Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth gefndir am y wefan

Mae gwefan Pwysau Iach Byw'n Iach ar gyfer oedolion yng Nghymru. Mae'n darparu cymorth hunangyfeiriedig ar gyfer cyflawni neu gynnal pwysau iach. 

Mae Pwysau Iach Byw'n Iach yn rhan o'r GIG, ac yn darparu gwybodaeth a chymorth wedi'u teilwra am ddim.

Mae’r wefan ar lefel 1 o Lwybr Rheoli Pwysau Cymru Gyfan.

Lefel 1 yw ymyrraeth gyffredinol gyntaf sy’n canolbwyntio ar hunanreolaeth a chyngor proffesiynol byr (a elwir yn aml yn ymyrraeth gynnar).

Mae’n rhan o raglen Pwysau Iach: Cymru Iach (2019), sef Strategaeth Hirdymor Llywodraeth Cymru i Leihau Gordewdra yng Nghymru.
 

 

 

Ydych chi'n cefnogi oedolion sydd dros bwysau iach?
 

Adnoddau

Rydym yn datblygu adnoddau Pwysau Iach Byw'n Iach i'ch cefnogi drwy gyfeirio i’r wefan.
 

Hyfforddiant

Rydym yn datblygu adnoddau e-ddysgu i gefnogi sgyrsiau cyngor byr gyda phobl am eu pwysau. Mae hyn yn rhan o ddull Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif. Mae rhagor o wybodaeth ac adnoddau ymarferol am y dull hwn ar gael yma.
 

Ydych chi'n cefnogi rhieni, gofalwyr a theuluoedd?

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datblygu’r 10 Cam at Bwysau Iach. Dyma ddeg cam y gall rhieni a gofalwyr eu cymryd er mwyn helpu eu plentyn i gyrraedd pwysau iach erbyn iddo ddechrau yn yr ysgol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Pob Plentyn Cymru.
 

Dull System Gyfan ar gyfer Pwysau Iach

Ariennir rhaglen Dull System Gyfan Pwysau Iach: Cymru Iach gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno rhaglen genedlaethol ar gyfer Dulliau Pwysau Iach ar Sail System.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Tîm cenedlaethol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru i oruchwylio, datblygu dulliau ar sail tystiolaeth, a gweithio gyda Byrddau Iechyd Lleol.
  • Swyddogion Systemau o fewn Timau Iechyd y Cyhoedd Byrddau Iechyd yn arwain y dull system gyfan yn eu hardal ac yn ei roi ar waith.

I gael rhagor o wybodaeth am beth sy’n digwydd yn ardal eich Bwrdd Iechyd, cysylltwch â'ch Tîm Iechyd Cyhoeddus lleol.


 

Ymuno â'r Gymuned

Byddwch y cyntaf i glywed am gynnwys a nodweddion newydd trwy ymuno â'n rhestr bostio. Rhagor