Neidio i'r prif gynnwy

Rydym yn deall bod bywyd yn brysur. Mae'r awgrymiadau siopa hyn yma i'ch helpu i arbed amser, i reoli’ch cyllideb fwyd a chymryd camau cadarnhaol tuag at eich nodau bwyta'n iachach.
 

 
 
1. Cynllunio’ch prydau bwyd

Meddyliwch pa brydau y byddwch yn eu coginio ar gyfer yr wythnos sydd i ddod a'r eitemau sydd eu hangen ar gyfer pob pryd o fwyd. Yna, gallwch lunio rhestr siopa.

Lawrlwythwch ein cynllunwyr prydau bwyd a chynlluniwch eich prydau i’r wythnos sy’n dod:
 

 

2. Llunio rhestr siopa

Rydym yn gwybod y gall fod cynigion a hysbysebion dengar wrth siopa am fwyd. Gall gwneud rhestr eich helpu i gadw at brynu'r pethau sydd eu hangen arnoch.
 

3. Edrychwch ar y labeli a chymharwch gynhyrchion

Mae cynllun labelu goleuadau traffig yn ffordd gyflym o gadarnhau a yw cynnyrch yn cynnwys lefelau uchel, canolig neu isel o fraster, siwgr a halen. Ceisiwch ddewis eitemau sydd â’r mwyaf o liw ‘gwyrdd’ ar y label pan fydd hynny'n bosibl. Gallwch fynd â’r canllawiau defnyddiol hyn gyda chi i helpu pan fyddwch yn siopa:

 
 
 
4. Rhoi cynnig ar ffrwythau a llysiau wedi'u rhewi ac mewn tun

Mae'r rhain yn aml yn rhatach, gellir eu storio am gyfnod hirach na rhai ffres ac maen nhw'r un mor iach. Dewiswch lysiau mewn tun heb halen ychwanegol, a ffrwythau mewn tun mewn sudd yn lle surop, os yw'n bosibl.

 

5.Chwilio am fargeinion ar eitemau mewn tun ar gyfer cypyrddau storio

Mae gan eitemau mewn tun, gan gynnwys ffa a chorbys, oes silff hir a gellir eu hychwanegu at lawer o brydau bwyd. Ceisiwch ddewis eitemau sydd â lefelau isel o halen a siwgr os yw’n bosibl.

 

6. Rhoi cynnig ar bysgod a chig mewn tun

Gall y rhain fod yn rhatach a gellir eu storio am gyfnod hirach na rhai ffres. Dewiswch eitemau mewn tun mewn dŵr yn hytrach nag olew neu ddŵr hallt os yw'n bosibl.

 

 

7. Edrych ar y silffoedd gwaelod yn yr archfarchnadoedd

Gan amlaf, bydd eitemau brand y siop ar gael ar y silffoedd is, ac efallai y byddwch yn gweld eu bod yn cynnig opsiynau rhatach.

 

8. Bod yn ofalus gydag arddangosfeydd annibynnol ar ddiwedd eiliau, a chynigion wrth y til

Mae eitemau a roddir yn y mannau hyn yn aml yn llai iach. Dyma pryd y bydd eich rhestr siopa yn ddefnyddiol i gadw ar y trywydd iawn i gael yr hyn sydd ei angen arnoch mewn gwirionedd.

 

Ceisiwch gynllunio eich prydau bwyd ar gyfer yr wythnos sydd i ddod, ysgrifennwch restr siopa a meddyliwch am yr awgrymiadau isod pan fyddwch yn gwneud eich siop fwyd nesaf.

 

 

 

Ymuno â'r Gymuned

Byddwch y cyntaf i glywed am gynnwys a nodweddion newydd trwy ymuno â'n rhestr bostio. Rhagor