Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw cynnal pwysau?

Mae cynnal pwysau yn ymwneud â chadw eich pwysau’n sefydlog, sy’n golygu peidio â cholli, magu nac adennill pwysau. Mae’n bosibl y byddwch yn sylwi bod eich pwysau'n amrywio'n naturiol bob dydd, ac efallai y bydd adegau pan fydd eich pwysau'n codi neu'n gostwng. Os ydych o fewn ystod pwysau iach, mae cynnal pwysau yn ymwneud â dod o hyd i gydbwysedd sy'n eich helpu i aros o fewn yr ystod honno.

Os ydych dros bwysau iach a bod eich pwysau wedi bod yn newid, gall fod yn well i chi ddechrau eich siwrnai pwysau iach drwy ddod o hyd i'r cydbwysedd iawn i chi, er mwyn sicrhau bod eich pwysau yn sefydlog ar eich pwysau gorau (hyd yn oed os yw hyn uwchlaw pwysau iach) a'ch bod yn byw bywyd iach.

Parhau â'ch siwrnai

Ewch i'r dudalen nesaf sef Cydbwysedd egni i barhau â'ch siwrnai.

 

Ymuno â'r Gymuned

Byddwch y cyntaf i glywed am gynnwys a nodweddion newydd trwy ymuno â'n rhestr bostio. Rhagor