Neidio i'r prif gynnwy

Fel arfer rydym yn llawn cymhelliant pan fyddwn ni'n dechrau rhywbeth, ond gall fod yn anoddach dechrau arni pan fo'n newid newydd. Efallai na fu’n rhaid i chi wneud newidiadau er mwyn sicrhau pwysau iach o'r blaen ond mae meddwl am y manteision a pham yr ydych yn gwneud y newidiadau hyn yn fan cychwyn da.

Mae gweld a theimlo'r manteision yn ei gwneud yn haws i ni gyflawni'r newid p'un a yw hyn yn mynd am dro bach neu goginio prydau bwyd cartref. Ond gall cymhelliant lithro, ac rydym yn dechrau llithro oddi ar y trywydd iawn i gyrraedd ein nodau.

Beth sy'n eich cymell chi?

Cymerwch eiliad i nodi beth sy'n eich cymell chi.

  • Pam ydych chi eisiau adennill cydbwysedd pwysau iach?
  • Yna meddyliwch yn ddyfnach, gofynnwch i’ch hun pam.
  • Meddyliwch am yr hyn sydd wedi newid yn eich bywyd i achosi hyn.
  • A allai hyn fod yn newid yn eich patrymau bwyta neu a ydych chi’n ei chael hi'n anodd neilltuo amser i fod yn actif?

Efallai y bydd o gymorth i feddwl am ganlyniadau cadarnhaol e.e. sut y byddwch yn teimlo pan fyddwch chi wedi gwneud newidiadau iach, faint yn fwy o egni y gallai fod gennych i wneud y pethau yr ydych chi eisiau eu gwneud, i deimlo’n fwy fel chi eich hun pan fyddwch chi'n cyrraedd eich nod. Efallai y byddwch yn dymuno edrych a theimlo'n well yn eich dillad a dechrau teimlo fel chi eich hun unwaith eto.

Eich gwerthoedd

Edrychwch ar yr hyn yr ydych wedi'i ysgrifennu; dyma eich gwerthoedd. Efallai y byddwch chi eisiau gosod nodyn atgoffa ar eich ffôn neu ei roi mewn man lle gallwch ei weld bob dydd. Gall cadw eich gwerthoedd mewn cof drwy gydol eich siwrnai eich helpu i ganolbwyntio a chynnal cymhelliant.

Pan ddaw ymddygiadau yn arferiadau

Er mwyn gwella'n hiechyd, mae'n rhaid i ni newid, ac mae hyn yn golygu newid o hen ymddygiad i ymddygiad newydd. Pan fyddwn yn arfer ymddygiad newydd yn ddigon aml, mae'n dod yn arferiad. Po fwyaf yr ydym yn ei wneud, yr hawsaf mae'n dod. I wneud hyn mae angen i ni fabwysiadu’r ymddygiadau newydd hyn yn rhan o'n trefn ddyddiol. E.e. trefnu dyddiau ac amseroedd i fod yn actif yn gorfforol neu greu cynllun ar gyfer yr wythnos i ddod.

Cofiwch y gall gwneud dewisiadau iach o ran bwyd neu weithgarwch fod yn gyffrous ac yn hwyl. Mae’n ymwneud â gwneud y dewisiadau iawn i chi a bwyta amrywiaeth o fwydydd iachach y gallwch eu mwynhau.

Ceisio rhoi hwb i'ch gweithgarwch? Dewch o hyd i gyfleoedd pryd y gallwch chi symud mwy. Drwy wneud newidiadau bach yn ddyddiol, gallwn rannu nodau'n ddarnau llai a’u gwneud yn llawer mwy cyraeddadwy a realistig i chi! Canolbwyntiwch ar yr wythnos nesaf, beth tybed fyddwn yn ei weld os gwnawn y newidiadau hyn? A sut bydd y manteision hyn yn gwneud i ni deimlo?

Parhau â'ch siwrnai

Ewch i'r dudalen nesaf sef Gosod nodau i barhau â'ch siwrnai.

 

Ymuno â'r Gymuned

Byddwch y cyntaf i glywed am gynnwys a nodweddion newydd trwy ymuno â'n rhestr bostio. Rhagor