hefyd wedi effeithio ar eich lefelau gweithgarwch, er enghraifft efallai eich bod mewn swydd lle’r ydych yn eistedd ac yn symud yn llai aml. Efallai nad ydych yn actif ar eich siwrnai i’r gwaith ac efallai eich bod yn llosgi llai o egni nag oeddech chi’n flaenorol.

Gall newid i’ch cydbwysedd egni arwain at fagu pwysau

Gallwch gael y cydbwysedd yn ôl drwy wneud newidiadau iachus. Ar y llaw arall, os ydych yn llai actif ac yn bwyta mwy nag sydd ei angen ar eich corff, mae’n bosibl y bydd eich pwysau yn cynyddu dros amser. Wrth gwrs, nid ydym yn sôn am y dathliad bwyd achlysurol; cydbwysedd y tymor hir sy’n bwysig.

Beth nesaf?

Gall meddwl am y ffactorau sy’n effeithio ar eich cydbwysedd egni eich helpu i gymryd y cam cyntaf.

Gofynnwch i’ch hun – Beth wnaeth newid yn fy mywyd?

Yna, ewch yn ddyfnach a gofyn:

  • Sut mae’r bwyd rwy’n ei fwyta a/neu fy mhatrymau bwyta wedi newid?
  • Ydy fy lefelau gweithgarwch wedi newid?
  • Sut gallaf i wneud newidiadau i gael y cydbwysedd yn ôl?
Beth sy’n iawn i chi nawr?

Meddyliwch am newidiadau ffordd o fyw iachus sy’n iawn i chi eu gwneud nawr ar hyn o bryd yn eich bywyd.

Cadwch nodau yn realistig ac yn bosibl eu cyrraedd.

Cofiwch y gall camau bach sy’n gweddu i’ch bywyd wneud gwahaniaeth mawr.

Parhau â'ch siwrnai

Ewch i'r dudalen nesaf sef Cymhelliant i barhau â'ch siwrnai.

 

Ymuno â'r Gymuned

Byddwch y cyntaf i glywed am gynnwys a nodweddion newydd trwy ymuno â'n rhestr bostio. Rhagor