Mae nifer yr adegau rydym yn bwyta bwyd a baratowyd y tu allan i’r cartref wedi cynyddu dros y blynyddoedd. Nawr mae llawer o opsiynau ar gael i ni fwyta allan mewn caffis a bwytai ac archebu bwyd o siop tecawê.
Mae bwyta allan a chymdeithasu o amgylch bwyd a diod yn ganolog i fywydau llawer ohonom. Gallai hefyd fod yn hanfodol i’n diwylliant, traddodiadau a dathliadau.
Gyda chynllun gweithredu cadarnhaol a’r cymorth sydd ei angen arnoch, gallwch fwynhau bwyta allan a’r tecawê achlysurol a chyrraedd eich nodau hefyd.
Bwyta allan
Gallwch fwyta allan o hyd os yw hyn yn rhan bwysig a phleserus o’ch bywyd. Os gallwch gael y cydbwysedd iawn o ran beth a phryd rydych yn bwyta allan dylech chi allu cadw ar y trywydd iawn tuag at eich nodau.
Mae bywyd yn brysur, ac ni fydd ambell i bryd bwyd mewn bwyty, caffi neu fwyd tecawê yn effeithio ar eich deiet cyffredinol yn sylweddol.
Os yw’n rhan reolaidd o’ch wythnos neu fis, gallai rhai newidiadau bach eich helpu i:
- gyrraedd eich nodau
- arbed arian
- cadw’r cymhelliant
- rhoi cynnig ar fwyd iach a blasus
- mwynhau’r achlysuron hyn.
Blaengynllunio
Ceisiwch ymweld â bwytai lle mae dewisiadau iachach ar gael. Edrychwch i weld a oes modd darllen y fwydlen a chynllunio beth fyddwch chi’n ei fwyta ymlaen llaw. Mae llawer o fwydlenni yn arddangos gwybodaeth maeth a all eich helpu i ddewis opsiynau iachach. Gofynnwch am gefnogaeth eich teulu a ffrindiau neu’r rhai y byddwch yn bwyta allan gyda nhw mewn ffordd sy’n gweithio i chi.
Ceisio bwyta maint iawn o fwyd i chi
Gall bargeinion bwyd a bwydlenni sefydlog ein hannog i feddwl ein bod yn cael mwy am ein harian ond nid yw hyn yn wir bob amser. Meddyliwch am nifer y cyrsiau a gewch. Efallai byddai cwrs cyntaf a phrif gwrs bach, neu brif gwrs yn unig, yn ddigon.
- Gall dognau fod yn fawr wrth fwyta allan. Dewiswch bryd bwyd llai pan fo’n bosibl. Gallwch archebu pryd ochr neu lysiau i fynd gyda’r bwyd.
- Byddwch yn ymwybodol o ychwanegiadau. Weithiau mae bara, caws neu eitemau bwyd ychwanegol eraill yn cael eu hychwanegu at brydau nad oes eu hangen o reidrwydd.
- Gofynnwch am gael mynd â’r hyn na allwch ei orffen adref gyda chi. Gall hyn eich helpu i fwyta'r swm cywir i chi yn lle’ch bod chi’n bwyta popeth ar eich plât, hyd yn oed pan fyddwch chi’n llawn.
Meddwl am ba bryd bwyd i’w ddewis
- Dewiswch brydau sy’n cynnwys cig â llai o fraster, neu torrwch y braster i ffwrdd cyn bwyta.
- Rhowch gynnig ar brydau â mwy o lysiau.
- Dewiswch sawsiau tomato yn lle caws neu hufen.
- Os oes gennych opsiynau ochr yn rhan o’ch pryd bwyd, dewiswch y llysiau neu’r salad yn lle sglodion.
Mae ambell i bwdin o bryd i’w gilydd yn iawn, ac nid oes angen peidio â’u bwyta. Fodd bynnag, efallai gallech chi feddwl am eich dewisiadau o bwdin os byddwch yn eu cael yn amlach. Byddai dewis te neu goffi ar ddiwedd pryd bwyd, neu gael te neu goffi gyda phwdin bach os yw ar gael, yn ddewis iachach.
Mae beth rydych yn dewis ei yfed yn bwysig hefyd wrth fwyta allan. Heb sylweddoli, gallem gael llawer o siwgr a braster ychwanegol o’n diodydd. Edrychwch ar ein tudalen diodydd am gyngor ar diodydd iachach ac alcohol.
Meddwl am gydbwysedd y bwyd a gewch yn ystod y diwrnod cyfan
Gallech ddewis pryd canol dydd llai os ydych yn bwriadu cael cinio mawr. Cadwch at batrwm prydau rheolaidd a cheisiwch beidio â hepgor prydau yn ystod rhannau eraill o’r dydd. Gall hyn eich helpu i reoli chwant bwyd a faint rydych yn ei archebu wrth fwyta allan.
Bwyd tecawê
Ers pandemig COVID-19, mae bwytai tecawê wedi dod yn hyd yn oed mwy cyfleus. Ni fydd ambell i decawê o bryd i’w gilydd yn cael effaith fawr ar y cyfan.
Sylwch ar pam rydych yn archebu tecawê a sut mae hyn yn cyd-fynd â’ch gwerthoedd a’ch nodau.
Efallai rydym yn mynd i arfer neu’n gwobrwyo’n hunain, er enghraifft, gyda bwyd tecawê ar nos Wener ar ôl wythnos brysur. Gallai hysbysebion a hyrwyddiadau ein hysgogi hefyd. Gall deall eich rhesymau eich helpu i baratoi’n well a meddwl am ddewisiadau amgen.
Os ydych yn cael tecawê yn eithaf rheolaidd, gallech ystyried yr awgrymiadau canlynol:
- Mae rhai opsiynau tecawê yn iachach nag eraill, felly dewiswch y rhai iachach.
- Mae’n hawdd archebu gormod. Ystyriwch a oes angen y prydau ochr ychwanegol, neu’r cwrs cyntaf, neu a fyddai prif gwrs yn ddigon.
- Gofynnwch am faint dognau llai pan fo’n bosibl.
Meddyliwch am y math o bryd bwyd rydych yn ei ddewis; mae dewisiadau iachach yn cynnwys:
- Prydau wedi’u tro-ffrio, stemio neu grilio gyda llysiau, cig â llai o fraster neu bysgod.
- Sawsiau tomato yn lle caws, hufen a chnau coco.
- Prydau sych gyda sbeisys a salad yn lle sawsiau.
- Briwsion bara yn lle cytew.
- Reis plaen wedi’i ferwi, bara, naan, roti a bara di-furum, gan ddewis grawn cyflawn pan fo'n bosibl.
- Crwst plaen yn lle rhai wedi’u llenwi â chig neu gaws.
- Sglodion mwy trwchus yn lle rhai tenau gan eu bod yn amsugno llai o fraster.
- Nodwch nad ydych eisiau ychwanegiadau. Weithiau mae bara, poppadums, dipiau, cracers cimwch neu eitemau bwyd eraill ychwanegol yn cael eu cynnwys nad oes eu hangen o reidrwydd. Gofynnwch am beidio â rhoi caws neu sawsiau ychwanegol pan fo modd.
Os ydych yn bwyta allan neu’n archebu tecawê yn rheolaidd, fel yn wythnosol, efallai gallech ystyried coginio fersiynau cartref yn lle hynny. Mae hyn yn aml yn iachach ac yn rhatach a gallai fod yn fwy blasus hefyd. Os hoffech fwy o gymorth i goginio’ch prydau eich hun gartref, efallai bydd ein tudalen gwneud prydau bwyd bob dydd yn iachach yn ddefnyddiol.
Os ydych yn bwyta allan neu’n archebu tecawê yn rheolaidd, meddyliwch am beth fyddwch yn ei archebu fel arfer.
A oes unrhyw newidiadau bach y gallwch eu gwneud? Gosodwch nod i’ch hun ar gyfer y tro nesaf y byddwch yn archebu.