Dros amser, mae ein platiau wedi mynd yn fwy, ac felly hefyd ein dognau bwyd. O silffoedd archfarchnadoedd i fyrddau bwytai, mae nawr yn arferol gweld dognau mawr. Beth yw goblygiadau hyn? Mae llawer ohonon ni’n bwyta mwy nag sydd ei angen ar ein cyrff, yn aml heb sylweddoli.
Ond dyma'r newyddion da: gallai gwneud newidiadau bach rheolaidd i'r hyn sydd ar eich plât wneud newid mawr i'ch pwysau. Mae lleihau maint eich prydau yn un o'r camau symlaf a mwyaf effeithiol y gallwch ei gymryd i gyflawni a chynnal pwysau iach.
Pam mae maint eich prydau yn bwysig?
Pan fyddwn yn bwyta mwy nag yr ydym ei angen, mae ein cyrff yn storio'r egni ychwanegol fel braster. Dros amser, gall hyn ei gwneud hi'n anoddach i reoli ein pwysau. Ond drwy wneud newidiadau bach a chynaliadwy, fel gweini llai o fwyd, gallwch chi gael rheolaeth yn ôl, heb roi'r gorau i'r bwydydd rydych chi'n hoffi.
Os ydych chi'n ffeindio hi'n anodd i reoli maint eich dognau, mae yna pethau y gallwch chi gwneud i’ch helpu.
- Defnyddiwch blatiau a gwydrau llai – Mae hwn wedi’i brofi i fod yn ffordd o’ch helpu i fwyta llai a dal i deimlo'n fodlon.
- Gweinwch yr hyn sydd ei angen arnoch chi… cadwch y gweddill – Gwnewch ffafr i chi'ch hun a chadwch ran o’r bwyd ar gyfer diwrnod arall. Bydd hyn yn arbed amser ac arian i chi, a bydd hefyd yn eich helpu i osgoi gorfwyta.
- Dewiswch opsiynau ysgafnach wrth fwyta allan – Lle bo modd, ceisiwch fwyta prydau llai yn rheolaidd yn lle prydau mawr.
- Gwiriwch labeli bwyd – Mae meintiau’r dognau a argymhellir yn aml yn llai nag yr ydych chi'n meddwl.
- Bwytwch ddigon o ffibr – Ychwanegwch fwy o ffrwythau, llysiau, codlysiau a grawn cyflawn i deimlo'n llawn am gyfnod hwy.
- Dewiswch fwydydd sy'n llawn egni – Rhowch gynnig ar sawsiau ysgafnach, proteinau llai bras, a dulliau coginio iachach fel eu pobi yn y popty a'u ffrio mewn ffrïwr aer yn lle eu ffrio'n ddwfn neu'n fas.
- Cofiwch yfed yn rheolaidd – Gall yfed digon o hylifau, fel dŵr llonydd neu ddŵr pefriog a diodydd di-siwgr, eich helpu i deimlo'n fodlon.
Sicrhau’r cydbwysedd cywir
Mae plât o fwyd iach yn dibynnu ar sicrhau cydbwysedd yn ogystal â maint y dogn. Ceisiwch fwyta mwy o ffrwythau, llysiau, a bwydydd sy'n llawn ffibr, a llai o opsiynau sy’n cynnwys llawer o fraster a siwgwr. Gall gwneud y newidiadau hyn eich helpu i deimlo'n fodlon, aros yn llawn egni, a chefnogi’ch iechyd yn yr hirdymor.
- Mae ffibr yn eich helpu i deimlo'n llawn – Mae bwydydd fel ffa, corbys, grawn cyflawn a llysiau yn eich cadw'n fodlon ac maent hefyd yn cefnogi’r broses dreulio.
- Mae bwydydd tun yn cyfrif hefyd – mae ffa pob (siwgwr/halen is), ffacbys, ffa coch, llysiau tun (heb halen ychwanegol) a ffrwythau tun mewn sudd naturiol yn ffyrdd fforddiadwy a hawdd o fwyta mwy o ffibr.
- Gall rhai bwydydd wedi'u rhewi fod yn ffres hefyd – mae ffrwythau a llysiau wedi'u rhewi yn cael eu casglu a'u rhewi'n gyflym i gloi'r blas a'r maetholion. Maen nhw'n para'n hirach, yn aml yn costio llai, ac yn ei gwneud hi'n hawdd gwella’ch prydau cartref gyda chynhwysion cyfleus ac iach.
- Mae gwneud newidiadau syml yn gwneud gwahaniaeth mawr – Newidiwch sawsiau hufennog am rai sy'n seiliedig ar domatos, newidiwch fwydydd wedi'u ffrio am fwydydd wedi'u grilio, a dewiswch broteinau â llai o fraster fel codlysiau, pysgod, cyw iâr, twrci, neu gig eidion sy’n cynnwys 5% o fraster.
- Mae bwydydd llawn egni yn cronni'n gyflym – Mae eitemau fel mayonnaise braster llawn, bwydydd wedi'u ffrio, diodydd llawn siwgwr, bisgedi a chigoedd wedi'u prosesu yn uchel o ran nifer eu calorïau ond yn isel mewn maetholion. Gall lleihau'r rhain eich helpu i reoli'ch pwysau heb golli’r blas.
Angen mwy o ysbrydoliaeth? Mae Canllaw Bwyta'n Iach y GIG yn lle gwych i ddechrau.
Barod i Newid?
Ymunwch â chwarter miliwn o bobl ledled Cymru sy'n mynnu rheolaeth, un pryd ar y tro gyda gwefan Pwysau Iach Byw’n Iach . Gall gwneud newidiadau bach heddiw siapio'ch iechyd yn y dyfodol.
I gael rhagor o wybodaeth a mynediad at eich adnoddau am ddim, cwblhewch Dod o hyd i'ch siwrnai nawr.