Pam mae ymdopi drwy’r cyfnodau da a gwael yn bwysig?

Mae yna lawer o ffyrdd y gall bwydydd effeithio ar sut rydym yn teimlo, yn union fel y gall sut rydym yn teimlo ddylanwadu ar ba fwydydd rydym yn eu bwyta. Mae hyn yn aml yn gysylltiedig â chysylltiadau presennol neu atgofion o fwyd â phrofiadau cadarnhaol neu negyddol blaenorol.

Mae bwyd yn ganolog i gynifer o bethau rydym yn eu gwneud. Mae’n rhan o’r ffordd rydym yn dathlu cyfnodau hapus a thrist, yn cysylltu ag eraill yn ystod galar neu golled, ac yn dathlu digwyddiadau llawen.

Beth allaf ei wneud i reoli’r cyfnodau da a gwael?

Mae’n bwysig deall pam rydym yn teimlo’r fel rydym ni a sut rydym yn ymateb i’r teimlad hwnnw. Mae adegau pan fyddwn wedi blino, wedi cynhyrfu, yn hapus neu’n drist pan fyddwn yn defnyddio bwyd i gysuro neu ddathlu. Mae rhai pethau y gallwch eu gwneud i adnabod sut rydych yn teimlo a sut i ymateb:

  • Derbyn beth sy’n digwydd neu’r sefyllfa yr ydych ynddi. Mae’n iawn bod yn hapus neu’n drist; derbyn ac ymdrin â sut rydych yn teimlo sy’n bwysig.
  • Defnyddio dyddiadur i gadw cofnod o’r hyn rydych wedi’i fwyta a sut roeddech yn teimlo pan wnaethoch chi fwyta.
  • Gwerthfawrogi beth sydd o’ch cwmpas. Gall hyn olygu cysylltu â ffrind neu rywun rydych yn gweithio gyda nhw.
  • Bod yn actif yn gorfforol a threulio amser yn yr awyr agored.

Os byddwch yn mynd i ddathliad, gadewch i’ch hun fwynhau’r bwyd sydd ar gael, ond meddyliwch hefyd am strategaethau i osgoi bwyta gormod. Os byddwch yn mynd i’r digwyddiad gyda rhywun, dywedwch sut rydych yn teimlo er mwyn i’r person hwnnw allu eich cefnogi.

Mae’r cyfnodau da a gwael mewn bywyd yn anochel

Meddyliwch am beth sy’n bwysig i chi a neilltuwch amser ar ei gyfer. Gallai hyn olygu treulio amser gwerthfawr gyda ffrindiau a theulu, amser ar gyfer eich diddordebau, rhoi cynnig ar rywbeth newydd neu helpu pobl eraill. 

Gall gwneud amser i bobl a gweithgareddau sy’n ein helpu i deimlo’n dda a gwerthfawrogi’r hyn yr ydym yn ddiolchgar am roi hwb i’n hwyliau. Mae hyn yn helpu i amddiffyn a gwella ein lles meddyliol, hyd yn oed pan fyddwn yn profi cyfnodau anodd. 

Sut arall gallech chi reoli teimladau anodd?

A oes rhywun y gallwch siarad ag ef neu hi, neu weithgaredd a all helpu i dynnu’ch sylw? Peidiwch ag anwybyddu problemau ond rhowch amser i’ch hun i feddwl am y pethau rydych yn eu mwynhau a gwneud y pethau hynny.

Dysgu mwy

Offer lles – Hapus 

Bwyd a iechyd meddwl – Mind 

Beth yw delwedd corff iach?

Delwedd corff yw’r ffordd rydym yn meddwl ac yn teimlo am ein cyrff. Mae delwedd corff iach yn golygu derbyn eich corff a bod yn fodlon gyda’ch ymddangosiad.

Nid yw delwedd corff yn ymwneud â phwysau yn unig. Gall gynnwys pethau fel cymharu sut rydych yn edrych â phobl eraill a faint y mae barn pobl eraill ar eich ymddangosiad yn effeithio ar y ffordd yr ydych yn teimlo amdanoch eich hun.

Pam mae delwedd corff iach yn bwysig?

Mae teimlo’n dda amdanoch eich hun yn bwysig ar gyfer eich iechyd a’ch lles meddyliol yn gyffredinol.

Mae hunan-barch da yn golygu bod yn hyderus o ran pwy ydych chi, gan gynnwys sut rydych yn edrych ac yn teimlo am eich nodweddion a’ch priodoleddau.

Gall fod yn fodlon ar eich corff helpu gyda rheoli eich pwysau. Gall pobl sydd â delwedd corff iach ei chael hi’n haws i fwyta deiet iach a chael mwy o hyder i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol.

Two ladies dancing


Beth allaf ei wneud i gynnal delwedd corff iach?

Mae llawer o siapau a meintiau corff gwahanol. Fodd bynnag, gall y cyfryngau ddangos syniadau afrealistig am sut y dylai cyrff edrych. Sylwch ar sut rydych chi’n teimlo wrth ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, a pheidiwch ag ymgysylltu â chynnwys sy’n gwneud i chi deimlo’n anghyfforddus.

Gwerthfawrogwch bopeth y mae eich corff yn ei wneud i chi. Gall teimlo’n ddiolchgar am y pethau y mae eich corff yn eich helpu i’w gwneud, fel mynegi eich hun, eich helpu i ganolbwyntio ar y pethau da.

Ceisiwch ganmol pobl eraill am eu sgiliau neu bethau rydych yn eu hoffi am eu personoliaeth, nid dim ond ar sut maen nhw’n edrych.

Rydym yn aml yn fwy beirniadol o’n hun nag y byddem o eraill yn yr un sefyllfa. Gall dangos rhywfaint o garedigrwydd i’n hun helpu i wrthsefyll hyn a theimlo’n fwy positif.

Ymarferwch fod yn garedig i’ch hun. Siaradwch â’ch hun ac amdanoch eich hun fel y byddech chi’n siarad â ffrind.

Beth yw ystyr straen?

Gellir meddwl am straen fel teimladau o bwysau meddyliol neu emosiynol. Mae teimlo lefelau isel o straen dros gyfnodau byr yn gyffredin ar adegau, a gallan nhw helpu i’n cymell i wneud rhai gweithredoedd. Pan fydd straen yn para am gyfnod hir, yn ddwys iawn, neu’n ymgasglu oherwydd bod llawer o wahanol ffynonellau straen yn dod ar unwaith, gall gael effeithiau niweidiol ar ein lles meddyliol.

Mae gan bobl ffyrdd gwahanol o reoli straen. I rai, gall arwain at fwyta gormod neu ddim digon, neu ddefnyddio cyffuriau neu alcohol. Gall yr ymddygiadau hyn deimlo’n ddefnyddiol yn y tymor byr ond, yn y tymor hwy, maen nhw’n arferion niweidiol a gallan nhw leihau ein gallu i ymdopi â straen mewn gwirionedd.

Mae’n bwysig bod yn garedig i’n hun yn ystod adegau anodd, gan osgoi hunan-amheuaeth neu fai ar gam, a gofyn am gymorth pan fo angen. Mae hyn yn ein helpu i ymdopi ac yn amddiffyn ein lles meddyliol.

A woman looking at her phone

Sut ydw i’n gwybod os ydw i dan straen?

Dyma rai arwyddion posibl o straen:

  • Teimlo’n bigog neu’n flin
  • Teimlo eich bod yn boddi
  • Ymdeimlad o ofn
  • Teimlo’n orbryderus, yn nerfus neu mewn braw
  • Teimlo’n bryderus neu ar bigau’r drain
  • Teimlo’n unig neu wedi’ch esgeuluso.

Efallai y byddwch yn sylwi ar y newidiadau corfforol canlynol:

  • Trafferth cysgu
  • Trafferth anadlu’n arferol
  • Cur pen neu boen yn y cyhyrau
  • Llygaid poenus neu olwg aneglur
  • Chwysu
  • Newidiadau i batrwm y coluddyn
  • Penysgafnder
  • Poenau yn y frest a phwysedd gwaed uchel.

Ydych chi’n sylwi ar arwyddion o straen ynoch eich hun?

Weithiau, bydd pobl eraill yn sylwi ar newidiadau yn ein hymddygiad cyn i ni wneud. Ceisiwch siarad â rhywun rydych yn ymddiried ynddo am eich arwyddion cynnar o straen. Gall hyn helpu pobl i deimlo’n gyfforddus i holi os byddwch yn dechrau dangos arwyddion o straen. Po gyntaf y gwelir yr arwyddion, yr hawsaf y gall fod i ymdrin â nhw.

Beth allaf ei wneud i ymdopi â straen?

Gall cymryd camau i leihau teimladau o straen a hybu ein lles meddyliol a helpu i gadw ein corff a’n meddwl i deimlo a gweithredu’n dda.

  • Ceisiwch ddeall pa ffactorau sy’n cyfrannu ato er mwyn sicrhau eich bod yn fwy parod ar gyfer adegau pan fydd teimladau anodd yn codi.
  • Byddwch yn garedig â’ch hun. Mae ffynonellau straen yn aml yn rhai allanol na allwch chi eu rheoli o reidrwydd, ond gallwch geisio rheoli sut rydych yn ymateb iddynt.
  • Neilltuwch amser i ymlacio.
  • Neilltuwch amser ar gyfer y pethau rydych yn eu mwynhau. Boed hynny gyda phobl sy’n eich helpu i deimlo’n dda, amser ar gyfer diddordeb neu amser yn yr awyr agored, mae’r gweithgareddau hyn yn ein helpu i ymdopi â straen.
  • Ceisiwch gael digon o gwsg — mae blinder yn ei gwneud hi’n anoddach ymdopi â straen.
  • Bwytewch yn iach a gwnewch rywfaint o weithgarwch corfforol — bydd gofalu amdanoch eich hun yn gorfforol yn eich helpu gyda’ch lles meddyliol.
Meddyliwch am eich arwyddion o straen a beth yw’r ffordd orau i chi ymdopi â straen.

Dysgu mwy

Straen / Stress | Mental Health Foundation (Dolen Saesneg yn unig)

Offer lles – Hapus 

Beth yw ystyr bwyta emosiynol?

Mae bwyta emosiynol yn cyfeirio at yr adegau hynny pan fyddwn yn bwyta nid oherwydd bod eisiau bwyd arnom, ond i’n helpu i ymdopi ag emosiynau anodd. Efallai y byddwn yn troi at fwyd er cysur pan fyddwn yn teimlo’n isel, dan straen neu wedi diflasu. Gall hyn arwain at arferion di-fudd, yn enwedig os mai colli pwysau neu gynnal pwysau iach yw eich nod.

Beth allaf ei wneud i leihau bwyta emosiynol?

Dewch i ddeall eich patrymau bwyta a nodi’r adegau pan fydd eich emosiynau’n eich troi at fwyd am resymau heblaw bod eisiau bwyd arnoch.

Meddyliwch am eich sbardunau 

Meddyliwch am yr adegau pan fyddwch yn troi at fwyd er cysur. A yw’n digwydd ar adeg benodol o’r dydd? Sut oeddech chi’n teimlo? Beth oedd yn digwydd o’ch cwmpas?

Ceisiwch gadw dyddiadur bwyd

Gan fyfyrio ar sut roeddech chi’n teimlo ar wahanol adegau o’r dydd a sut y gallai hynny fod wedi effeithio ar eich dewisiadau bwyd. Gall hyn helpu i nodi eich sbardunau. Pan fyddwch yn deall eich sbardunau, gallwch fod yn fwy parod ar gyfer adeg pan fyddwch yn sylwi ar y digwyddiadau neu’r teimladau hynny’n codi a bod â strategaethau eraill ar waith.

Ceisiwch wneud newidiadau bach dros amser a byddwch yn garedig â’ch hun wrth i chi addasu eich arferion

Os byddwch yn sylwi nad ydych yn gallu rhoi’r gorau i droi at fwyd fel cysur i ddechrau, ceisiwch ddewis bwydydd iach, gan osgoi bwyd sy’n uchel mewn braster, siwgr neu halen.

Dros amser, rhowch gynnig ar wahanol ffyrdd o ymdopi nes y byddwch yn dod o hyd i’r hyn sy’n gweithio i chi. Efallai y bydd cael ychydig o awyr iach neu fynd am dro bach yn helpu, neu efallai codi pensil i ysgrifennu sut rydych yn teimlo neu ddwdlan hyd yn oed.

Bydd dod o hyd i ddifyrion yn eich helpu i symud oddi wrth fwyta emosiynol ac yn cefnogi eich lles meddyliol.

Byddwch yn falch ohonoch eich hun am y newidiadau y byddwch yn eu gwneud, nid yw’n hawdd. Bydd baglu, ond bydd dychwelyd at strategaethau ymdopi eraill ar ôl i chi faglu yn helpu i feithrin yr arferion newydd hynny.

  • Ydych chi wedi ceisio cadw dyddiadur bwyd ac emosiynau?
  • Ydych chi’n gwybod beth yw eich “sbardunau” ar gyfer troi at fwyd?
  • Beth ydych chi’n mwynhau ei wneud a allai eich helpu i ymdopi ag emosiynau yn lle bwyta?

Os ydych yn poeni y gallech chi neu rywun rydych yn ei adnabod fod ag anhwylder bwyta, siaradwch â’ch meddyg teulu. Mae cymorth hefyd ar gael gan BEAT yma. (Dolen Saesneg drwy ragosodiad allanol, mae’n bosib cael dewis Cymraeg).

Beth yw lles meddyliol?

Gellir meddwl am les meddyliol cadarnhaol fel ‘teimlo’n dda a gweithredu’n dda’.

Mae lles meddyliol yn dylanwadu ar y ffordd yr ydym yn meddwl, yn teimlo ac yn gweithredu.

Mae llawer o bethau’n dylanwadu ar ein lles meddyliol, o’n profiadau (yn y gorffennol a’r presennol), i’r ffordd yr ydym yn teimlo amdanom ein hunain a’n perthynas ag eraill, a phethau eraill fel pa mor fforddiadwy yw nwyddau sylfaenol, ansawdd ein hamgylchedd, a lefelau ymddiriedaeth mewn cymunedau.

Pam mae lles meddyliol yn bwysig?

Mae gofalu am ein lles meddyliol yr un mor bwysig â gofalu am ein hiechyd corfforol. Gall ein hiechyd corfforol effeithio ar ein lles meddyliol. Os byddwn yn teimlo’n sâl, efallai y byddwn yn teimlo’n isel yn feddyliol, ond mae ein lles meddyliol hefyd yn effeithio ar ein hiechyd corfforol.

Mae cymryd amser i ofalu am ein lles meddyliol, hyd yn oed pan fyddwn yn teimlo’n dda, yn ein galluogi i ymdopi’n well â chyfnodau mwy heriol a gwella ar ôl hynny.

Three ladies walking and laughing

Beth allaf ei wneud i wella fy lles meddyliol?

Dangos diolchgarwch

Nid teimlad yn unig yw diolchgarwch, ond gweithred y gallwch ei rhoi ar waith. Ceisiwch nodi rhywbeth yr ydych yn ddiolchgar amdano 3-4 gwaith yr wythnos. Efallai y byddwch yn ddiolchgar am sylwi ar yr heulwen drwy ddiferyn o law, gwên gan ddieithryn, neu alwad ffôn gyda ffrind. Cadwch nodiadau mewn dyddiadur y gallwch fyfyrio arno pan fydd angen hwb arnoch.

Cysylltu â phobl eraill

Mae cysylltu ag eraill yn ein helpu i deimlo’n dda. Peidiwch â bod ofn gofyn am gymorth neu gynnig cymorth i eraill. Efallai y bydd cynnig cymorth i rywun pan fyddwch yn teimlo’n isel yn teimlo’n rhyfedd, ond gall gwneud gweithredoedd caredig digymell roi hwb i’n teimladau cadarnhaol a’n hymdeimlad o gysylltiad â phobl eraill.

Cysylltu â natur

Gall fod yn yr awyr agored roi hwb i’n lles meddyliol a rhoi ymdeimlad o bersbectif i ni. Gall treulio amser mewn mannau gwyrdd neu fannau sy’n agos at ddŵr helpu i dawelu meddyliau prysur. Gadewch i natur dynnu eich sylw; sylwch ar y golygfeydd a’r synau. Nid oes yn rhaid i chi fynd am dro hir yn y wlad i deimlo’r buddion; gall plannu pot blodau, osod cwt pryfed, neu sylwi ar yr arwyddion o newid tymhorau fod yn defnyddiol.

Bod yn greadigol

Mae bod yn greadigol yn dda ar gyfer ein lles meddyliol. Gallwch roi cynnig ar lawer o bethau: gwrando ar gerddoriaeth, rhoi cynnig ar ffotograffiaeth, neu ysgrifennu cerdd. Ceisiwch roi eich eich sylw llawn iddo. Bydd hyn yn eich helpu i gael seibiant o bryderon pob dydd.

Yr hyn sy’n bwysig i chi

 Mae gwahanol bethau yn bwysig i wahanol bobl. Ystyriwch beth sy’n bwysig i’ch lles meddyliol eich hun?

Dysgu mwy

Ffyrdd o wella lles – Hapus

Ffyrdd o deimlo’n hapusach: Happier Kinder Together | Action for Happiness (Dolen Saesneg yn unig)

Dylanwadau ar ein lles meddyliol: Hyrwyddo Lles Unigol a Chymunedol – Iechyd Cyhoeddus Cymru

Pam mae bod yn actif yn bwysig?

Mae bod yn actif yn helpu eich meddwl yn ogystal â’ch corff.

Gall gwneud gweithgarwch corfforol rydych yn ei fwynhau:
•    Eich helpu i deimlo’n dda
•    Rhoi ymdeimlad o bwrpas i chi
•    Lleihau tensiwn a straen
•    Gwella eich hwyliau
•    Magu eich hyder

Mae’r holl bethau hyn yn cefnogi lles a gallan nhw eich helpu i gynnal eich cymhelliant wrth i chi reoli’ch pwysau.

Gall teimlo’n isel effeithio ar ein cymhelliant i fod yn actif. Gall dechrau arni fod yn anodd, ond mae’n bwysig trio — mae hyd yn oed cyfnodau byr o weithgarwch yn helpu. Os nad ydym yn weithgar, rydym yn wynebu risg o fynd yn sownd mewn cylch lle rydym yn osgoi gwneud gweithgarwch corfforol neu’r pethau rydym fel arfer yn eu mwynhau oherwydd ein bod yn teimlo’n isel. Ond gall yr osgoi hwn wneud i ni deimlo’n waeth.

Woman walking dog

Manteisio i’r eithaf ar fod yn actif

Mae ein perthnasoedd a’n cysylltiadau cymdeithasol yn hanfodol ar gyfer cefnogi lles meddyliol da. Gall cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol gyda phobl eraill fod yn ffordd dda o gysylltu ag eraill a chael cefnogaeth i’ch helpu i ymdopi â heriau pob ddydd.

Mae bod yn actif yn yr awyr agored yn cynnig hyd yn oed mwy o fanteision. Mae’n ffaith bod treulio amser ym myd natur yn diogelu lles. Pan fyddwch mewn amgylcheddau naturiol, fel parciau, coetiroedd, a thraethau, gall hefyd gynyddu’r cyfleoedd i chi symud mwy.

Gall hyd yn oed cynnydd bach mewn lefelau gweithgarwch corfforol wneud gwahaniaeth mawr i sut rydym yn teimlo. Meddyliwch am newidiadau bach y gallech chi eu gwneud; er enghraifft gallai troi cerddoriaeth ymlaen wrth i chi wneud y gwaith tŷ eich helpu i symud yn fwy, dringo’r grisiau yn lle mynd yn y lifft, neu gerdded i’r siop leol yn lle gyrru – bydd hyn o fudd i chi a’r amgylchedd. 

Gall dioddef o gyflwr iechyd meddwl effeithio ar y math o weithgarwch corfforol y gallwch ei wneud. Er enghraifft, gall rhai meddyginiaethau effeithio ar eich corff a’ch lefelau egni, a gall pobl sy’n cael pyliau o banig deimlo bod diffyg anadl yn peri gofid.

Mae’n dal yn bosibl bod yn actif a chael cefnogaeth gan bobl rydym yn ymddiried ynddynt ac sy’n gofalu amdanom, neu gan y rhai sydd wedi cael profiadau tebyg. Gall ein helpu i deimlo’n dda a gweithredu’n dda unwaith eto, beth bynnag yw hynny i ni.

O ble bynnag rydych yn dechrau, mae unrhyw beth y gallwch ei wneud i fod yn actif yn rheolaidd yn dda

Dewch o hyd i weithgaredd corfforol sy’n realistig i chi, a chymerwch ran mewn rhywbeth rydych yn ei fwynhau.

  • Beth ydych chi’n ei fwynhau sy’n gwneud i chi symud?
  • Allwch chi wneud ychydig (mwy) o funudau bob dydd?

Dysgu mwy

Sut mae gweithgaredd corfforol ac iechyd meddwl yn gysylltiedig? – Mind 

Iechyd corfforol ac ymddygiadau iechyd – Hapus

Pam mae cwsg yn bwysig?

Mae cwsg yn bwysig oherwydd ei fod yn effeithio ar ein lles corfforol ac emosiynol. Mae cysgu’n dda yn golygu ein bod yn teimlo’n hapusach fel arfer, ac yn ein galluogi i ymdopi â phroblemau bywyd yn well. Mae’n ein helpu i weithredu’n well yn ystod y dydd.

Mae insomnia yn broblem gyffredin sy’n effeithio ar oddeutu 10% o bobl. Os ydych wedi cael trafferth mynd i gysgu neu’n aros ynghwsg sawl gwaith yr wythnos am dri mis, mae’n bosibl eich bod yn dioddef o insomnia a dylech ofyn am gymorth gan eich meddyg teulu.

Beth allaf ei wneud i gysgu’n dda?

Gall yr awgrymiadau canlynol eich helpu i gysgu’n dda:

  • Sicrhewch fod gennych amser rheolaidd i fynd i’r gwely a deffro.
  • Ceisiwch gadw at drefn amser gwely debyg er mwyn helpu i baratoi eich corff a’ch meddwl ar gyfer cwsg.
  • Sicrhewch fod gennych le cyfforddus a digynnwrf i gysgu ynddo.
  • Byddwch yn gorfforol weithgar yn ystod y dydd.
  • Cymerwch amser i ymlacio cyn mynd i’r gwely. Gallai hyn gynnwys mynd am gawod neu ddarllen llyfr.
  • Peidiwch ag yfed llawer o alcohol. 
  • Osgowch gael ffôn clyfar wrth eich gwely. 
  • Ceisiwch beidio ag yfed te neu goffi ar ôl canol y prynhawn. 
  • Ceisiwch beidio â bwyta pryd mawr o fwyd yn hwyr yn y nos oherwydd gall rhai bwydydd effeithio ar eich cwsg. 
  • Osgowch fwydydd llawn siwgr yn agos at amser gwely.
  • Gall cadw llyfr nodiadau wrth ochr eich gwely fod yn ddefnyddiol os byddwch yn sylwi nad ydych yn gallu cau eich meddyliau cyn cysgu. 

Gall yr awgrymiadau uchod helpu, ond efallai y byddwch yn ei chael hi’n anodd mynd i gysgu neu aros ynghwsg o hyd. Mae astudiaethau diweddar yn awgrymu y gall problemau cysgu ddigwydd pan fyddwch yn teimlo eich bod yn ymdroi gyda meddyliau penodol, neu fod eich meddyliau’n rasio a’ch bod yn cael trafferth eu ‘diffodd’.  Gall gweithgareddau fel ymarferion anadlu gofalgar helpu yn y sefyllfa hon

Dysgu mwy

Cysgu’n well – Hapus (Tudalen gwe Cymraeg gyda’r canllaw yn Saesneg yn unig)

Meddwlgarwch / Mindfulness – NHS  (Dolen aesneg yn unig)

Problemau Cwsg / Sleep problems – Every Mind Matters – NHS  (Dolen Saesneg yn unig)

Os ydych yn gwneud pob un o’r uchod ac yn cael trafferth cysgu o hyd, neu’n meddwl eich bod yn dioddef o insomnia, siaradwch â’ch meddyg teulu i gael rhagor o gymorth.

Mae pob un ohonom yn dyheu am fwyd bob hyn a hyn, yr ysfa i fwyta rhywbeth yr ydym yn ei fwynhau. Weithiau gall arogl, hysbyseb neu atgof sbarduno angen cryf am fwyd neu bryd bwyd penodol. Pan allwch chi reoli’r ysfeydd hynny a chynnal deiet cytbwys, mae hyn yn rhan arferol o berthynas iach â bwyd.

Gall ysfeydd am fwyd fod yn broblem pan fydd yn teimlo’n amhosibl eu rheoli. Efallai fod gennych chi ysfa am fwyd arbennig sy’n llawn halen, siwgr neu fraster. Efallai y byddwch chi’n mynd allan o’ch ffordd i fwyta’r bwyd hwn. Efallai fod hyn wedi’ch arwain at fwyta mwy nag yr oeddech wedi’i gynllunio neu beidio â rhoi’r gorau i fwyta’r bwyd hwn pan fyddwch chi’n llawn, a gallai hyn gyfrannu at ei gwneud yn anoddach i reoli’ch pwysau.

Chwalu eich ysfeydd am fwyd

Mae ysfeydd am fwyd yn wahanol i deimlo’n llwglyd. Gall fod â threfn fwyta reolaidd a pheidio â hepgor prydau bwyd eich helpu i adnabod pryd rydych chi’n llwglyd ac yn llawn, a phryd mae’ch awydd i fwyta yn ymwneud â’ch ysfa ac nid bod yn llwglyd. Gallwch ddefnyddio’r sgôr llwgu i helpu. Weithiau rydym yn meddwl ein bod yn llwglyd pan fyddwn yn sychedig. Felly ceisiwch yfed digon hefyd.

Meddyliwch am eich sbardunau

Pryd maen nhw’n digwydd? Pa amser o’r dydd yw hi? Ble ydych chi? Sut ydych chi’n teimlo? Ydych chi newydd fwyta, neu a ydych chi’n gallu gweld y bwyd sy’n sbardun? Gall helpu i ysgrifennu hyn:

  • Rydw i eisiau bwyta’r bwyd hwn pan ______________________.
  • Rydw i eisiau bwyta’r bwyd hwn oherwydd ______________________.

Drwy nodi eich sbardunau, gallwch gynllunio beth i’w wneud pan fyddwch chi’n ysu am fwyd.

Gallech chi drio cadw’n brysur a thynnu’ch sylw gyda diddordeb, gweithgaredd neu gysylltu â ffrind. Ystyriwch beth rydych chi’n ei fwynhau a phethau a fydd yn gweithio i chi.

  • Pan fyddaf yn ysu am fwyd, byddaf yn ______________________.

Symudwch y bwyd o’r golwg os gallwch chi. Efallai byddai’n ddefnyddiol i chi feddwl am gyfnewid bwyd iachach yn lle’r bwydydd yr ydych yn ysu amdanyn nhw.

Os yw’r ysfeydd am fwyd yn gysylltiedig â’ch hwyliau, efallai y bydd angen cefnogaeth arnoch i ymdrin â’ch lles emosiynol yn gyntaf. linked to your mood, you might need support for dealing with your emotional wellbeing first.

Ystyriwch pryd a pham yr ydych yn ysu am fwyd. Yna gwnewch gynllun gan feddwl am yr hyn sy’n iawn i chi.

Cefnogaeth arall

Mae baglu yn normal a bydd hynny’n digwydd i bob un ohonom. Ewch i’n tudalen cael eich hun yn ôl ar ben ffordd am gymorth o ran sut i ymdopi â hyn.

Peidiwch â bod ofn gofyn am gymorth. Os ydych chi’n meddwl nad ydych yn gallu ymdopi â’ch ysfa am fwyd, a’i fod yn rhwystro eich bywyd bob dydd, neu eich bod yn cuddio eich bwyta rhag eraill, efallai fod angen mwy o gefnogaeth arnoch. Cysylltwch â’ch meddyg teulu i drafod hyn. Gallwch chi hefyd gael gwybodaeth a chefnogaeth drwy BEAT. (Linc Saesneg drwy ragosodiad allanol, mae posib cael dewis Cymraeg)

Ymunwch â’r gymuned

Cofrestrwch i'n cylchlythyr i dderbyn ysbrydoliaeth a ffyrdd o gadw'ch siwrnai i symud.

Dysgu mwy a Chofrestru