Mae bwyd a diod yn rhan bwysig o fy mywyd, yn enwedig pan ddaw i gymdeithasu gyda theulu a ffrindiau.
Mae amser gyda theulu, ffrindiau neu anwyliaid yn tueddu i gynnwys bwyd a diod neu fwyd tecawê.
Cefais fy magu i orffen popeth ar fy mhlât.
Rwy'n defnyddio bwyd a diod i lenwi bwlch pan fyddaf wedi diflasu neu'n teimlo dan straen.
Mae fy nheimladau'n aml yn dylanwadu ar yr hyn rwy'n ei fwyta, er fy mod yn gwybod nad dyna'r opsiwn iachus bob amser.
Rwy'n defnyddio bwyd neu ddiod i wneud i mi deimlo'n well ar ôl diwrnod gwael.
Mae bwyta wedi bod yn un o'r ffyrdd rwyf wedi ymdopi ag effaith barhaol profiadau anodd neu lawn straen drwy gydol fy mywyd.
Rydw i wedi profi digwyddiadau anodd neu lawn straen yn ystod plentyndod, fel trais neu gam-drin yn y cartref, rhiant neu ofalwr â phroblemau iechyd meddwl, cyffuriau neu alcohol, neu deulu’n chwalu, ac mae bwyta wedi bod yn un o’r ffyrdd rydw i wedi ymdopi.
Rydw i wedi profi digwyddiadau anodd neu lawn straen yn ystod fy mywyd fel oedolyn, fel profedigaeth annisgwyl neu drais neu gam-drin gartref, ac mae bwyta wedi bod yn un o'r ffyrdd rydw i wedi ymdopi.
Rydw i wedi profi newidiadau mawr yn fy mywyd yn ystod y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, fel swydd newydd, newid yn fy amgylchedd gwaith, newid mewn perthynas neu ddechrau teulu a allai fod wedi achosi i fy mhwysau gynyddu'n raddol.
Rydw i wedi dod yn llai egnïol yn gorfforol oherwydd newidiadau diweddar mewn bywyd sydd wedi gadael llai o amser, egni, neu gyfle i mi fod yn egnïol.
Rydw i wedi sylwi bod fy arferion bwyta wedi newid i gyd-fynd â'm trefn newydd, fel bwyta mwy o fwydydd cyfleus, bwyta ar adegau afreolaidd, neu fwyta byrbrydau'n amlach.
Yn ôl

Siwrneiau eraill:

Efallai eich bod chi'n teimlo bod un o'r siwrneiau eraill isod yn eich disgrifio chi'n well.

Dewisiadau siwrnai

  • Cymdeithasol

    • Mae bwyd a diod yn rhan bwysig o’ch bywyd, yn enwedig eich bywyd cymdeithasol.
    • Bydd amser gyda teulu a ffrindiau fel arfer yn cynnwys bwyd a diod.
    • Efallai eich bod chi a’ch teulu wedi mynd i’r arfer o fwyta dognau mwy, mwy nag sydd ei angen yn aml, gan arwain at fagu pwysau.
    • Fel plentyn, roedd disgwyl i chi fwyta popeth ar eich plât a byddech yn cael eich canmol am wneud hynny.
    Dewis y siwrnai honCymdeithasol
  • Hwyliau

    • Mae bwyd â diod yn gysylltiedig â sut rydych chi’n teimlo.
    • Rydychchi’n defnyddio bwyd a diod i godi’ch ysbryd neu lenwi blwch pan fyddwch chi wedi diflasu neu dan straen, neu i godi’ch hwyliau.
    • Efallai fod gennych wendid am fathau penodol o fwydydd cysur neu fyrbrydau yr ydych yn troi atyn nhw, er eich bod yn gwybod nad nhw yw’r dewis iach.
    Dewis y siwrnai honHwyliau
  • Diogel

    • Rydych chi wedi cael profiadau anodd neu sy’n peri straen, yn enwedig yn ystod eich plentyndod ond ar adegau eraill yn eich bywyd hefyd.
    • Mae hyn wedi cael effaith barhaus ac bwyta wedi bod yn un o’r ffyrdd o ymdopi.
    • Fel eraill sydd wedi cael profiadau tebyg, efallai eich bod wedi cael problemau gyda’ch pwysau am rhan fwyaf o’ch bywyd, efallai’n colli pwysau ac yna’n ail-fagu cryn dipyn o bwysau.
    • Gall y profiadau hyn gynnwys trais neu cam-drin gartref, tor teulu neu brofedigaeth annisgwyl, neu rhiant â phroblemau iechyd meddwl, cyffuriau neu alcohol.
    Dewis y siwrnai honDiogel
  • Bywyd

    • Mae eich bywyd wedi newid dros y blynyddoedd diwethaf ac mae hyn wedi arwain at fagu pwysau.
    • Efallai mae dechrau teulu yw hyn, newid perthynas, neu newid i’ch trefniadau gweithio.
    • Mae hyn wedi golygu nad ydych mor actif ag yr oeddech chi ar un adeg ac efallai fod eich arferion bwyta wedi newid hefyd i gyd-fynd â’ch ffordd o fyw bresennol.
    Dewis y siwrnai honBywyd