Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan Pwysau Iach Byw'n Iach.

Mae’r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Rydym am i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu gwneud y canlynol:

  • chwyddo’r cynnwys hyd at 200% heb i'r testun ddiflannu oddi ar y sgrin
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver).

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.

Os oes gennych anabledd, mae gan AbilityNet (Linc Saesneg yn unig) gyngor ar sut i wneud eich teclyn yn haws ei ddefnyddio.

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch.

  • Efallai na fydd rhannau o’r tudalennau yn gweithio’n dda gyda Thechnolegau Cynorthwyol fel rhaglenni darllen sgrin
  • Nid yw rhai dewislenni yn gwbl hygyrch
  • Nid oes gan rai botymau a dolenni ddisgrifiadau hygyrch
  • Mae rhai tudalennau yn cynnwys testun sydd â lliwiau gwrthgyferbyniol gwael
  • Mae rhai tudalennau yn cynnwys penawdau nad ydynt wedi’u trefnu mewn modd rhesymegol
  • Nid oes modd defnyddio rhai tudalennau’n llawn gyda’r bysellfwrdd
  • Nid yw rhai tudalennau wedi’u trefnu mewn modd rhesymegol o ran ffocws
  • Mae eitemau eilaidd y ddewislen yn newid trefn pan ddewisir eitem
  • Mae rhai ffurflenni yn cynnwys negeseuon gwall neu labeli aneglur
  • Nid oes modd addasu uchder llinell na bylchau testun
  • Nid yw'r rhan fwyaf o ddogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch i raglen darllen sgrin
  • Nid oes gan ffrydiau fideo byw gapsiynau

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille:

E-bost: HI-Social.Marketing@wales.nhs.uk

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi ymhen 30 diwrnod gwaith ar yr mwyaf. Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn ymateb yn Gymraeg heb oedi.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd ar y wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â: HI-Social.Marketing@wales.nhs.uk - Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn ymateb yn Gymraeg heb oedi.

Gweithdrefn orfodi

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni yn bersonol

Rydym yn ystyried yr opsiwn o ddarparu gwasanaeth cyfnewid testun i bobl F/fyddar, â nam ar eu clyw neu sydd â nam ar eu lleferydd.

Mae gan ein swyddfeydd ddolenni sain, neu os byddwch yn cysylltu â ni cyn eich ymweliad gallwn drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Dysgu sut i gysylltu â ni. Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn ymateb yn Gymraeg heb oedi.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Pwysau Iach Byw'n Iach wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1. (Linc Saesneg yn unig)

Cynnwys nad yw'n hygyrch

Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Baich anghymesur

Er y byddwn yn ymdrechu i sicrhau bod ein holl gynnwys ar gael yn ddigidol lle bynnag y bo modd, gwyddom fod rhai rhannau o'n gwefan o natur gorfforaethol, nad ydynt yn hygyrch ar hyn o bryd ac sydd wedi'u cynhyrchu ers mis Medi 2018.

Ar gyfer yr adrannau hyn, byddwn yn nodi pan fyddwn yn gwybod nad yw dogfennau'n cydymffurfio ac yn darparu manylion cyswllt lle bynnag y bo modd. Wrth i ddogfennau gael eu hadnewyddu yn y dyfodol, byddwn yn sicrhau ein bod yn ystyried hygyrchedd digidol.

Ar hyn o bryd, rhestrir yr adrannau hyn fel a ganlyn: (ac yn amodol ar newid).

  • Papurau'r bwrdd
  • Cyhoeddiadau a allai fod wedi'u cynhyrchu'n broffesiynol ers mis Medi 2018 y byddai'n rhaid i drydydd parti eu pennu.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

PDFs a dogfennau eraill

Mae rhai o'n dogfennau PDF a Word yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, weithiau mae gennym PDFs gyda gwybodaeth am sut y gall defnyddwyr gael mynediad i'n gwasanaethau a ffurflenni a gyhoeddir fel dogfennau Word.

Nid yw'r rheoliadau  hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni gywiro PDFs neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Nid ydym yn bwriadu cywiro unrhyw PDFs na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018, er enghraifft Papurau Bwrdd a Phwyllgorau, polisïau a dogfennau gweithdrefnau na dogfennau statudol megis Adroddiadau Blynyddol. Fodd bynnag, byddwn yn ymdrechu i wneud unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd yn hygyrch lle bynnag y bo modd.

O bryd i'w gilydd byddwn yn cyhoeddi PDFs sy'n cynnwys 'trawsgrifiadau/llawysgrifau wedi'u sganio neu nodiadau mewn llawysgrifen' er enghraifft mewn ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth - mae'r rhain y tu allan i'r cwmpas ac ni fyddant yn cael eu cywiro.

Fideo byw

Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau sain neu fideo byw oherwydd bod fideo byw wedi'i eithrio rhag bodloni'r rheoliadau hygyrchedd (Linc Saesneg yn unig). Fodd bynnag, byddwn bob amser yn anelu at ddarparu fersiynau wedi'u hisdeitlo o fideos wedi'u recordio ymlaen llaw a gynhyrchir.

Yr hyn yr ydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Ein bwriad yw parhau i wella hygyrchedd trwy gynnal archwiliadau mewnol ac allanol rheolaidd. Rydyn ni wedi cynnal adolygiad mewnol o'r wefan ym mis Gorffennaf 2023 ac wedi cywiro rhai materion. Ar gyfer y materion doedd dim posib eu cywiro'n syth, mae cynllun gwaith wedi'i greu, a'r bwriad ydi i gywiro rheiny cyn gynted â phosib. 

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ym mis Gorffennaf 2020 a chafodd ei adolygu ym mis Rhagfyr 2022. Bydd yn cael ei adolygu eto ym mis Rhagfyr 2023. Bydd y wefan hon yn cael ei phrofi am hygyrchedd yn 2023.

 

Ymuno â'r Gymuned

Byddwch y cyntaf i glywed am gynnwys a nodweddion newydd trwy ymuno â'n rhestr bostio. Rhagor