
Cadw’n actif yw un o’r ffyrdd gorau o wella eich llesiant corfforol a meddyliol. Gall hefyd eich helpu i gyrraedd a chynnal pwysau iach.
Mae ffyrdd o fyw modern yn aml yn ei gwneud hi’n anoddach symud cymaint ag sydd angen i ni. Mae llawer ohonom yn treulio mwy o amser yn eistedd, boed yn y gwaith, gartref neu wrth deithio. Dyna pam y gall cynnwys gweithgarwch corfforol yn eich trefn ddyddiol wneud gwahaniaeth go iawn.
Y newyddion da yw bod pob symudiad yn cyfrif. Nid oes angen i chi wneud llawer o weithgarwch corfforol i ddechrau gweld manteision. Gall cerdded yn sioc, mynd i fyny’r grisiau neu fod yn fwy egnïol drwy gydol eich diwrnod roi hwb i’ch egni, gwella’ch hwyliau a chefnogi eich nodau rheoli pwysau.
Nid yw byth yn rhy hwyr i ddechrau arni, ac nid oes rhaid i chi wneud y cyfan ar unwaith. Ceisiwch symud ychydig mwy bob dydd a chynyddu hynny’n raddol. Mae unrhyw weithgarwch yn well na dim, ac mae mwy yn dod â hyd yn oed rhagor o fanteision.
Symud mwy yn ystod eich diwrnod
Nid oes rhaid i gadw’n actif olygu chwarae chwaraeon na mynd i’r gampfa. I’r rhan fwyaf o bobl, mae llawer o ffyrdd o gynnwys gweithgarwch yn eu bywydau bob dydd. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Sefyll yn hytrach nag eistedd pan allwch chi, fel ar deithiau trên neu fws
- Os oes rhaid i chi yrru i rywle, beth am barcio ychydig ymhellach i ffwrdd nag sydd angen, hyd yn oed os mai dim ond pen pellaf y maes parcio ydyw
- Ceisiwch gerdded neu feicio i’r ysgol neu’r gwaith ychydig o weithiau’r wythnos
- Defnyddiwch y grisiau yn lle’r lifft mor aml â phosibl
- Dewch oddi ar y bws un arhosfan yn gynharach a cherdded gweddill y ffordd
Awgrym – Meddyliwch am eich trefn ddyddiol a sut y gallwch wneud newidiadau bach i ddod yn fwy actif
Manteision bod yn actif
Mae unrhyw weithgarwch corfforol yn gwneud lles. Os nad ydych chi’n cadw’n actif ar hyn o bryd, gall hyd yn oed cynnydd bach, graddol gael effaith gadarnhaol. Mae gwneud gweithgarwch corfforol yn cynnig ystod eang o fanteision meddyliol a chorfforol gan gynnwys:
- Gwella eich hwyliau a lleihau straen
- Hybu hyder
- Rhoi ymdeimlad o bwrpas i chi
- Gwella symudedd a chydbwysedd
- Gwella cwsg
- Eich helpu i aros yn frwdfrydig wrth i chi reoli’ch pwysau
Y gamp yw dod o hyd i weithgareddau rydych chi’n eu mwynhau, gan ei gwneud hi’n fwy tebygol y byddwch chi’n glynu atynt yn y tymor hir.
Gallwch wneud y gorau o fod yn heini drwy gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol gyda’ch ffrindiau a’ch teulu. Gall fod yn ffordd dda o gysylltu ag eraill ac mae bod yn actif yn yr awyr agored yn arwain at hyd yn oed rhagor o fanteision.
Rydym hefyd yn gwybod bod pobl sy’n gwneud mwy o weithgarwch corfforol ochr yn ochr â gwella eu deiet yn aml yn fwy llwyddiannus wrth golli pwysau a’i gadw i ffwrdd.
Dewch o hyd i’r hyn sy’n gweithio i chi: Cyngor gan Jonathan Fox Davies
Mae Jonathan Fox Davies, cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru, yn dweud nad oes rhaid i gadw’n actif fod yn gymhleth – mae’n ymwneud â dod o hyd i’r hyn sy’n gweithio i chi a’i wneud yn rhan o’ch bywyd bob dydd.
Ar ôl ymddeol o rygbi, mae Jonathan wedi parhau i gadw’n actif , er mwyn ei ffitrwydd ac er mwyn ei lesiant meddyliol. Gall dewisiadau syml, fel gwneud eich camau, wneud gwahaniaeth mawr.
Boed yn chwarae chwaraeon, sesiynau yn y gampfa, neu fynd allan am dro, y peth pwysicaf yw dod o hyd i rywbeth sy’n gweithio i chi.
“Mae cadw’n actif yn wahanol i bawb, mae’n rhaid i chi ddod o hyd i rywbeth sy’n gweithio i chi’n bersonol.”
Faint o Weithgarwch Corfforol y Dylech Chi ei Wneud?
Dylai oedolion anelu at fod yn actif bob dydd er mwyn cynnal iechyd corfforol a meddyliol da. Mae unrhyw symudiad yn well na dim, ac mae mwy yn well fyth.
Oeddech chi’n gwybod, er mwyn aros yn heini ac yn iach, bod oedolion yn cael eu hannog i wneud:
- O leiaf 150 munud o weithgarwch dwyster cymedrol yr wythnos fel cerdded yn gyflym neu feicio
- O leiaf 75 munud o weithgarwch dwyster egnïol fel rhedeg
- Gallech chi hefyd wneud cyfnodau byrrach o weithgarwch dwyster egnïol iawn fel sbrintio neu ddringo’r grisiau
Gellir defnyddio cyfuniad o weithgarwch cymedrol neu egnïol hefyd i gyflawni’r argymhellion hyn. Dylid gwneud gweithgareddau i gryfhau’r cyhyrau o leiaf ddwywaith yr wythnos hefyd, ond mae unrhyw weithgarwch cryfhau yn well na dim.
Cofiwch fod pob munud yn cyfrif felly cynyddwch eich gweithgarwch dros amser a chanolbwyntiwch ar yr hyn sy’n gweithio i chi. Mae’r canllawiau yno fel nod neu darged personol – ond cofiwch fod pob symudiad yn cyfrif!
Rhagor o gymorth i gadw’n actif
Mae llawer o ffyrdd y gallwch chi gynyddu eich gweithgarwch.
I gael rhywfaint o ysbrydoliaeth a gweld yr hyn sydd ar gael yn eich ardal leol, dyma ychydig o sefydliadau gwych a ffyrdd rhad ac am ddim i’ch helpu i ddechrau arni:
- Dod o hyd i grŵp rhedeg lleol gyda Gall Bawb – Rhedeg Cymru
- Mwynhewch daith gerdded yn eich cymuned leol gyda Ramblers Cymru
- Ymuno â digwyddiad Parkrun UK am ddim (Dolen Saesneg yn unig)
- Rhoi hwb i’ch siwrnai i bwysau iachach gyda Fit Fans – Cymdeithas Bêl-droed Cymru (Dolen Saesneg yn unig)
- Archwilio eich arfordir lleol gyda Llwybr Arfordir Cymru
- I bobl gyda chyflwr iechyd hirdymor sydd eisiau cadw’n heini: “We Are Undefeatable” (Dolen Saesneg yn unig)
- Syniadau i’ch helpu i symud mwy gartref neu allan ym myd natur: Offer lles- Hapus
Gallwch hefyd ymweld â’ch canolfan hamdden, llyfrgell neu ganolfan gymunedol leol i weld yr hyn sydd ar gael yn eich ardal leol, gan gynnwys grwpiau cerdded, dosbarthiadau ffitrwydd a mwy.
Dechrau eich siwrnai
Ymunwch â’r chwarter miliwn o bobl ledled Cymru sy’n defnyddio gwefan Pwysau Iach Byw’n Iach. Gall gwneud newidiadau bach heddiw siapio’ch iechyd yn y dyfodol.
Ymunwch â’r gymuned
Cofrestrwch i'n cylchlythyr i dderbyn ysbrydoliaeth a ffyrdd o gadw'ch siwrnai i symud.
Dysgu mwy a Chofrestru