Rydych chi wedi dewis Siwrnai Tri - DIOGEL
Mae bywyd yn gallu bod yn anodd i chi ar adegau, ac efallai bydd yn rhaid i chi ymdrin â heriau corfforol a meddyliol bob dydd. Gallai hyn olygu eich bod wedi cael cyfnodau anodd yn ystod eich plentyndod ac efallai eich bod wedi cael trafferthion gyda'ch pwysau ers dyddiau ieuenctid. Efallai y byddwch chi'n gweld bod eich pwysau'n effeithio ar eich iechyd, ond efallai eich bod chi wedi ei chael hi'n anodd gwneud y newidiadau cywir.
Parhau â'ch siwrnai
Ewch i'r dudalen nesaf sef Ymdrin â thrawma i barhau â'ch siwrnai.