Beth yw gosod nodau, a pham mae’n bwysig?
Nod yw rhywbeth yr hoffem ei gyflawni. Gall gosod nodau i’n hunain ein helpu i fod yn benodol am beth rydym am ei gyflawni. Gall gosod nodau hefyd ein galluogi i nodi beth y mae angen i ni roi’r gorau iddo, dechrau arni, neu wneud yn wahanol i gyflawni ein nodau.
Nodau SMART
Er mwyn helpu i wneud ein nodau yn fwy realistig a chyraeddadwy, mae’n bwysig eu gwneud yn rhai SMART. Mae nod SMART, sy’n acronym Saesneg, yn dilyn y nodweddion canlynol:
- Penodol (Specific) – Gwnewch eich nod mor benodol â phosibl.
- Mesuradwy (Measurable) – Nodwch ffordd o fesur eich cynnydd wrth weithio tuag at eich nod.
- Cyraeddadwy (Achievable) – Dylai’ch nod fod ychydig allan o’ch cyrraedd ond nid o’r golwg.
- Perthnasol (Revelant)– Meddyliwch am eich gwerthoedd.
- Amser-gyfyngedig (Timely) – Rhowch amser erbyn pryd yr hoffech chi gyrraedd eich nod.
Nodau tymor byr, tymor canolig a thymor hir
Pan fyddwch chi wedi gwneud eich nod tymor hir yn nod SMART, gallwch ddechrau nodi nodau tymor byr. Nodau tymor byr yw'r camau bach a fydd yn eich helpu i gyrraedd eich nod tymor hir. Er enghraifft, os mai eich nod SMART tymor hir yw cerdded pellter penodol mewn 6 mis, sicrhewch fod eich nodau tymor byr yn realistig ac yn cyd-fynd â'ch ffordd o fyw. Er enghraifft, (a) newidiwch unrhyw deithiau byr y byddwch fel arfer yn eu cymryd mewn car neu fws yn deithiau cerdded (b) wrth gwrdd â ffrindiau neu deulu, awgrymwch fynd am dro yn y parc yn lle eistedd gartref, (c) defnyddiwch y grisiau bob tro yn lle’r lifft neu’r grisiau symud.
Baglu a dathlu
Wrth osod eich nodau, mae'n bwysig ystyried beth allai eich baglu. Drwy ystyried rhwystrau posibl, gallwch feddwl am ffyrdd o'u goresgyn. Er enghraifft, efallai y byddwch yn penderfynu, os nad oes gennych amser i gerdded yn ystod eich egwyl ginio, yna byddwch yn neilltuo amser i fynd am dro ar ôl swper yn lle hynny. Gallwch ddarllen mwy am gael eich hun yn ôl ar ben ffordd yma.
Yn bwysicaf oll, cofiwch ddathlu eich llwyddiannau! Drwy wneud eich nodau’n fesuradwy, byddwch yn gwybod pan fyddwch wedi cyrraedd nod tymor byr neu dymor hir. Meddyliwch am yr hyn y byddwch yn ei wneud i ddathlu eich cyflawniad – a fyddwch yn cael bath swigod i'ch hun, yn gwrando ar hoff bodlediad neu'n neilltuo amser i’ch hun a chwrdd â ffrind i ddal i fyny?
Nawr eich bod yn gwybod popeth am osod nodau, cliciwch yma i ddechrau gosod eich nodau.
Parhau â'ch siwrnai
Ewch i'r dudalen nesaf sef Cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i barhau â'ch siwrnai.