I chi, gall gwneud newidiadau bach i’ch deiet fod yn rhan bwysig o reoli eich iechyd a’ch pwysau.
Nid yw bwyta’n iachach yn golygu cyfnewid yr holl brydau rydych fel arfer yn eu coginio a’u mwynhau am rai gwahanol. Mae llawer o ffyrdd o wneud eich hoff ryseitiau’n iachach, gyda newidiadau bach sy’n addas i chi.
Nid oes yn rhaid i chi wneud yr holl newidiadau ar unwaith. Gallech roi cynnig ar un neu ddau o bethau i ddechrau, ac adeiladu arnyn nhw gyda newidiadau newydd ar eich cyflymdra eich hun dros amser.
Gwneud prydau bwyd bob dydd yn iachach
Efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi feddwl am eich prydau arferol a’r dognau sydd gennych ar eich plât fel arfer. Ydyn nhw’n gytbwys, neu ydych chi’n meddwl y gallech wneud newidiadau ar gyfer cyfuniad iachach?
Dyma rai newidiadau eraill y gallech eu gwneud hefyd.

Rhoi cynnig ar ddewisiadau grawn cyflawn
Mae gan fara, roti, chapati, pasta, reis a grawnfwydydd brecwast grawn cyflawn fwy o ffibr a maethynnau na fersiynau gwyn a gallan nhw hefyd eich llenwi am gyfnod hirach.
Os nad ydych wedi arfer â dewisiadau grawn cyflawn, dechreuwch gyda hanner a hanner, fel bara 50:50.
Rhoi cynnig ar sawsiau tomato
Gall sawsiau tomato gynnwys llai o galorïau na sawsiau caws a hufen.
Newid i ddarnau o gig â llai o fraster
Gall dewis darn gwahanol o gig neu dorri’r braster i ffwrdd wrth goginio wneud eich prydau’n iachach.
| Math | Newidiwch | Rhowch gynnig ar |
|---|---|---|
| Porc | Darn o fola porc wedi’i goginio gyda braster. | Coes porc heb lawer o fraster wedi’i goginio heb fraster. |
| Cig Eidion | Stecen cig eidion neu gig eidion wedi’i ddeisio â braster. | Stecen heb lawer o fraster neu gig eidion wedi’i ddeisio heb fraster. |
| Briwgig eidion 20% braster. Peli Cig. | Briwgig eidion llai na 12% braster. Peli cig heb lawer o fraster. | |
| Cig Oen | Briwgig oen 20% braster. | Briwgig oen 10% braster. |
| Dofednod | Brest cyw iâr neu gluniau cyw iâr gyda’r croen. | Brest cyw iâr neu gluniau cyw iâr heb y croen. |
Newid rhai o’r cig yn eich prydau bwyd am ffa neu gorbys
Mae ffa, codlysiau, ffa soia, darnau soia a chorbys neu dhal yn cynnwys lefelau is o fraster a lefelau uwch o ffibr o’u cymharu â chig.

Ychwanegu mwy o lysiau at eich prydau bwyd
Ceisiwch ychwanegu mwy o lysiau a llai o gig neu garbohydradau. Gallech ddefnyddio unrhyw lysiau sydd gennych gartref drwy ychwanegu at eich ryseitiau cyffredin, fel stiwiau, cyris, caserolau a bwyd wedi’i dro-ffrio.
Dulliau coginio
Yn lle ffrio, ceisiwch grilio neu bobi os yw’n bosibl. Os ydych yn rhoi rhan neu’r cyfan o’ch prydau yn y ficrodon, ceisiwch ddraenio’r braster i ffwrdd ar ôl coginio.
Gall newid o fenyn, lard neu ghee i olew llysiau, olew olewydd neu olew chwistrellu, a defnyddio ychydig bach yn unig wrth goginio wneud eich prydau bwyd yn iachach heb gael gwared ar y blas rydych yn ei fwynhau.
Meddyliwch am bryd o fwyd rydych yn ei wneud yn rheolaidd ac ysgrifennwch y newidiadau posibl y gallech eu gwneud.
Gwella sgiliau coginio
Gall y cyrsiau canlynol fod yn ddefnyddiol ar gyfer cymorth pellach i wella eich sgiliau coginio neu i fagu eich hyder wrth goginio gartref.
Mae Sgiliau Maeth am Oes yn cynnig cyrsiau bwyd a maeth difyr ac anffurfiol i aelodau’r gymuned ledled Cymru. Dewch o hyd i’ch cwrs lleol yma.
Mae ‘Healthy Cooking Made Easy’ yn gwrs ar-lein am ddim i’ch helpu i ddatblygu neu ddiweddaru eich sgiliau coginio gartref. Gallwch gofrestru yma. (Linc Saesneg yn unig)
Efallai y bydd cyrsiau ar-lein neu gyrsiau dysgu i oedolion lleol eraill ar gael i chi. Chwiliwch i weld beth allai fod yn briodol i chi.