Y cysylltiadau rhwng pwysau a thrawma

Gall adegau anodd a phrofiadau bywyd anodd fod yn drawmatig ac effeithio ar eich siwrnai pwysau.

Gall fod yn bwysig treulio amser yn ystyried yr ystod o ffactorau a all effeithio ar ein pwysau yn dilyn trawma. Gall hefyd eich helpu i dderbyn nad chi sydd ar fai am fyw ag anawsterau rheoli pwysau.

Efallai gwnewch chi adnabod ffactorau sydd wedi dylanwadu ar sut rydych chi o amgylch bwyd. Er enghraifft, efallai ei bod yn anoddach i chi wrthod bwydydd arbennig pan fydd gennych feddyliau a theimladau anodd. Mae’n gyffredin i bobl sydd wedi cael profiad o drawma droi at fwydydd â lefelau braster a siwgr uwch, yn rhannol oherwydd bod y rhain yn gwneud i chi deimlo’n well (oherwydd gall bwyta dynnu sylw a darparu rhyddhad dros dro o’ch meddyliau a’ch teimladau), ac yn rhannol oherwydd y newidiadau hormonaidd sy’n digwydd, sy’n effeithio ar ein gallu i deimlo’n llwglyd neu’n llawn, gan ei gwneud yn anodd colli pwysau.

Gall ein profiad o drawma effeithio ar ein cwsg hefyd, a all darfu ar ein gallu i golli pwysau oherwydd newidiadau hormonaidd.

A lady walking

Stigma pwysau

Efallai eich bod wedi colli pwysau o’r blaen ac wedi cael sylwadau cadarnhaol gan bobl o’ch cwmpas sydd wedi newid eich meddyliau a’ch teimladau am bwysau:

“Pan fyddaf i’n denau, rwy’n cael fy nerbyn a fy hoffi”

Pan fyddaf i dros fy mwysau, rwy’n teimlo fy mod wedi fy ngwrthod a bod neb yn fy hoffi”

Neu efallai eich bod wedi cael sylw a oedd yn anodd i chi ymdrin ag ef, a arweiniodd at ail-fagu’r pwysau y gwnaethoch ei golli i osgoi’r sylw hwn.

Naill ffordd neu’r llall, gall sylwadau gan eraill gadw’r cylch creulon hwn o wahaniaethu ar sail pwysau i droi, a all yn ei dro arwain at golli ac adennill pwysau fel io-io.

Hunanwerth

Efallai nad ydych yn eich blaenoriaethu chi a’ch anghenion bob amser, e.e. gwneud mwy o amser i ofalu am a chefnogi eraill, efallai ei bod hi’n amser i chi flaenoriaethu eich hun a’r gofal a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnoch chi ar yr adeg hon.

Gall trawma ddylanwadu ar golli pwysau yn iach

Mae’n arbennig o bwysig sylweddoli y gall trawma ddylanwadu ar allu person i golli pwysau.

Efallai mai’r cam cyntaf i chi yw:

  • cydnabod bod trawma yn achosi straen a’i fod y tu hwnt i’ch rheolaeth
  • cydnabod nad chi sydd ar fai am eich pwysau, gan ei fod yn gallu bod yn ymateb i drawma
  • nodi’r cymorth a all helpu a chymryd y cam nesaf i gael gafael ar y cymorth hwn

Am y tro, gallai hyn ymwneud â sut mae trawama wedi effeithio ar eich bywyd a’ch iechyd meddwl a lles, yn hytrach na chanolbwyntio ar golli pwysau.

Gall cael y cymorth a’r gefnogaeth iawn eich helpu i reoli’ch pwysau yn y tymor hir.

Parhau â’ch siwrnai

Ewch i’r dudalen nesaf sef Cyfeirio at wasanaethau cymorth a chefnogaeth i barhau â’ch siwrnai.