Rydych chi wedi dewis Siwrnai Tri – DIOGEL

Mae bywyd yn gallu bod yn anodd i chi ar adegau, ac efallai bydd yn rhaid i chi ymdrin â heriau corfforol a meddyliol bob dydd. Gallai hyn olygu eich bod wedi cael cyfnodau anodd yn ystod eich plentyndod ac efallai eich bod wedi cael trafferthion gyda’ch pwysau ers dyddiau ieuenctid. Efallai y byddwch chi’n gweld bod eich pwysau’n effeithio ar eich iechyd, ond efallai eich bod chi wedi ei chael hi’n anodd gwneud y newidiadau cywir. 

A lady thinking

I chi, mae yna heriau yn eich bywyd. Gallai’r rhain fod yn broblemau teuluol, cyfrifoldebau gofalu, problemau iechyd, neu anawsterau eraill, sy’n golygu y gall bywyd, ar adegau, deimlo fel brwydr ddyddiol. Efallai eich bod wedi defnyddio bwyd i’ch helpu i deimlo’n well pan fo bywyd yn anodd. Nid yw bod yn actif yn hawdd i chi. Efallai eich bod yn poeni bod eich pwysau yn effeithio ar eich iechyd a’ch bod chi eisiau colli pwysau, ond rydych chi’n ei chael hi’n anodd gwneud hynny.

Dros y blynyddoedd, efallai eich bod wedi colli pwysau sawl gwaith, sy’n golygu eich bod eisoes yn gwybod am ddeiet ac ymarfer corff. Efallai nad oes gan eich ffordd o fyw drefn arferol reolaidd, ac efallai y bu newidiadau i’ch ffordd o fyw yn her. Efallai y bu tuedd i bwysau godi’n raddol ar ôl i chi ei golli yn y gorffennol.

Efallai eich bod chi’n poeni bod ceisio colli pwysau gyda phopeth arall sy’n digwydd yn eich bywyd yn teimlo’n ormod i ymdopi ag ef. Ar adegau, efallai eich bod yn teimlo nad oes gennych reolaeth o’ch pwysau na’r hyn sy’n digwydd yn eich bywyd. Gall ceisio bod yn frwdfrydig fod yn her. Efallai eich bod weithiau’n teimlo nad oes gennych ddigon o hyder i wneud y newidiadau sydd eu hangen arnoch gan boeni am geisio a methu.

Mae Pwysau Iach Byw’n Iach yma i’ch helpu. Yma fe welwch chi ddolenni a all eich helpu gyda rhai o’r problemau a allai effeithio ar eich pwysau. Gall y wefan hon eich helpu i ddod o hyd i’r hyn sy’n gweithio i chi a’r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch. Gall y wefan hon hefyd eich helpu i osod nodau cyraeddadwy a thorri newidiadau yn dasgau llai mewn ffordd sy’n gweithio orau i chi.

Parhau â’ch siwrnai

Ewch i’r dudalen nesaf sef Ymdrin â thrawma i barhau â’ch siwrnai.