Rydych chi wedi dewis Siwrnai Un – CYMDEITHASOL 

Mae hyn yn golygu i chi, fod eich ffrindiau a’ch teulu yn rhan bwysig o’ch bywyd, yr hyn yr ydych yn ei wneud a’r hyn yr ydych yn ei fwyta.

Menywod yn gwenu

I chi, nid rhywbeth i’w fwyta yn unig yw bwyd; mae bwyd yn eich cysylltu â theulu a ffrindiau. Yn aml gall bwyd a diod fod yn ganolog i gyfarfodydd a dathliadau cymdeithasol.

Gyda theulu a ffrindiau, efallai y byddwch yn bwyta’n dda ac yn mwynhau bwyd wedi’i goginio gartref a dognau hael, gyda dognau ychwanegol yn cael eu hannog. Mae gennych awydd bwyd ‘da’, a allai fod yn rhywbeth i ymfalchïo ynddo yn eich teulu neu gylch ffrindiau. Efallai fod eich rhieni neu aelodau o’r teulu yn fwy yn gorfforol. Weithiau y bydd yn teimlo’n anfoesgar i wrthod bwyd neu i beidio â chlirio’ch plât, ac efallai y byddwch yn ei chael hi’n anodd dweud na. Rydych chi’n hoff iawn o fwyd ac yn cael pleser wrth fwyta.

Efallai eich bod chi’n gogydd da ac yn bwyta’n dda y rhan fwyaf o’r amser, ond efallai y byddwch chi’n gorfwyta i gael cysur pan fydd bywyd yn heriol, yn straen, neu’n effeithio ar eich lles meddyliol. Efallai y byddwch chi hefyd yn bwyta oherwydd diflastod. Gall hyn olygu eich bod chi’n magu pwysau pan fyddwch chi’n bwyta mwy nag sydd ei angen arnoch.

Rydych chi’n berson egnïol fel arfer ac efallai eich bod yn dibynnu ar hyn i helpu i reoli eich pwysau. Mae tuedd i chi fagu pwysau pan fyddwch yn brysur, yn sâl, ac nid mor egnïol ag arfer. Efallai fod gennych gyflwr iechyd sy’n ei gwneud hi’n fwy heriol i fod mor egnïol ag yr hoffech.

Efallai eich bod wedi llwyddo i golli pwysau yn y gorffennol ac erbyn hyn yn awyddus i gynnal eich pwysau. Efallai eich bod wedi cael trafferth colli pwysau o’r blaen ac rydych chi bellach yn barod i ddechrau gwneud newidiadau sy’n iawn i chi.

Gall y wefan hon eich helpu i ddod o hyd i ffyrdd o reoli eich pwysau a dal i fwynhau eich bwyd a chael hwyl. Bydd Pwysau Iach Byw’n Iach yn rhoi syniadau i chi ynghylch sut i ymdrin â’r pwysau cymdeithasol i fwyta, fel y gallwch chi barhau i gymryd rhan mewn digwyddiadau cymdeithasol.

Byddwch yn dysgu am y cysylltiad rhwng bwyd a’ch emosiynau, a allai helpu i newid eich perthynas â bwyd. Gallwch gyrraedd eich nod o ran pwysau gyda’r newidiadau cywir sy’n cydnabod yr hyn sy’n bwysig i chi. Os ydych chi eisiau cynyddu eich egni, teimlo’n dda, a theimlo’n fwy fel ‘chi,’ cliciwch ar y ddolen isod, mae eich Siwrnai Pwysau Iach yn cychwyn yma.

Parhau a’ch siwrnai

Ewch i’r dudalen nesaf sef Deall pwysau i barhau a’ch siwrnai.