Croeso i Dudalen Bwrdd Iechyd Caerdydd a Bro Morgannwg

Gwybodaeth Caerdydd a Bro Morgannwg ar gyfer cynnig digidol Lefel 1

 gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y mae Caerdydd a’r Fro a chymunedau yn ei wneud i helpu pobl i gyflawni pwysau iach, edrychwch ar ein gwefan Symud Mwy Bwyta’n Iach.

Gwefan Sgiliau Maeth am Oes
 

Ffynhonnell o wybodaeth am fwyd a maeth, ryseitiau a syniadau yn ogystal â chyrsiau sy’n cael eu cynnal yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Sgiliau Maeth am Oes  neu anfonwch e-bost: [email protected]

Gwefan Cadw Fi’n Iach

Ffynhonnell o wybodaeth, adnoddau, fideos coginio a chymorth i’ch cadw’n iach yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Cadw Fi’n Iach.

Rhaglen Bwyd Doeth am Oes

Rhaglen grŵp 8 wythnos sy’n helpu pobl i fyw bywydau iachach. Mae’r pynciau sy’n cael eu trafod yn cynnwys meintiau dognau bwyd, labeli bwyd, a gwneud newidiadau y mae modd cadw atynt. Ar gael i unrhyw un dros 18 oed sydd â BMI dros 25. Wedi’i ddarparu’n lleol yn rhan o’r Rhaglen Byw’n Dda. 

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r dudalen yma neu anfonwch e-bost: [email protected]

Bwyd Doeth mewn Beichiogrwydd

Dyma gwrs chwe wythnos i bob menyw yn ystod beichiogrwydd sy’n cynnig gwybodaeth ac awgrymiadau ynglŷn â bwyta’n dda, cadw’n egnïol a chyflawni cynnydd iach yn ei phwysau yn ystod beichiogrwydd.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r dudalen yma

I gadw lle sganiwch y cod QR isod gyda’ch dyfais neu cliciwch yma.
neu anfonwch e-bost: [email protected] 

HAPI (Happy, Aspiring, Prosperous and Inclusive) Cardiff and Vale Project
 

Mae HAPI yn brosiect iechyd a llesiant a ddarperir gan Gymdeithas Tai Newydd. Mae’r prosiect yn gweithio gyda thenantiaid a phreswylwyr i wella eu llesiant trwy gyflwyno gweithgareddau am ddim trwy nifer o themâu sy’n cynnwys bwyd a maeth a gweithgarwch corfforol

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r dudalen yma neu anfonwch e-bost: [email protected]

Symud Mwy
 

Gwefan sy’n llawn awgrymiadau a chynghorion ar sut i fod yn egnïol yn eich bywyd o ddydd i ddydd, boed yn dawnsio o amgylch eich cegin neu’n cymryd y grisiau yn lle’r lifft. Chwiliwch am weithgareddau yn agos atoch chi yng Nghaerdydd, a dechreuwch symud heddiw. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r dudalen yma.  

Tîm Byw’n Iach y Fro

Ewch i wefan Tîm Byw’n Iach y Fro i ddarganfod pa gyfleoedd sydd ar gael yn eich ardal chi, o deithiau cerdded llesol i glybiau chwaraeon.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r dudalen yma. Neu e-bostiwch: [email protected]

Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau i’r teulu sy’n cael eu cynnal ledled Caerdydd a Bro Morgannwg isod:

NYLO (Maeth i’ch Un Bach) 

Rhaglen ffordd iach o fyw a ddatblygwyd ar gyfer teuluoedd â phlant 5 oed ac iau.  Ewch i’r wefan yma eu anfonwch e-bost: [email protected] 

AFAL (Teuluoedd Egnïol, Bywydau Egnïol)

Addysg grŵp a chymorth unigol i blant a’u teuluoedd pan fo plentyn dros bwysau iach. Anfonwch e-bost: [email protected]

Ymunwch â’r gymuned

Cofrestrwch i'n cylchlythyr i dderbyn ysbrydoliaeth a ffyrdd o gadw'ch siwrnai i symud.

Dysgu mwy a Chofrestru