Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw cynnal pwysau?

Mae cynnal pwysau yn ymwneud â chadw eich pwysau’n sefydlog, sy’n golygu peidio â cholli, magu nac adennill pwysau. Mae’n bosibl y byddwch yn sylwi bod eich pwysau'n amrywio'n naturiol bob dydd, ac efallai y bydd adegau pan fydd eich pwysau'n codi neu'n gostwng. Os ydych o fewn ystod pwysau iach, mae cynnal pwysau yn ymwneud â dod o hyd i gydbwysedd sy'n eich helpu i aros o fewn yr ystod honno.

Os ydych dros bwysau iach a bod eich pwysau wedi bod yn newid, gall fod yn well i chi ddechrau eich siwrnai pwysau iach drwy ddod o hyd i'r cydbwysedd iawn i chi, er mwyn sicrhau bod eich pwysau yn sefydlog ar eich pwysau gorau (hyd yn oed os yw hyn uwchlaw pwysau iach) a'ch bod yn byw bywyd iach.

Beth yw’r heriau?

Efallai eich bod wedi sylwi bod eich pwysau wedi newid ar adegau yn aml oherwydd digwyddiadau mewn bywyd, gwyliau neu amgylchiadau newidiol. Gallai hyn olygu efallai eich bod:

  • Yn bwyta neu’n yfed yn fwy neu’n wahanol
  • Yn cael adegau pan nad ydych mor actif, er enghraifft gwyliau, salwch neu newidiadau yn y gwaith
  • Wedi adennill pwysau rydych wedi’i golli
  • Wedi cyrraedd man gwastad yn eich siwrnai colli pwysau

Sut gallaf i gynnal fy mhwysau?

 
Mae cynnal pwysau yn ymwneud â dod o hyd i'r cydbwysedd iawn i chi er mwyn sicrhau bod yr egni yr ydych yn ei ddefnyddio yr un peth â’r egni yr ydych yn ei losgi drwy eich gweithgareddau.
 
Awgrymiadau defnyddiol a allai eich helpu:
  • Cadwch gofnod o'ch deiet neu weithgarwch (hunan-fonitro) i'ch helpu i weithio allan pa nodau y gallech eu gosod neu beth sydd wedi newid
  • Gosodwch nodau realistig sy'n gweithio i chi
  • Dewiswch y newidiadau iawn sy'n cyd-fynd â'ch bywyd bob dydd
  • Ymrwymwch i newidiadau y gallwch gadw atyn nhw yn y tymor hwy
  • Dewiswch gefnogaeth sy'n gweithio i chi

 

Manteision cynnal pwysau?

Mae cadw at ystod pwysau iach yn cynnig llawer o fanteision iechyd a lles i chi. Efallai y bydd yn helpu gyda'ch iechyd corfforol, eich hunan-barch, a’ch ymdeimlad o reolaeth dros y rhan honno o'ch bywyd. 

Cofiwch, mae amrywiadau pwysau yn gyffredin pan fydd pethau'n newid yn eich bywyd. Mae’n beth da i sylwi ar y pethau hyn a gwneud newidiadau pan fyddan nhw’n digwydd er mwyn i chi gael y cydbwysedd yn iawn unwaith eto.

Gall gofyn y cwestiynau canlynol helpu

  • Beth yw'r gwahaniaeth rhwng bryd hynny a heddiw?
  • Beth allai eich helpu i gadw ar y trywydd iawn?

Parhau â'ch siwrnai

Rydych chi wedi cyrraedd diwedd y siwrnai Cymdeithasol. Mae'r tudalennau nesaf yn ymwneud â Lles Meddyliol, gan ddechrau gyda Bwyta emosiynol.

 

Ymuno â'r Gymuned

Byddwch y cyntaf i glywed am gynnwys a nodweddion newydd trwy ymuno â'n rhestr bostio. Rhagor