Neidio i'r prif gynnwy

Yn y byd rydym yn byw ynddo heddiw, a’r ffyrdd niferus rydym yn derbyn gwybodaeth, efallai fydd yn anodd i chi wybod pa gyngor ar faeth a rheoli pwysau i ymddiried ynddo neu osgoi.

Mae Pwysau Iach Byw'n Iach yn darparu gwybodaeth ac adnoddau diogel y gallwch ymddiried ynddyn nhw.

Mae hyn oherwydd bod cynnwys y wefan wedi’i hysbysu gan yr ymchwil diweddaraf i ddarparu gwybodaeth ac adnoddau diogel a chyfoes.

Mae cynnwys y wefan wedi’i ysgrifennu gan arbenigwyr wrth gadw'r gwybodaeth a'r cymorth yn realistig ac yn addas i chi.

 

 

 

Defnyddiwyd ymchwil i ddarganfod beth yn union roedd pobl ei eisiau i’w helpu i wneud newidiadau i gyflawni pwysau iach. Mae hyn yn golygu pan fyddwch chi wedi llenwi 'Dod o hyd i'ch siwrnai' bydd yr wybodaeth a gewch wedi’i haddasu i’ch anghenion unigol i gefnogi’ch siwrnai hirdymor i bwysau iach.

Byddwch yn cael mynediad am ddim at wybodaeth, cymorth ac adnoddau er mwyn:

  • Deall pwysau a’ch siwrnai rheoli pwysau
  • Bwyd a diod
  • Gweithgarwch corfforol
  • Iechyd emosiynol a lles
  • Newid ymddygiad hirdymor.
     
I gael rhagor o wybodaeth a mynediad at eich adnoddau am ddim, cwblhewch Dod o hyd i'ch siwrnai nawr.

 

Ymuno â'r Gymuned

Byddwch y cyntaf i glywed am gynnwys a nodweddion newydd trwy ymuno â'n rhestr bostio. Rhagor