Os ydych eisoes wedi defnyddio ein hadnodd ‘Dod o hyd i’ch siwrnai’ ar ymweliad cynharach yna gallwch fynd yn syth yn ôl i’r man lle gwnaethoch adael trwy ddewis eich siwrnai o’r pum opsiwn isod. Yn syml, dewiswch y siwrnai yr oeddech yn ei dilyn y tro diwethaf a defnyddiwch y ddewislen i fynd i’r dudalen nesaf.

Dewis eich siwrnai

Cymdeithasol

  • Mae bwyd a diod yn rhan bwysig o’ch bywyd, yn enwedig eich bywyd cymdeithasol.
  • Bydd amser gyda teulu a ffrindiau fel arfer yn cynnwys bwyd a diod.
  • Efallai eich bod chi a’ch teulu wedi mynd i’r arfer o fwyta dognau mwy, mwy nag sydd ei angen yn aml, gan arwain at fagu pwysau.
  • Fel plentyn, roedd disgwyl i chi fwyta popeth ar eich plât a byddech yn cael eich canmol am wneud hynny.
Dewis y siwrnai honCymdeithasol

Hwyliau

  • Mae bwyd â diod yn gysylltiedig â sut rydych chi’n teimlo.
  • Rydychchi’n defnyddio bwyd a diod i godi’ch ysbryd neu lenwi blwch pan fyddwch chi wedi diflasu neu dan straen, neu i godi’ch hwyliau.
  • Efallai fod gennych wendid am fathau penodol o fwydydd cysur neu fyrbrydau yr ydych yn troi atyn nhw, er eich bod yn gwybod nad nhw yw’r dewis iach.
Dewis y siwrnai honHwyliau

Diogel

  • Rydych chi wedi cael profiadau anodd neu sy’n peri straen, yn enwedig yn ystod eich plentyndod ond ar adegau eraill yn eich bywyd hefyd.
  • Mae hyn wedi cael effaith barhaus ac bwyta wedi bod yn un o’r ffyrdd o ymdopi.
  • Fel eraill sydd wedi cael profiadau tebyg, efallai eich bod wedi cael problemau gyda’ch pwysau am rhan fwyaf o’ch bywyd, efallai’n colli pwysau ac yna’n ail-fagu cryn dipyn o bwysau.
  • Gall y profiadau hyn gynnwys trais neu cam-drin gartref, tor teulu neu brofedigaeth annisgwyl, neu rhiant â phroblemau iechyd meddwl, cyffuriau neu alcohol.
Dewis y siwrnai honDiogel

Bywyd

  • Mae eich bywyd wedi newid dros y blynyddoedd diwethaf ac mae hyn wedi arwain at fagu pwysau.
  • Efallai mae dechrau teulu yw hyn, newid perthynas, neu newid i’ch trefniadau gweithio.
  • Mae hyn wedi golygu nad ydych mor actif ag yr oeddech chi ar un adeg ac efallai fod eich arferion bwyta wedi newid hefyd i gyd-fynd â’ch ffordd o fyw bresennol.
Dewis y siwrnai honBywyd

Cynnal Pwysau

  • Mae cynnal pwysau yn ymwneud â chadw’ch pwysau’n sefydlog, sy’n golygu peidio â cholli, ennill neu adennill pwysau.
  • Efallai y byddwch chi’n sylwi bod eich pwysau’n amrywio’n naturiol bob dydd ac efallai y bydd adegau pan fydd eich pwysau’n codi neu’n gostwng.
  • Os ydych chi o fewn ystod pwysau iach, mae cynnal pwysau yn ymwneud â dod o hyd i gydbwysedd sy’n eich helpu i aros o fewn yr ystod honno.
  • Rydych yn chwilio am gydbwysedd yn eich bwyta a’ch ffordd o fyw sy’n eich helpu i aros o fewn yr ystod honno dros amser.
Dewis y siwrnai honCynnal Pwysau

Ymunwch â’r gymuned

Cofrestrwch i'n cylchlythyr i dderbyn ysbrydoliaeth a ffyrdd o gadw'ch siwrnai i symud.

Dysgu mwy a Chofrestru