Ble ydych chi nawr?
Taldra a phwysau
Defnyddir taldra a phwysau i gyfrifo mynegai màs eich corff (BMI) drwy rannu eich pwysau â’ch taldra.
Po uchaf yw’ch BMI, y mwyaf o risg sydd y byddwch yn dioddef cyflyrau penodol fel afiechyd coronaidd y galon, pwysedd gwaed uchel, diabetes math 2, a rhai mathau o ganser.
Dengys ymchwil fod pobl o grwpiau ethnig penodol o dras Asiaidd neu Affricanaidd, neu’r Dwyrain Canol yn fwy tebygol o ddioddef problemau iechyd o ganlyniad i’w pwysau. Golyga hyn fe allech chi fod mewn gwahanol gategori i’r un yr oeddech yn ei ddisgwyl oherwydd gwnaed addasiad i ystyried y risg hon.
Cylchedd y wast a thaldra
Os gwnaethoch chi gofnodi cylchedd eich gwast, defnyddir hyn i gyfrifo’r cysylltiad rhwng eich gwast a’ch taldra. Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi ailadrodd yr asesiad hwn gan roi eich pwysau. Mae hyn oherwydd nad yw mesuriad y wast yn nodi pobl â risg uchel iawn.
Newidiadau diweddar i’ch pwysau
Eich iechyd
Eich hanes colli pwysau
Crynodeb o’ch asesiad iechyd
Mae unrhyw gyngor rydym yn ei gynnig yn seiliedig ar y wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi i ni. Dylech bob amser ddilyn cyngor gweithiwr iechyd proffesiynol.
Er nad oes gennych broblem iechyd tymor hir, mae’n bwysig eich bod yn cymryd camau i leihau’r risg o ddatblygu problemau iechyd yn y dyfodol.
Gan eich bod wedi dweud eich bod wedi colli pwysau dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’n ymddangos eich bod eisoes wedi bwrw iddi.
Gan eich bod wedi colli pwysau nifer o weithiau o’r blaen ac wedi adennill y rhan fwyaf o’r pwysau hwnnw, byddem yn argymell eich bod yn cael gafael ar fwy o help arbenigol.
Dilynwch y ddolen hon i gael gwybodaeth am wasanaethau sydd ar gael neu siaradwch â’ch meddyg teulu neu eich nyrs practis.