Mae cydbwyso beth a faint yr ydym yn ei fwyta yn rhannau pwysig o sicrhau deiet iach. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae maint dognau bwyd a diod wedi cynyddu. O’r pethau yr ydym yn eu prynu mewn archfarchnad i’r prydau yr ydym yn eu cael mewn caffis a bwytai. Mae hyn wedi arwain at bob un ohonom yn dod i arfer â dognau mwy, platiau mwy, ac mai dyma’r maint arferol i’w fwyta. Oherwydd hyn, mae llawer ohonom yn ei chael hi’n anodd cydnabod y maint dognau sy’n iawn i ni.

Gall bwyta dognau mwy olygu y gallwch chi gael mwy o drafferth gyda’ch pwysau os ydych chi’n bwyta mwy na sydd ei angen ar eich corff. Os yw maint dognau yn anodd i chi, mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud i helpu.

3 diferent size cups

Canllawiau maint dognau

Mae’r British Heart Foundation (BHF) yn awgrymu sawl dogn sydd ei angen arnom y dydd ar gyfer pob grŵp bwyd os ydym ni eisiau colli pwysau. Ystyriwch yr hyn yr ydych yn ei fwyta yn ystod y dydd a’r dognau yr ydych yn eu cael. Ydy hynny’n debyg, neu a ydych chi’n meddwl y gallech chi fod yn bwyta mwy na hyn? Ystyriwch gydbwysedd y grwpiau bwyd hefyd, a’r dognau dyddiol sy’n cael eu hargymell ar gyfer pob grŵp.

Canllawiau dognau dyddiol

 

Grŵp bwydDognau dyddiol (menywod)Dognau dyddiol (dynion)
Ffrwythau a llysiau5 neu fwy5 neu fwy
Bara, reis, tatws, pasta a bwydydd
eraill llawn startsh
78
Llaeth a bwydydd llaeth33
Cig, pysgod, wyau, ffa a ffynonellau o brotein nad ydynt yn dod o laeth23
Brasterau taenu ac olewau12

Cydnabyddiaeth: Canllawiau Maint Dognau BHF

Bydd y canllawiau yn rhoi syniad i chi o sut mae’r dognau dyddiol hyn yn edrych mewn gwirionedd a gallent eich helpu i gymharu’r hyn yr ydych yn ei fwyta fel arfer â’r enghreifftiau hyn. Ydy hwn yn edrych yn debyg i’ch maint dognau chi, neu ydych chi’n meddwl eich bod chi’n cael mwy na hyn? Allech chi newid i symud tuag at yr enghreifftiau hyn?

Canllawiau dognau gweledol

Hands visual food portions guide for carbohydrates, meat and beans and fish or chicken
Hands visual food portions guide for butter, fruit, vegetables and cheese

Cydnabyddiaeth: Canllawiau Maint Dognau BHF.

Canllawiau Maint Dognau Interactif – British Heart Foundation (Linc Saesneg yn unig)

Canllawiau yw’r adnoddau maint dognau hyn, a byddant yn amrywio gan ddibynnu ar ba mor actif ydych chi, eich oedran a’ch rhyw. Dros amser a gydag ymarfer, byddwch chi’n gallu nodi pa faint dognau sy’n briodol i chi wrth allu adnabod eich arwyddion chwant bwyd a llawnder i’ch arwain chi.

Awgrymiadau ymarferol

Gallwch wneud ychydig o bethau cyflym ac ymarferol i leihau maint eich dognau hefyd. Efallai y bydd rhai o’r syniadau hyn o gymorth i chi:

  • Defnyddio platiau a gwydrau llai gartref.
  • Ystyried nifer y bobl sy’n bwyta a mesur eich bwyd cyn coginio.
  • Rhoi bwyd dros ben yn yr oergell ar gyfer y diwrnod canlynol, neu ei rewi ar gyfer diwrnod arall.
  • Dewis meintiau llai wrth archebu bwyd a diod y tu allan i’r cartref, pan fo modd.
  • Siarad â theulu a ffrindiau am eich nodau i helpu wrth fwyta ac yfed yng nghartrefi pobl eraill.
  • Gwirio’r labeli ar fwydydd parod ar gyfer maint y dognau a argymhellir; weithiau mae’n ddogn llawer llai na’r cynnyrch cyfan.
Gwnewch nodyn o unrhyw newidiadau yr ydych yn meddwl y gallech eu gwneud i faint eich dognau a gosodwch nod maint dogn i’ch hun.