Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw gosod nodau, a pham mae’n bwysig i chi?

Nod yw rhywbeth yr hoffem ei gyflawni. Gall gosod nodau ein helpu i fod yn benodol am beth yn union yr hoffem ei gyflawni. Gall gosod nodau hefyd ein helpu i nodi beth y mae angen i ni roi’r gorau iddo, dechrau arni, neu wneud yn wahanol.
 

Nodau SMART

Er mwyn helpu i wneud eich nodau yn fwy realistig a chyraeddadwy, mae’n bwysig eu gwneud yn rhai SMART. Mae nod SMART, sy’n acronym Saesneg, yn dilyn y nodweddion canlynol:

  • Penodol (Specific)– Gwnewch eich nod mor benodol â phosibl.
     
  • Mesuradwy (Measurable) – Nodwch ffordd o fesur eich cynnydd wrth weithio tuag at eich nod.
     
  • Cyraeddadwy (Achievable)   – Dylai’ch nod fod ychydig allan o’ch cyrraedd, ond nid o'r golwg.
     
  • Perthnasol (Relevant)– Meddyliwch am eich gwerthoedd.
     
  • Amser-gyfyngedig (Timely) – Rhowch amser erbyn pryd yr hoffech chi gyrraedd eich nod.

Nodau tymor byr, tymor canolig a thymor hir

Efallai y byddwch yn gwybod am fwyta'n dda ond, efallai y byddwch yn sylwi eich bod yn bwyta'n wahanol pan fyddwch wedi diflasu neu dan straen. Mae hyn yn golygu y gall fod yn hawdd i chi ddatblygu'r arfer o estyn am fwyd penodol mewn ymateb i sefyllfaoedd diflas neu heriol. Gallai gosod nod eich helpu i addasu'r arferion hyn, eich arferion bwyta a'ch gweithgarwch.

Pan fyddwch chi wedi gwneud eich nod tymor hir yn nod SMART, gallwch ddechrau nodi nodau tymor byr. Nodau tymor byr yw'r camau llai a haws a fydd yn eich helpu i gyrraedd eich nod tymor hir.

Er enghraifft, os mai eich nod SMART tymor hir yw dewis opsiynau iach pan fyddwch dan straen, efallai mai eich nodau tymor byr fydd (a) cofnodi beth rydych yn ei fwyta a sut rydych yn teimlo (b) ymchwilio i ffyrdd eraill o helpu gyda straen (c) deall eich sbardunau straen. 

Baglu a dathlu

Wrth osod eich nodau, treuliwch amser yn meddwl beth allai eich baglu. Drwy ystyried rhwystrau posibl, gallwch feddwl am ffyrdd o'u goresgyn. Er enghraifft, os ydych yn ei chael hi'n anodd bod yn actif oherwydd eich bod yn teimlo'n flinedig, efallai y byddwch yn meddwl am ymateb yn wahanol i'ch teimladau, er enghraifft bod yn actif am ddeng munud. Ceisiwch ddewis newidiadau sy'n cyd-fynd â'ch ffordd o fyw neu trefnwch weithgareddau gyda ffrind i gymell eich gilydd.

Os byddwch yn baglu, peidiwch â digalonni! Mae gosod nodau yn sgil sy'n cymryd amser. Cofiwch fod yn garedig i’ch hun!

Cofiwch ddathlu eich llwyddiannau! Drwy wneud eich nodau’n fesuradwy, byddwch yn gwybod pan fyddwch wedi cyrraedd nod tymor byr neu dymor hir. Sut gwnewch chi ddathlu?

Parhau â'ch siwrnai

Ewch i'r dudalen nesaf sef Cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i barhau â'ch siwrnai.

 

Ymuno â'r Gymuned

Byddwch y cyntaf i glywed am gynnwys a nodweddion newydd trwy ymuno â'n rhestr bostio. Rhagor