Neidio i'r prif gynnwy

I lawer o bobl, mae llawer o gyfleoedd i gynnwys gweithgarwch corfforol yn eu hwythnos. Boed hynny’n glanhau’r tŷ, garddio, cerdded i’r siopau neu chwarae gyda’u plant neu wyrion.

Yn ogystal â’r gweithgareddau achlysurol hyn, efallai hoffech chi ychwanegu amser hamdden a gweithgareddau ymarfer corff. I lawer o bobl, mae sesiynau a gweithgareddau cymunedol yn cynnwys manteision ychwanegol hefyd, fel gwneud ffrindiau newydd, cefnogaeth cymheiriaid a gwell ymdeimlad o gyflawniad. Yn y rhan fwyaf o ddinasoedd, trefi a phentrefi ledled Cymru, bydd amrywiaeth o ddosbarthiadau a grwpiau ar gael sy’n addas i bobl o bob oed a gallu.

 

 

 

Lleoedd defnyddiol i gysylltu â nhw i ddarganfod beth sydd ar gael yn agos i chi:

  • Awdurdodau lleol
  • Canolfannau hamdden lleol
  • Elusennau fel Mind Cymru (Linc Saesneg yn unig)
  • Llyfrgelloedd lleol a chanolfannau cymunedol

Os byddai’n well gennych, neu’n dymuno rhoi cynnig ar ymarfer corff gartref, gallwch wylio'r fideos yma gan Chwaraeon Cymru. 

Mae miloedd o fideos ymarfer corff a ffitrwydd ar gael ar y rhyngrwyd, ar blatfformau fel YouTube a Vimeo. Mae’n werth sgipio drwy wahanol rannau’r fideo cyn dechrau i wneud yn siŵr ei fod yn addas i chi ac os yw’n bosibl, dylech ond defnyddio’r cynnwys sydd wedi’i gymeradwyo gan sefydliadau swyddogol uchel eu parch fel y GIG neu Chwaraeon Cymru.

Cofiwch, os ydych chi’n anactif ar hyn o bryd, neu os nad ydych chi wedi gwneud ymarfer corff ers sbel, y ffordd fwyaf diogel a synhwyrol yw cynyddu’n raddol dros amser. Os oes gennych unrhyw bryderon neu amheuon, siaradwch â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol.
 

Ymuno â'r Gymuned

Byddwch y cyntaf i glywed am gynnwys a nodweddion newydd trwy ymuno â'n rhestr bostio. Rhagor