Neidio i'r prif gynnwy

trMae’n amser meddwl am eich nodau eich hun. Os nad ydych wedi edrych ar dudalennau Gosod nodau a Chymhelliant Pwysau Iach Byw'n Iach eisoes, efallai yr hoffech chi wneud hynny yn gyntaf i’ch helpu i osod eich nodau. 

Rydym yn argymell canolbwyntio ar 1, 2, neu 3 nod. Atebwch y cwestiynau isod yn fan cychwyn – Cofiwch ystyried y gwerthoedd yr ydych wedi’u nodi wrth wneud!

Dewiswch nod sy’n ein cymell yn fawr, fel colli pwysau’n iach ar gyfer gwedd newydd, gwyliau, neu ddigwyddiad cymdeithasol. Gwnewch yn siŵr bod gennych chi ddelwedd glir yn eich pen ynglŷn â sut mae llwyddiant yn edrych ac yn teimlo. Dyma fydd yn eich cymell i wneud newidiadau a chadw atyn nhw.

Fy nod SMART:

  • Penodol (Specific) – Gwnewch eich nod mor benodol â phosibl. Beth yn union ydych chi eisiau ei gyflawni?
     
  • Mesuradwy (Measurable) – Nodwch ffordd o fesur eich cynnydd wrth weithio tuag at eich nod. Sut byddwch chi’n gwybod pan fyddwch chi wedi ei gyrraedd?
     
  • Cyraeddadwy (Achievable) – Dylai’ch nod fod ychydig allan o gyrraedd ond nid allan o’r golwg. Ydy’ch nod yn heriol ond yn bosibl ei gyflawni?
     
  • Perthnasol (Relevant) – Meddyliwch am eich gwerthoedd. Ydy hyn yn rhywbeth a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’ch bywyd?
     
  • Amser-gyfyngedig (Time-bound) – Rhowch amser erbyn pryd yr hoffech chi gyrraedd eich nod. Erbyn pryd ydych chi eisiau ei gyrraedd?

Fy nodau tymor byr

Paratowch eich hun i lwyddo gyda nodau cyraeddadwy sy’n cyd-fynd yn hawdd â'ch ffordd o fyw. Efallai bydd y rhain yn helpu i roi hwb i’ch hyder a'ch cymell i barhau.

Newid un peth / arferion iachach

Meddyliwch am rywbeth yr ydych chi’n ei wneud yn rheolaidd a allai gyfrannu at eich pwysau. Allech chi ei droi’n arferiad iachach drwy newid un peth? Er enghraifft, os ydych chi’n bwyta byrbrydau hwyr yn y nos, allech chi newid y byrbrydau i ddewisiadau iachach? Allech chi fynd am dro a gwrando ar bodlediad yn lle gwylio’r teledu?

Cofiwch, dyma’ch camau bach – Ceisiwch eu gwneud mor benodol â phosibl. Er enghraifft:

  • Byddaf yn yfed 6-8 gwydraid o ddŵr y dydd. 
  • Byddaf yn cerdded gyda ffrindiau 3 tro yr wythnos am 30 munud. 
  • Byddaf yn gwneud dewisiadau iachach wrth fwyta allan neu wrth archebu bwyd gartref.

Beth allai fy rhwystro?

Ystyriwch eich nod tymor hir a’r camau byrrach yr ydych newydd eu hysgrifennu. Treuliwch ychydig o amser yn ystyried yr hyn a allai eich rhwystro.

Goresgyn rhwystrau

Nawr ystyriwch beth allwch chi ei wneud i oresgyn y rhwystrau hynny.  Gall helpu i ysgrifennu hyn:

Os bydd ____________________________ yn digwydd,
Rwy’n bwriadu ________________________________.

Efallai fod gennych chi fwyd neu ddiod arbennig sy’n ‘ateb sydyn’ ar gyfer cyfnodau anodd neu i roi hwb i’ch egni. Nodwch eich sbardunau, e.e. straen, diflastod, neu hwyliau isel, a dewch o hyd i ffyrdd iachach o ymdrin â nhw. Efallai y gallech chi geisio mynd am dro, ffonio ffrind am sgwrs, neu ddechrau gweithgaredd hobi hamddenol newydd.

Gallwch ddod o hyd i ddewisiadau iachach, blasus eraill ar gyfer rhai o’ch hoff fwydydd a diodydd, leihau maint y dogn, neu leihau pa mor aml yr ydych chi’n eu cael.

Ystyriwch gael cefnogaeth gan ffrindiau a theulu. Efallai y bydd yn helpu i siarad â nhw am eich nodau a’ch gwerthoedd fel eu bod yn gwybod sut i’ch cefnogi ar eich siwrnai. Gallech chi ofyn iddyn nhw roi adborth cadarnhaol i chi i helpu i’ch annog chi. Gwahoddwch nhw i ymuno â chi mewn gweithgareddau iach a llawn hwyl. Efallai y byddwch chi’n gweld eu bod nhw eisiau ymuno â chi i gynnal newidiadau iach.
 

Adolygu ac adnewyddu!

Mae’n bwysig adolygu eich nodau’n rheolaidd. Gallai hyn fod yn wythnosol neu’n fisol, gan ddibynnu ar eich nodau. Gofynnwch i’ch hun, ydw i’n gwneud cynnydd? Os nad ydw i, pam ddim? Oes rhywbeth y gallwch ei newid i wneud eich nod yn fwy realistig neu'n haws ei gyflawni?

Cofiwch feddwl pam rydych yn gwneud hyn a sut yr ydych chi eisiau teimlo, e.e. yn fwy fel eich hun.

Parhau â'ch siwrnai

Ewch i'r dudalen nesaf sef Cynnal pwysau i barhau â'ch siwrnai.

 

Ymuno â'r Gymuned

Byddwch y cyntaf i glywed am gynnwys a nodweddion newydd trwy ymuno â'n rhestr bostio. Rhagor