Adolygwch eich nodau a’ch gwerthoedd
Edrychwch ar y nodau SMART y gwnaethoch eu gosod i’ch hun. Os nad ydych wedi gwneud hyn eisoes edrychwch ar y tudalennau gosod nodau ac unrhyw nodiadau yr ydych wedi’u gwneud. Cofiwch pam y cychwynnoch chi'r siwrnai hon. Efallai fod gennych ddigwyddiad, swydd newydd, neu bartner newydd. Gall teimlo bod popeth dan reolaeth a’ch bod yn gallu cyflawni hyn eich grymuso’n sylweddol.
A yw’r nodau hyn yn dal i fod yn berthnasol a realistig? Os ydyn nhw, daliwch ati!
Os yw eich nodau’n teimlo allan o’ch cyrraedd yn sylweddol, gallwch wneud rhai newidiadau. Er enghraifft, os ar y dechrau eich bwriad oedd rhoi’r gorau i fwydydd arbennig, ystyriwch gamau ychydig yn haws, er enghraifft, cyfyngu ar ba mor aml yr ydych yn bwyta’r rhain, faint yr ydych yn ei fwyta neu fwyta math iachach ohonyn nhw.
Gofynnwch i’ch hun beth sy’n eich rhwystro
Mae’n arferol wynebu rhwystrau ar y ffordd pan fyddwn yn newid ein ffordd o fyw. Ceisiwch dreulio amser yn myfyrio yn hytrach na rhoi’r ffidil yn y to neu farnu eich hunan yn ormodol.
Os ydych yn hunan-fonitro drwy ddefnyddio dyddiadur bwyd neu weithgarwch, gallwch ddefnyddio hyn i nodi beth sy’n eich rhwystro. Isod ceir awgrymiadau a allai fod o gymorth o ran rhwystrau sy’n gyffredin pan fyddwch yn newid ffordd o fyw.
‘Rwy’n cael trafferth cadw at drefn arferol’
Ceisiwch wneud eich gweithgarwch corfforol yn hwyl, yn gymdeithasol ac yn bleserus! Gallai trefnu mynd am dro gyda ffrind neu gymryd rhan mewn chwaraeon tîm eich annog i neilltuo amser ar eu cyfer er mwyn cynnal cysylltiadau cymdeithasol.
‘Rwy’n bwyta er cysur’
Ceisiwch feddwl ymlaen llaw. Oes rhywbeth y gallech ei wneud i leddfu straen nad yw’n ymwneud â bwyd? Allwch chi gynllunio gweithgareddau neu hobïau yr ydych yn eu mwynhau i’ch cadw chi ar ben ffordd yn ystod cyfnodau diflas a llawn straen?
‘Rwy’n ei chael hi’n anodd cael gwared ar fy arferiadau’
Atgoffwch eich hun o’ch nodau a sut maen nhw’n gwneud i chi deimlo’n fwy heini ac yn gwella’ch hwyliau. Cadwch nhw rywle lle gellir eu gweld er mwyn eich cymell yn ddyddiol, a chofiwch ddathlu eich llwyddiant (mewn ffordd iach!). Lluniwch restr o heriau ar eich cyfer bob wythnos a’u dileu o’r rhestr wrth i chi eu cwblhau, neu ymuno â grŵp cymorth a all roi adborth i chi er mwyn i chi barhau i ganolbwyntio.
Byddwch yn garedig i’ch hun
Cofiwch y dylai’r newidiadau yr ydych chi’n eu gwneud aros gyda chi am oes, felly dylen nhw fod yn realistig ac yn bleserus i chi eu cyflawni. Drwy wneud hynny, rydych chi'n fwy tebygol o fod eisiau parhau â'ch dewisiadau o ran ffordd o fyw iach hyd yn oed pan fydd bywyd yn heriol.
Cofiwch geisio am newid hirdymor, felly peidiwch â barnu eich hunan yn ormodol pan nad yw pethau’n mynd fel y dylen nhw. Ceisiwch ddod o hyd i ffyrdd o ddatblygu arferiadau iachach a’u hymgorffori yn rhan o’ch trefn arferol er mwyn i chi barhau i fwynhau eich bywyd a chael hwyl.
Parhau â'ch siwrnai
Ewch i'r dudalen nesaf sef Hunan-fonitro i barhau â'ch siwrnai.