Neidio i'r prif gynnwy

Gweithgarwch corfforol a chi

Mae bod yn actif yn gorfforol yn cynnig amrywiaeth enfawr o fanteision meddyliol a chorfforol. Mae’r rhain yn cynnwys hybu’ch lles cyffredinol, lleihau’r risg o dros 20 o gyflyrau iechyd a chlefydau, helpu i gynnal neu gyflawni pwysau iach a gwella llawer o agweddau cymdeithasol ar eich bywyd.

Mae gweithgarwch corfforol yn fwy na chwaraeon neu fynd i’r gampfa. Gall fod yn bethau fel garddio, cerdded i’r siopau neu fynd am dro ar y beic hefyd.

 

 

Fodd bynnag, i lawer ohonom, ni yw’r genhedlaeth gyntaf sydd angen gwneud penderfyniad ymwybodol i gynnwys gweithgarwch corfforol yn ein bywydau bob dydd. Mae gan lai ohonom swyddi corfforol. Mae technoleg a dyfeisiau arbed amser yn dominyddu gartref ac yn y gwaith, y ddau le yr ydym yn treulio’r rhan fwyaf o’n hamser. Mae newidiadau cymdeithas wedi’u dylunio’n anffodus i leihau gweithgarwch corfforol yn ein bywydau.

 

Canllawiau presennol

Mae’n bwysig cofio er bod y canllawiau yna yn nod neu’n darged personol, bydd unrhyw fath a lefel o weithgarwch corfforol yn fuddiol i chi. Fodd bynnag, yn gyffredinol po fwyaf o amser y byddwch yn ei dreulio yn bod yn actif yn gorfforol, y mwyaf y bydd y manteision i’ch iechyd.
 

 

Cydnabyddiaeth: GOV.UK

 

 

Bod yn eisteddog

Mae eistedd, gorwedd neu ledorwedd am gyfnodau hir pan fyddwch ar ddihun yn niweidiol hyd yn oed i bobl sy’n gymharol actif am rannau eraill o’r dydd. Mae’n bwysig rhannu cyfnodau hir o fod yn llonydd mor aml â phosibl, trwy wneud o leiaf gweithgarwch corfforol ysgafn, fel ymestyn am gwpl o funudau.

 

Awgrymiadau da

Dyma rai awgrymiadau:

  • Gwnewch yr hyn rydych chi'n ei fwynhau ond byddwch yn barod i roi cynnig ar bethau newydd bob amser.
  • Ceisiwch gerdded neu feicio am deithiau byrrach.
  • Traciwch eich cynnydd, boed yn nifer y camau neu faint o ddosbarthiadau ymarfer corff rydych chi wedi’u gwneud.

 

Symudwch fwy ac yn amlach 

 

Ymuno â'r Gymuned

Byddwch y cyntaf i glywed am gynnwys a nodweddion newydd trwy ymuno â'n rhestr bostio. Rhagor