Rydych chi wedi dewis Siwrnai Pedwar – BYWYD
Efallai na fuoch yn pryderu am eich pwysau tan yn ddiweddar oherwydd ei fod yn sefydlog, neu yr oeddech yn gallu colli pwysau a fagwyd heb orfod gwneud llawer yn ei gylch. Yn fwy diweddar, mae pethau yn eich bywyd wedi newid ac mae hyn wedi achosi i’ch pwysau godi’n raddol.

Efallai nad ydych chi’n gwybod ble i ddechrau, yn enwedig os ydych chi’n credu bod deietau’n ddi-flas ac nid yn iawn i chi. Efallai eich bod chi’n gwybod pam yr ydych wedi ennill pwysau a’r hyn sydd angen i chi ei newid ond nad oes gennych chi’r hyder i’w wneud ar hyn o bryd. Gall Pwysau Iach Byw’n Iach eich helpu i ddod o hyd i’r cymhelliant, y nodau a’r newidiadau bach sy’n gweithio i chi er mwyn i chi allu teimlo fel chi’ch hun unwaith eto.
I chi, efallai y bu newidiadau yn eich bywyd yn ddiweddar, er enghraifft, newidiadau o ran swydd, perthnasoedd, teulu, neu gyflwr iechyd. Yn sgil hyn gallai eich trefn arferol o fwyta fod wedi newid, neu efallai nad ydych mor actif ag yr oeddech chi ar un adeg.
Efallai eich bod wedi sylwi bod eich pwysau’n codi’n raddol. Os buoch â phwysau iach erioed, efallai y byddwch yn synnu neu’n cael eich siomi gan y newidiadau hyn. Efallai eich bod wedi disgwyl dychwelyd i’ch pwysau arferol heb orfod gwneud dim ynghylch y peth, yn enwedig os ydych chi’n berson actif.
Parhau â’ch siwrnai
Ewch i’r dudalen nesaf sef Deall pwysau i barhau â’ch siwrnai.