Mae pob un ohonom wedi wynebu rhwystrau. Nid yw colli pwysau a’i gadw i ffwrdd yn llwybr hawdd a bydd adegau pan na fydd pethau bob amser yn mynd fel y cynlluniwyd. Ond dydych chi ddim ar eich pen eich hun, mae pawb yn profi uchafbwyntiau ac isafbwyntiau ar eu siwrnai i gyflawni a chynnal pwysau iach.
Mae bywyd yn mynd yn brysur, mae cymhelliant yn mynd ac yn dod, ac mae hynny'n iawn. Nid yw rhwystrau yn arwydd eich bod chi'n symud i'r cyfeiriad anghywir, maent yn rhan arferol o golli pwysau. Yr hyn sydd bwysicaf yw dod o hyd i ffordd ymlaen.
Dod o hyd i'ch ffocws
Mae'n normal teimlo'n ddigalon pan nad yw cynnydd yn edrych fel yr oeddech chi wedi'i obeithio. Ond nid yw profi rhwystr yn golygu rhoi’r gorau iddi. Mae'n gyfle i ail-ffocysu ac addasu, fel y gallwch ddal ati a pharhau i wneud cynnydd.
Mae'n bwysig peidio â bod yn galed arnoch chi'ch hun, yn lle treuliwch ychydig amser yn myfyrio. Cofiwch pam y gwnaethoch chi ddechrau'r daith hon, boed hynny'n teimlo'n well ynoch chi'ch hun, cael ffordd o fyw iachach neu wella'ch hunan-barch – atgoffwch eich hun o'r manteision i'ch iechyd a'ch bywyd.
Byddwch yn garedig i'ch hun a sylweddolwch fod eich siwrnai yn ymwneud â chysondeb, nid perffeithrwydd. Drwy addasu eich meddylfryd, mae rhwystrau'n dod yn rhan o’ch siwrnai yn hytrach nag eiliadau sy’n eich dal yn ôl.
Adolygwch eich nodau
Ar ôl wynebu rhwystr, mae'n normal i deimlo’n ansicr ynghylch sut i symud ymlaen. Un o'r ffyrdd gorau o oresgyn hyn yw ailedrych ar eich nod presennol. Gall eiliad o fyfyrio eich helpu i ddeall yr hyn a allai fod wedi bod yn eich rhwystro, a’r hyn sydd angen ei addasu er mwyn i chi barhau i symud ymlaen.
Gofynnwch i chi’ch hun:
- Ydy fy nod yn teimlo allan o fy nghyrraedd ar hyn o bryd?
- A yw’n newid y gallaf ei gynnwys yn fy nhrefn ddyddiol?
- Ydw i wedi rhoi digon o amser i mi fy hun i gyflawni'r nod hwn?
- Ydw i'n canolbwyntio gormod ar y canlyniad yn hytrach na'r broses?
Mae rhan fawr o osod nodau yn ymwneud â helpu i nodi’r hyn allai fod angen i ni ei stopio, ei ddechrau neu ei wneud yn wahanol, felly mae'n iawn addasu'ch nod yn seiliedig ar sut rydych chi'n gwneud.
Canolbwyntiwch ar y camau bach nesaf y gallwch eu cymryd, yn seiliedig ar yr hyn sy'n gweithio i chi, i’ch cael yn ôl ar y trywydd iawn.
Er enghraifft, os ydych chi'n cael trafferth bwyta'n iachach, ceisiwch wneud newidiadau bach, rheolaidd i'ch plât fel lleihau maint eich dognau. Dyma un o'r camau symlaf a mwyaf effeithiol y gallwch eu cymryd i gyflawni a chynnal pwysau iachach. Cliciwch yma i gael rhagor o ganllawiau ar feintiau dognau.
Cynnydd dros berffeithrydd
Mae Jonathan Davies, cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru, wedi rhannu y newidiadau bach y mae e wedi'u gwneud ar ôl ymddeol o rygbi sy'n ei helpu i aros ar y trywydd iawn. Rhannodd Jon fod anawsterau yn rhywbeth y mae pawb yn eu hwynebu, ni waeth ble maen nhw ar eu siwrnai.
"Yr hyn sy'n bwysig yw sut rydych chi'n ymateb. Peidiwch â meddwl gormod amdano. Yn lle hynny, canolbwyntiwch ar y cam bach nesaf y gallwch ei gymryd i’ch cael chi’n ôl ar y trywydd iawn. Mae camau bach fel hyn dros amser yn eich helpu i deimlo ar eich gorau.”
Mae Jon yn ein hatgoffa bod cynnydd yn dod o barhau i ddal ati, hyd yn oed pan fydd pethau'n teimlo'n anodd. Cadw eich momentwm i fynd, dim ots pa mor araf y gall deimlo, yw'r hyn sy'n eich gwthio ymlaen. Daw newid parhaol o ddewisiadau bach, bob dydd sy'n realistig, ac yn gyraeddadwy i chi.
Dyma rai camau bach y gallwch eu cymryd:
- Paratoi mwy o brydau gartref gyda dewisiadau ysgafnach fel llai o fraster, siwgr neu halen
- Ychwanegu mwy o symudiad at eich wythnos drwy fynd am dro am 20 munud
- Osgoi byrbrydau ar ôl eich prif bryd olaf
- Mynd i'r gwely ar amser rheolaidd bob nos i’ch helpu i gael digon o gwsg
Gwyliwch tips Jonathan ar sut i oresgyn rhwystrau isod
Daliwch ati i symud ymlaen ar eich siwrnai
Ymunwch â dros 100,000 o bobl ledled Cymru sydd wedi cymryd y cam cyntaf tuag at bwysau iachach gyda chefnogaeth gyda Pwysau Iach, Byw'n Iach.
I gael rhagor o wybodaeth a mynediad at eich adnoddau am ddim, cwblhewch Dod o hyd i'ch siwrnai nawr.