Neidio i'r prif gynnwy

Da iawn! Rydych chi wedi penderfynu gwneud newidiadau pwysau iach. Rydym yn deall bod cymaint o wybodaeth am golli pwysau a gall fod yn anodd gwybod ble i ddechrau a pha opsiynau syn addas i chi.

Peidiwch â phoeni; gall llawer o opsiynau colli pwysau weithio i chi a’ch ffordd bresennol o fyw. Mae gwahanol bethau yn gweithio i wahanol bobl.

Hunangymorth

Mae dulliau hunangymorth effeithiol ar gyfer colli pwysau yn cynnwys:

  • cefnogi’ch lles meddyliol
  • gwneud newidiadau i’r bwyd a’r ddiod rydych chi’n ei fwyta a’i yfed
  • bod yn actif yn gorfforol
  • cryfhau cymhelliant a hyder
  • defnyddio offer newid ymddygiad fel gosod nodau, hunan-fonitro, cael cymorth ac arferion positif.

Canfu ein hymchwil fod cynnwys wedi'i bersonoli yn fwy apelgar ac yn helpu i gynnal cymhelliant. Mae’n bwysig bod y newidiadau yn cyd-fynd â’ch bywyd ac y gellir eu cynnal dros amser.

Mae’n bwysig cydnabod sut y gallech chi ddefnyddio bwyd fel ffordd o ymdopi, oherwydd bydd hyn yn eich helpu i wneud newidiadau. Efallai bydd angen i chi ganolbwyntio ar eich lles emosiynol a sut mae hyn yn cysylltu â’ch siwrnai colli pwysau.

I chi, man cychwyn gwych ar eich siwrnai yw gosod nodau personol y gellir eu cyflawni ond sy’n eich herio.

Mae targedu eich ymddygiad bwyd penodol yn allweddol i’ch siwrnai colli pwysau. Cofiwch, nid oes angen rhoi’r gorau i’r holl fwydydd rydych chi’n eu mwynhau. Mae digon o ffyrdd o wneud newidiadau bob dydd bach a fydd yn gweddu. Mae cyfuno bwyta’n iachach â gweithgarwch corfforol yn ffordd wych o weld gwelliannau yn eich ffitrwydd a chefnogi colli pwysau. Gall gweithgarwch corfforol helpu lles cyffredinol hefyd.

Gwasanaethau eraill

Gallai rhai pobl elwa ar gymorth ychwanegol i golli pwysau, e.e. os oes gennych BMI (mynegai màs y corff) dros 30 a/neu gyflyrau iechyd. Gallwch gysylltu â’ch meddyg teulu neu’ch nyrs practis am ragor o gymorth a chefnogaeth.

Efallai bydd cefnogaeth grŵp yn ddefnyddiol i chi os yw gwneud y newidiadau yn anodd ar eich pen eich hun.

Bydd eich bwrdd iechyd lleol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i helpu i gefnogi’ch siwrnai colli pwysau yn dibynnu ar y cymorth sydd ei angen arnoch.

Parhau â'ch siwrnai

Ewch i'r dudalen nesaf sef Cael eich hun yn ôl ar ben ffordd ar ôl baglu i barhau â'ch siwrnai. 

 

Ymuno â'r Gymuned

Byddwch y cyntaf i glywed am gynnwys a nodweddion newydd trwy ymuno â'n rhestr bostio. Rhagor