Neidio i'r prif gynnwy

Mae’n arferol i’w chael hi’n anoddach cadw at ein nodau pan fyddwn gyda theulu a ffrindiau. Wrth geisio datblygu trefn arferol iachach, gall sefyllfaoedd cymdeithasol wneud i ni deimlo’n nerfus weithiau. Gall blaengynllunio ein helpu i deimlo’n fwy hyderus ac aros ar y trywydd iawn, fel nad ydym yn colli cyfle.

Defnyddio dyddiadur bwyd

Rydym yn gwybod y gall hunan-fonitro fod yn ffordd wych o fesur cynnydd. Trwy gadw cofnod o beth rydych chi wedi’i fwyta, gallwch gynllunio’ch pryd bwyd gyda ffrindiau. Os ydych yn bwyta mewn bwyty, gallwch weld y fwydlen ar-lein cyn i chi gyrraedd.

 

Ystyried eich diod

Mae diodydd alcoholig yn cynnwys calorïau hefyd. Weithiau pan fyddwn yn yfed alcohol, efallai byddwn yn gwneud dewisiadau bwyd gwahanol. Ceisiwch yfed gwydriad o ddŵr rhwng pob diod a bwyta’ch pryd cyn neu gyda’ch diodydd. Mae cymorth ar gael ar ein tudalen diodydd.

Gofyn am gymorth

Gall rhannu ein nodau â’n teulu a ffrindiau ein helpu i deimlo bod gennym fwy o gefnogaeth. Efallai yr hoffech chi ofyn am eu cymorth wrth ddewis beth i’w fwyta neu roi cynnig ar rysáit newydd iachach gyda’ch gilydd.

Weithiau, efallai bydd eich teulu a’ch ffrindiau, sydd yn aml â bwriadau da, yn gofyn i chi fwyta neu yfed mwy nag yr hoffech chi. Ewch i’r dudalen cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch am fwy o gymorth.
 

 

Cofiwch beidio â bod yn rhy galed ar eich hun

Gall gweld teulu a ffrindiau mewn sefyllfaoedd cymdeithasol helpu i roi hwb i’n hwyliau. Cofiwch fod eich arferion iach newydd yma i aros am byth felly mae’n bwysig bod yn gyfforddus mewn lleoliadau cymdeithasol. Os gwnewch chi wyro oddi ar y trywydd iawn, peidiwch â bod yn rhy galed arnoch eich hun. 

 

Ymuno â'r Gymuned

Byddwch y cyntaf i glywed am gynnwys a nodweddion newydd trwy ymuno â'n rhestr bostio. Rhagor