Neidio i'r prif gynnwy

Mae yfed yn rheolaidd drwy gydol y dydd yn hanfodol i'n hiechyd ac yn rhan bwysig o'n trefn arferol. Mae angen i ni yfed rhwng 6 ac 8 gwydraid y dydd i sicrhau ein bod yn yfed digon. Bydd hyn yn amrywio rhwng pobl wahanol. Er enghraifft, bydd angen i chi yfed mwy mewn lleoedd cynhesach neu pan fyddwch yn fwy egnïol.

Mae pob un ohonom wedi cael adegau pan nad ydym wedi yfed digon, gan arwain at flinder, trafferth canolbwyntio, cur pen neu benysgafnder. Ffordd hawdd o wybod a ydych yn yfed digon yw cadw llygad ar liw eich wrin. Dylai fod yn lliw melyn golau. Os yw'n dywyll, mae angen i chi yfed mwy.

Rydym weithiau'n camgymryd teimlo'n sychedig am deimlo'n llwglyd, felly cyn i chi fynd am fyrbryd, rhowch gynnig ar gael diod yn gyntaf.
 

 

 

Hydradu iachach

Cawn rywfaint o'r dŵr sydd ei angen arnom o'r bwyd rydym yn ei fwyta. Mae angen y gweddill arnom o'n diodydd. Mae'r math o ddiodydd a gawn yn bwysig oherwydd gallwch gael llawer o siwgr a braster o'ch diodydd yn hawdd heb sylweddoli hynny. Dylem anelu at gael dim mwy na 30g o siwgr wedi'i ychwanegu  (7 ciwb siwgr) bob dydd.

Mae yna lawer o ffyrdd iach o sicrhau eich bod yn yfed digon, a chi sy’n penderfynu beth sydd orau gennych chi. Nid oes yn rhaid i chi newid yr holl ddiodydd rydych yn eu mwynhau. Meddyliwch am gydbwysedd yr hyn yr ydych yn ei yfed yn gyffredinol, a oes angen i chi gael rhai pethau’n llai aml ac a oes dewisiadau iachach y gallech eu mwynhau yn lle hynny.

Mae dŵr tap yn opsiwn rhad ac iach. Gall llaeth braster is neu laeth heb lawer o siwgr, fel llaeth soia neu gnau, fod yn ddewis da hefyd. Efallai y byddai'n well gennych yfed te a choffi. Mae cael y rhain heb siwgr, mêl, suropau neu hufen yn opsiynau gwell.

 

 

 

Efallai eich bod yn hoffi sudd ffrwythau neu lysiau os nad ydych yn mwynhau diodydd poeth. Ceisiwch gadw at un gwydraid bob dydd, gan eu bod yn cynnwys llawer o siwgr ond llai o ffibr na ffrwythau a llysiau cyfan. Gallech gymysgu eich sudd â dŵr a lleihau faint o sudd rydych yn ei gael dros amser.

Gall diodydd ffisiog, diodydd egni, diodydd ffrwythau, smwddis, llaeth a dŵr â blas gynnwys llawer o siwgr, felly mae’n well rhoi cynnig ar opsiynau heb siwgr a llai o fraster pan fydd hynny’n bosibl.

Meddyliwch am faint y diodydd rydych yn eu cael hefyd. Os yw eich diod yn uchel mewn braster neu siwgr, ewch am fersiynau llai pan fydd hynny’n bosibl.

 

Yfed alcohol mewn ffordd fwy diogel

Gallai sefydlu perthynas iach ag alcohol fod yn bwysig i chi. Os ydych yn yfed alcohol, efallai y bydd angen i chi hefyd ystyried faint rydych yn ei gael yn rheolaidd. Yn ogystal â bod yn well ar gyfer eich iechyd, gall yfed llai hefyd eich helpu i reoli'ch pwysau. Mae hyn oherwydd y gallwch gael mwy o galorïau o alcohol nag y byddwch yn sylweddoli.

Gall yr adnoddau hunanasesu hyn eich helpu i gyfrifo faint o alcohol rydych yn ei yfed ar hyn o bryd, eich anghenion a'r meysydd cymorth a allai fod yn ddefnyddiol i chi.

Cadw golwg ar eich arferion yfed | Alcohol Change UK (Linc Saesneg yn unig)

Cyfrifiannell unedau | Alcohol Change UK (Linc Saesneg yn unig)

Gallwch hefyd roi cynnig ar yr ap Try Dry, (Linc Saesneg yn unig) sy'n eich helpu i gadw golwg ar eich arferion yfed a gosod eich nodau eich hun ar gyfer yfed llai: Cymerwch ran yn Dry January. (Linc Saesneg yn unig)

Dyma rai pethau eraill y gallech eu gwneud:

  • Gosodwch derfyn cyn i chi yfed, a cheisiwch gadw ato.
  • Soniwch wrth ffrindiau a theulu rydych yn ceisio yfed llai.
  • Yfwch ddŵr ochr yn ochr â diodydd alcoholig.
  • Ceisiwch beidio â hepgor prydau bwyd.
  • Newidiwch i opsiynau sy’n cynnwys llai o siwgr.
  • Meddyliwch am faint eich gwydr; ewch am opsiynau llai.
  • Rhowch gynnig ar opsiynau alcohol isel; yn aml gallant gynnwys llai o galorïau.
 
Meddyliwch am y mathau o ddiodydd a gewch yn rheolaidd, ac a oes unrhyw newidiadau y gallwch eu gwneud. Yna gosodwch nod diodydd a fydd yn gweithio i chi.
 
Cydnabyddiaeth

Alcohol Change UK: Offer rhyngweithiol (Linc Saesneg yn unig)

 

Ymuno â'r Gymuned

Byddwch y cyntaf i glywed am gynnwys a nodweddion newydd trwy ymuno â'n rhestr bostio. Rhagor