Neidio i'r prif gynnwy

Defnydd a Ganiateir

Rhoddir caniatâd i ymwelwyr â Pwysau Iach Byw'n Iach (y wefan hon) gael mynediad at ddeunyddiau a gyhoeddwyd (cynnwys) yn amodol ar y telerau hyn. Trwy ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn cytuno i gydymffurfio â’r telerau defnydd.

Er y gellir gweld, lawrlwytho a defnyddio’r cynnwys at ddibenion personol ac anfasnachol (e.e. ymchwil preifat, astudio neu ddefnydd mewnol), rhaid i ymwelwyr beidio ag ailgynhyrchu neu ailgyhoeddi unrhyw ddeunydd o’r wefan hon heb ganiatâd gan y wefan/perchennog yr hawlfraint.

Mae’r lluniau, logos a graffeg a ddefnyddir ar y safle hwn yn berchen i ni a/neu drydydd partïon. Ni ddylid defnyddio’r rhain heb ganiatâd gan berchennog yr hawlfraint.

Rydych yn cydnabod mai Pwysau Iach Byw'n Iach a phartneriaid trydydd parti, lle bo hynny’n berthnasol, sy’n berchen ar yr holl hawliau eiddo deallusol sy’n ymwneud â’r wefan hon.

Amddiffyn rhag Firysau

Rydym yn gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi deunyddiau am firysau. Fodd bynnag, argymhellir eich bod yn gweithredu rhaglen gwrthfeirysau ar bob deunydd y byddwch yn ei lawrlwytho o’r we. Ni allwn dderbyn cyfrifoldeb dros unrhyw achos o golli, difetha neu ddifrodi eich data neu eich system gyfrifiadurol, a allai ddigwydd wrth ddefnyddio deunydd sy’n deillio o’r wefan hon.

Ymwadiad

Rhaid gofalu i sicrhau bod cynnwys y wefan yn gywir. Fodd bynnag, darperir cynnwys er gwybodaeth gyffredinol yn unig, a bydd ei ddefnyddio yn golygu mai chi fydd yn gyfrifol am unrhyw ganlyniadau. Ni fyddwn yn atebol am ddifrod neu golled sy'n deillio o unrhyw weithred neu anwaith yn sgil defnyddio gwybodaeth ar y wefan hon.

Gwefannau Allannol

Nid yw Pwysau Iach Byw'n Iach yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd unrhyw wefannau cysylltiedig. Nid ydym yn derbyn atebolrwydd mewn perthynas â chynnwys nac am amgylchiadau dilyn unrhyw gyngor a gynhwysir ar wefannau o’r fath.

Ni ddylid ystyried bod rhestru yn ardystiad o unrhyw fath.

Ni allwn warantu y bydd y dolenni hyn yn gweithio bob amser ac nid oes gennym reolaeth dros argaeledd y tudalennau y mae eu dolenni wedi’u cynnwys ar y wefan, neu dros unrhyw newid i gyfeiriadau’r gwefannau.

Mae gan Pwysau Iach Byw'n Iach yr hawl i wrthod neu ddileu dolenni i unrhyw wefan.

Diwygiadau'r Dyfodol

Bydd newidiadau dilynol i’r telerau hyn ar gael ar y wefan hon.

Ymuno â'r Gymuned

Byddwch y cyntaf i glywed am gynnwys a nodweddion newydd trwy ymuno â'n rhestr bostio. Rhagor