Beth yw lles meddyliol?
Gellir meddwl am les meddyliol cadarnhaol fel 'teimlo’n dda a gweithredu’n dda'.
Mae lles meddyliol yn dylanwadu ar y ffordd yr ydym yn meddwl, yn teimlo ac yn gweithredu.
Mae llawer o bethau’n dylanwadu ar ein lles meddyliol, o’n profiadau (yn y gorffennol a’r presennol), i’r ffordd yr ydym yn teimlo amdanom ein hunain a’n perthynas ag eraill, a phethau eraill fel pa mor fforddiadwy yw nwyddau sylfaenol, ansawdd ein hamgylchedd, a lefelau ymddiriedaeth mewn cymunedau.
Pam mae lles meddyliol yn bwysig?
Mae gofalu am ein lles meddyliol yr un mor bwysig â gofalu am ein hiechyd corfforol. Gall ein hiechyd corfforol effeithio ar ein lles meddyliol. Os byddwn yn teimlo’n sâl, efallai y byddwn yn teimlo’n isel yn feddyliol, ond mae ein lles meddyliol hefyd yn effeithio ar ein hiechyd corfforol.
Mae cymryd amser i ofalu am ein lles meddyliol, hyd yn oed pan fyddwn yn teimlo’n dda, yn ein galluogi i ymdopi’n well â chyfnodau mwy heriol a gwella ar ôl hynny.
Beth allaf ei wneud i wella fy lles meddyliol?
Dangos diolchgarwch
Nid teimlad yn unig yw diolchgarwch, ond gweithred y gallwch ei rhoi ar waith. Ceisiwch nodi rhywbeth yr ydych yn ddiolchgar amdano 3-4 gwaith yr wythnos. Efallai y byddwch yn ddiolchgar am sylwi ar yr heulwen drwy ddiferyn o law, gwên gan ddieithryn, neu alwad ffôn gyda ffrind. Cadwch nodiadau mewn dyddiadur y gallwch fyfyrio arno pan fydd angen hwb arnoch.
Cysylltu â phobl eraill
Mae cysylltu ag eraill yn ein helpu i deimlo'n dda. Peidiwch â bod ofn gofyn am gymorth neu gynnig cymorth i eraill. Efallai y bydd cynnig cymorth i rywun pan fyddwch yn teimlo’n isel yn teimlo’n rhyfedd, ond gall gwneud gweithredoedd caredig digymell roi hwb i’n teimladau cadarnhaol a’n hymdeimlad o gysylltiad â phobl eraill.
Cysylltu â natur
Gall fod yn yr awyr agored roi hwb i’n lles meddyliol a rhoi ymdeimlad o bersbectif i ni. Gall treulio amser mewn mannau gwyrdd neu fannau sy’n agos at ddŵr helpu i dawelu meddyliau prysur. Gadewch i natur dynnu eich sylw; sylwch ar y golygfeydd a'r synau. Nid oes yn rhaid i chi fynd am dro hir yn y wlad i deimlo’r buddion; gall plannu pot blodau, osod cwt pryfed, neu sylwi ar yr arwyddion o newid tymhorau fod yn defnyddiol.
Bod yn greadigol
Mae bod yn greadigol yn dda ar gyfer ein lles meddyliol. Gallwch roi cynnig ar lawer o bethau: gwrando ar gerddoriaeth, rhoi cynnig ar ffotograffiaeth, neu ysgrifennu cerdd. Ceisiwch roi eich eich sylw llawn iddo. Bydd hyn yn eich helpu i gael seibiant o bryderon pob dydd.
Yr hyn sy’n bwysig i chi
Mae gwahanol bethau yn bwysig i wahanol bobl. Ystyriwch beth sy'n bwysig i'ch lles meddyliol eich hun?
Dysgu mwy
Ffyrdd o deimlo’n hapusach: Happier Kinder Together | Action for Happiness (Linc Saesneg yn unig)
Dylanwadau ar ein lles meddyliol: Hyrwyddo Lles Unigol a Chymunedol - Iechyd Cyhoeddus Cymru