Pam mae hi mor hawdd magu pwysau?
Mae llawer o resymau dros fagu pwysau ond yn aml mae’n gyfuniad o ffactorau. Gall y byd yr ydym yn byw ynddo a’n profiadau ei gwneud hi’n anoddach i gynnal pwysau iach – gweler y ffeithlun isod.
Yn y rhan fwyaf o wledydd y byd, mae mwy a mwy o bobl yn byw gyda gorbwysau neu gordewdra. Mae hyn yn amrywio o wlad i wlad ac yn anffodus, mae'r Deyrnas Unedig, yr Unol Daleithiau ac Awstralia ymysg y rhai yr effeithir arnynt fwyaf.
Cytunir yn gyffredinol bod y newidiadau hyn wedi digwydd oherwydd bod y byd yr ydym yn byw ynddo wedi newid cymaint dros y ganrif ddiwethaf. Rydym yn teithio mewn car, mae tuedd i ni fod mewn swyddi llai egnïol, sy'n golygu y gall ein bywydau fod yn llai egnïol. Hefyd mae mwy o amrywiaeth o fwyd a diod ar gael i ni bob amser o'r dydd, ym mhob man. Mae'r bwydydd hyn yn aml wedi’u prosesu ac yn cynnwys lefelau uchel o fraster a siwgr sy'n golygu ein bod yn bwyta mwy o fwyd a mwy o egni. Mae'r holl ffactorau hyn yn ei gwneud hi'n anoddach cynnal pwysau iach. Am ragor o wybodaeth gweler y ffeithlun:
Cydnabyddiaeth: Cancer Research UK
I chi, efallai bydd bwyd neu ddiod yn eich helpu i ymdopi mewn cyfnodau heriol neu pan fydd bywyd yn ddiflas. Mae hyn yn golygu efallai eich bod yn defnyddio bwyd neu ddiod fel 'ateb cyflym' i wella'ch hwyliau neu i gael rhywfaint o gysur. Efallai y byddwch chi'n bwyta'n wahanol, pan fydd bywyd yn anodd neu pan fyddwch wedi diflasu ac efallai y byddwch chi'n ysu am fwydydd sy'n eich gwneud i deimlo'n well.
Efallai eich bod wedi datblygu arferiad yr ydych yn ei chael hi'n anodd ei newid. Er enghraifft, bwyta bwyd neu ddiod arbennig ar yr un pryd neu ar yr un achlysur yn rheolaidd, er enghraifft ar ôl gwaith fel eich gwobr am y diwrnod neu tecawê rheolaidd. Gall bwyd neu ddiod fod yn rhan bwysig o'ch bywyd cymdeithasol hefyd ac efallai eich bod yn poeni y byddai'n anodd gwneud newidiadau a dal i gymdeithasu.
Efallai y byddwch hefyd yn canfod bod rheoli eich pwysau wedi mynd yn anoddach wrth i chi heneiddio, neu oherwydd cyfnodau arbennig mewn bywyd (e.e. y menopos).
Mae angen i'r newidiadau yr ydych yn eu gwneud ar gyfer pwysau iachach fod yn iawn i chi a gallwch wneud newidiadau er mwyn byw bywyd iachach a dal i fwynhau bywyd.
Efallai y byddwch chi'n gweld bod canolbwyntio ar eich lles emosiynol yn ffordd dda o gychwyn eich siwrnai.
Dyma rai o'r rhesymau unigol am magu pwysau.
Parhau â'ch siwrnai
Ewch i'r dudalen nesaf sef Rheoli pwysau iach hirdymor i barhau â'ch siwrnai.