Mae pob un ohonom yn dyheu am fwyd bob hyn a hyn, yr ysfa i fwyta rhywbeth yr ydym yn ei fwynhau. Weithiau gall arogl, hysbyseb neu atgof sbarduno angen cryf am fwyd neu bryd bwyd penodol. Pan allwch chi reoli'r ysfeydd hynny a chynnal deiet cytbwys, mae hyn yn rhan arferol o berthynas iach â bwyd.
Gall ysfeydd am fwyd fod yn broblem pan fydd yn teimlo'n amhosibl eu rheoli. Efallai fod gennych chi ysfa am fwyd arbennig sy’n llawn halen, siwgr neu fraster. Efallai y byddwch chi'n mynd allan o'ch ffordd i fwyta'r bwyd hwn. Efallai fod hyn wedi’ch arwain at fwyta mwy nag yr oeddech wedi'i gynllunio neu beidio â rhoi'r gorau i fwyta'r bwyd hwn pan fyddwch chi’n llawn, a gallai hyn gyfrannu at ei gwneud yn anoddach i reoli’ch pwysau.
Chwalu eich ysfeydd am fwyd
Mae ysfeydd am fwyd yn wahanol i deimlo'n llwglyd. Gall fod â threfn fwyta reolaidd a pheidio â hepgor prydau bwyd eich helpu i adnabod pryd rydych chi’n llwglyd ac yn llawn, a phryd mae’ch awydd i fwyta yn ymwneud â’ch ysfa ac nid bod yn llwglyd. Gallwch ddefnyddio'r sgôr llwgu i helpu. Weithiau rydym yn meddwl ein bod yn llwglyd pan fyddwn yn sychedig. Felly ceisiwch yfed digon hefyd.
Meddyliwch am eich sbardunau
Pryd maen nhw'n digwydd? Pa amser o'r dydd yw hi? Ble ydych chi? Sut ydych chi’n teimlo? Ydych chi newydd fwyta, neu a ydych chi’n gallu gweld y bwyd sy'n sbardun? Gall helpu i ysgrifennu hyn:
- Rydw i eisiau bwyta'r bwyd hwn pan ______________________.
- Rydw i eisiau bwyta'r bwyd hwn oherwydd ______________________.
Drwy nodi eich sbardunau, gallwch gynllunio beth i'w wneud pan fyddwch chi'n ysu am fwyd.
Gallech chi drio cadw'n brysur a thynnu’ch sylw gyda diddordeb, gweithgaredd neu gysylltu â ffrind. Ystyriwch beth rydych chi’n ei fwynhau a phethau a fydd yn gweithio i chi.
- Pan fyddaf yn ysu am fwyd, byddaf yn ______________________.
Symudwch y bwyd o'r golwg os gallwch chi. Efallai byddai’n ddefnyddiol i chi feddwl am gyfnewid bwyd iachach yn lle'r bwydydd yr ydych yn ysu amdanyn nhw.
Os yw'r ysfeydd am fwyd yn gysylltiedig â'ch hwyliau, efallai y bydd angen cefnogaeth arnoch i ymdrin â'ch lles emosiynol yn gyntaf.
Ystyriwch pryd a pham yr ydych yn ysu am fwyd. Yna gwnewch gynllun gan feddwl am yr hyn sy'n iawn i chi.
Cefnogaeth arall
Mae baglu yn normal a bydd hynny’n digwydd i bob un ohonom. Ewch i’n tudalen cael eich hun yn ôl ar ben ffordd am gymorth o ran sut i ymdopi â hyn.
Peidiwch â bod ofn gofyn am gymorth. Os ydych chi'n meddwl nad ydych yn gallu ymdopi â'ch ysfa am fwyd, a’i fod yn rhwystro eich bywyd bob dydd, neu eich bod yn cuddio eich bwyta rhag eraill, efallai fod angen mwy o gefnogaeth arnoch. Cysylltwch â'ch meddyg teulu i drafod hyn. Gallwch chi hefyd gael gwybodaeth a chefnogaeth drwy BEAT. (Linc Saesneg drwy ragosodiad allanol, mae posib cael dewis Cymraeg)