Neidio i'r prif gynnwy

Pam mae ymdopi drwy’r cyfnodau da a gwael yn bwysig?

Mae yna lawer o ffyrdd y gall bwydydd effeithio ar sut rydym yn teimlo, yn union fel y gall sut rydym yn teimlo ddylanwadu ar ba fwydydd rydym yn eu bwyta. Mae hyn yn aml yn gysylltiedig â chysylltiadau presennol neu atgofion o fwyd â phrofiadau cadarnhaol neu negyddol blaenorol.

Mae bwyd yn ganolog i gynifer o bethau rydym yn eu gwneud. Mae'n rhan o’r ffordd rydym yn dathlu cyfnodau hapus a thrist, yn cysylltu ag eraill yn ystod galar neu golled, ac yn dathlu digwyddiadau llawen.

Beth allaf ei wneud i reoli'r cyfnodau da a gwael?

Mae'n bwysig deall pam rydym yn teimlo'r fel rydym ni a sut rydym yn ymateb i'r teimlad hwnnw. Mae adegau pan fyddwn wedi blino, wedi cynhyrfu, yn hapus neu'n drist pan fyddwn yn defnyddio bwyd i gysuro neu ddathlu. Mae rhai pethau y gallwch eu gwneud i adnabod sut rydych yn teimlo a sut i ymateb:

  • Derbyn beth sy'n digwydd neu'r sefyllfa yr ydych ynddi. Mae'n iawn bod yn hapus neu'n drist; derbyn ac ymdrin â sut rydych yn teimlo sy'n bwysig.
  • Defnyddio dyddiadur i gadw cofnod o’r hyn rydych wedi'i fwyta a sut roeddech yn teimlo pan wnaethoch chi fwyta.
  • Gwerthfawrogi beth sydd o'ch cwmpas. Gall hyn olygu cysylltu â ffrind neu rywun rydych yn gweithio gyda nhw.
  • Bod yn actif yn gorfforol a threulio amser yn yr awyr agored.

Os byddwch yn mynd i ddathliad, gadewch i’ch hun fwynhau'r bwyd sydd ar gael, ond meddyliwch hefyd am strategaethau i osgoi bwyta gormod. Os byddwch yn mynd i’r digwyddiad gyda rhywun, dywedwch sut rydych yn teimlo er mwyn i’r person hwnnw allu eich cefnogi.

Mae’r cyfnodau da a gwael mewn bywyd yn anochel

Meddyliwch am beth sy'n bwysig i chi a neilltuwch amser ar ei gyfer. Gallai hyn olygu treulio amser gwerthfawr gyda ffrindiau a theulu, amser ar gyfer eich diddordebau, rhoi cynnig ar rywbeth newydd neu helpu pobl eraill. 

Gall gwneud amser i bobl a gweithgareddau sy'n ein helpu i deimlo'n dda a gwerthfawrogi'r hyn yr ydym yn ddiolchgar am roi hwb i'n hwyliau. Mae hyn yn helpu i amddiffyn a gwella ein lles meddyliol, hyd yn oed pan fyddwn yn profi cyfnodau anodd. 

Sut arall gallech chi reoli teimladau anodd?

A oes rhywun y gallwch siarad ag ef neu hi, neu weithgaredd a all helpu i dynnu’ch sylw? Peidiwch ag anwybyddu problemau ond rhowch amser i’ch hun i feddwl am y pethau rydych yn eu mwynhau a gwneud y pethau hynny.

Dysgu mwy

Offer lles - Hapus 

Bwyd a iechyd meddwl - Mind 

Ymuno â'r Gymuned

Byddwch y cyntaf i glywed am gynnwys a nodweddion newydd trwy ymuno â'n rhestr bostio. Rhagor