Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae sawl sefydliad iechyd yn rhan o GIG Cymru gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, sydd â rôl arweiniol yn y gwaith o wella iechyd y boblogaeth yng Nghymru.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynghylch sut y gellir defnyddio gwybodaeth bersonol, rhaid i chi ddefnyddio'r tab cysylltu â ni a ddangosir ar y wefan neu'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys ar waelod yr hysbysiad hwn. Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn ymateb yn Gymraeg heb oedi.

Pwrpas yr hysbysiad hwn yw rhoi gwybod i chi pam a sut rydym yn prosesu eich data personol.

Ymwelwyr â'n gwefannau

Wrth ymweld â'r wefan hon rydym yn defnyddio gwasanaeth trydydd parti, Google Analytics, i gasglu gwybodaeth cofnod rhyngrwyd safonol a manylion patrymau ymddygiad ymwelwyr. Gwnawn hyn i ddarganfod pethau megis nifer yr ymwelwyr i wahanol rannau o'r wefan. Dim ond mewn ffordd ddienw y caiff yr wybodaeth hon ei phrosesu ac nid yw'n nodi unrhyw un yn unigol. Nid ydym yn gwneud, ac nid ydym yn caniatáu i Google wneud, unrhyw ymgais i ddarganfod pwy yw'r unigolion sy'n ymweld â'n gwefan. Os ydym am gasglu gwybodaeth bersonol adnabyddadwy trwy ein gwefan, byddwn yn agored am hyn. Byddwn yn gwneud yn glir os byddwn yn casglu gwybodaeth bersonol ac yn egluro beth rydym yn bwriadu ei wneud â'r wybodaeth.

Defnydd o gwcis

Ffeiliau testun bach yw cwcis sy’n cael eu hanfon i’ch cyfrifiadur neu ddyfais symudol gan y gwefannau rydych chi’n ymweld â nhw. Maent yn helpu i wneud i wefannau weithio'n well ac yn darparu gwybodaeth i berchnogion y wefan. Er enghraifft, rydym yn defnyddio cwcis iaith i wybod ym mha iaith yr hoffech i'r wefan gael ei harddangos i chi. Rydym hefyd yn defnyddio cwcis YouTube i fewnosod fideos mewn tudalennau a chwcis Google Analytics i olrhain gweithredoedd defnyddwyr tra ar y wefan. Trwy ddeall sut mae pobl yn defnyddio ein gwefan, gallwn wella'r broses lywio a'r cynnwys i ddiwallu anghenion pobl yn well. Mae'r wybodaeth a gesglir yn cynnwys cyfeiriad IP, tudalennau yr ymwelwyd â nhw, porwr a system weithredu. Ni defnyddir y data i adnabod unrhyw ddefnyddiwr yn bersonol.

Pobl sy'n cysylltu â ni trwy’r cyfryngau cymdeithasol

Darperir dolenni i gyfrifon Cyfryngau Cymdeithasol Pwysau Iach Byw'n Iach isod:

Byddwn yn monitro ein tudalennau Cyfryngau Cymdeithasol a bydd gennym fynediad at unrhyw negeseuon preifat neu gyhoeddus a anfonir atom. Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn ymateb yn Gymraeg heb oedi. Mae’n bosibl y byddwn yn gofyn am wybodaeth ychwanegol. Fodd bynnag, byddwn ond yn cyfathrebu â chi gan ddefnyddio'r dull cysylltu sydd orau gennych.

Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i roi'r wybodaeth fwyaf perthnasol i chi ar gyfer eich sefyllfa benodol ac yn unol â'n harferion cyfrinachedd. Ni fyddwn yn gofyn nac yn rhannu gwybodaeth adnabyddadwy sensitif trwy sylw cyhoeddus neu fforwm. Dim ond trwy ddulliau preifat yn unig y byddwn yn gwneud hynny.

Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen rhannu’r wybodaeth â sefydliadau eraill y llywodraeth gan gynnwys Llywodraeth Cymru neu gorff arall yn GIG Cymru, er enghraifft Bwrdd Iechyd yng Nghymru, os oes gennych ddiddordeb yn y gwasanaethau y maent yn eu cynnig yn lleol. Fodd bynnag, ni fydd hyn yn cael ei wneud heb eich cydsyniad.

Os byddwch yn anfon neges gyhoeddus atom, byddwn yn ymdrechu i ddefnyddio'r wybodaeth i ymateb i'ch ymholiad gan ddefnyddio neges breifat i gyfathrebu rhyngoch chi a PIBI. Os byddwch yn anfon erthygl, eitem o ddiddordeb neu eitem newyddion atom, mae’n bosibl y byddwn yn rhannu neu’n ail-drydar eich neges os yn briodol.

Pobl sy'n anfon e-byst atom

Rydym yn defnyddio Transport Layer Security (TLS) i amgryptio a diogelu traffig e-bost yn unol â'r llywodraeth. Os nad yw eich gwasanaeth e-bost yn cefnogi TLS, dylech fod yn ymwybodol efallai na fydd unrhyw e-byst rydym yn eu hanfon neu'n eu derbyn wedi'u diogelu wrth eu cludo.

Byddwn hefyd yn monitro unrhyw e-byst a anfonir atom, gan gynnwys atodiadau ffeil, am firysau neu feddalwedd faleisus. Byddwch yn ymwybodol bod gennych gyfrifoldeb i sicrhau bod unrhyw e-bost y byddwch yn ei anfon o fewn ffiniau'r gyfraith. Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn ymateb yn Gymraeg heb oedi.

Eich hawliau

Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn cwmpasu hawliau defnyddio data o dan ddeddfwriaeth a elwir yn Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). Mae'n pwysleisio angen PIBI i wneud yn siŵr ein bod yn esbonio sut rydym yn defnyddio gwybodaeth.

Bydd yr wybodaeth a roddwn i chi am sut y byddwn yn defnyddio data:

  •  yn gryno, yn hawdd ei ddeall ac yn hygyrch
  • wedi’i hysgrifennu’n glir ac yn syml, ac
  • yn rhad ac am ddim

Pa gyfreithiau ydyn ni’n eu dilyn?

Mae'r gyfraith yn pennu sut y gallwn ddefnyddio gwybodaeth. Yn y meysydd hynny lle rydym yn defnyddio gwybodaeth adnabyddadwy, mae’r cyfreithiau rydym yn eu dilyn sy’n caniatáu i hyn ddigwydd wedi’u rhestru isod:

  • Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data
  • Deddf Diogelu Data y DU
  • Deddf Hawliau Dynol
  • Y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth
  • Dyletswydd Cyfrinachedd y Gyfraith Gyffredin
  • Y Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron
  • Deddf y Comisiwn Archwilio
  • Y Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwiliol

Beth ydym ni'n ei wneud?

Fel yr eglurir yn fanwl yn y Cyflwyniad, mae Pwysau Iach Byw'n Iach yn cynnig ystod o wybodaeth ac adnoddau sydd wedi'u teilwra i'ch anghenion. Mae ein hofferyn 'Dod o hyd i'ch siwrnai' yn eich galluogi i ddod o hyd i'r cynnwys cywir i chi, er mwyn rhoi'r cyfle gorau i chi lwyddo.

Nid yw'r wybodaeth rydych chi'n ei rhannu â ni yn cael ei storio na'i chadw gennym ni. Unwaith y byddwch wedi cwblhau'r offeryn mae'r data wedi diflannu, gan roi'r tawelwch meddwl sydd ei angen arnoch chi.

Pa wybodaeth rydym yn ei chasglu?

Er mwyn cyflawni ein swyddogaethau, efallai y byddwn yn prosesu gwybodaeth amdanoch chi, gan gynnwys;

  • Enw, cyfeiriad e-bost, rhif cyswllt (tanysgrifwyr i'n rhestr bostio)
  • Gwybodaeth ddemograffig fel oedran, rhywedd, ethnigrwydd (trwy arolygon a ffurflenni adborth)
  • Gwybodaeth Iechyd (lle bo angen)
  • Nid yw'r teclyn 'Dod o hyd i'ch siwrnai' yn casglu unrhyw wybodaeth bersonol. Mae'r wybodaeth a roddwch wrth ddefnyddio'r offeryn yn cael ei storio gan eich porwr yn unig ac yna'n cael ei ddileu ar ôl i chi gwblhau'r offeryn

Google Analytics

Rydym yn monitro gweithgarwch defnyddwyr i wella'r cynnwys a ddarperir ar y wefan hon. Mae'r wefan hon yn defnyddio Google Analytics, gwasanaeth dadansoddeg gwe a ddarperir gan Google Inc. ('Google'). Mae Google Analytics yn defnyddio cwcis a chôd JavaScript i helpu ddadansoddi gweithgarwch defnyddwyr ar wefannau. Caiff yr wybodaeth a gynhyrchir am eich defnydd o’r wefan (gan gynnwys eich cyfeiriad IP dienw) ei throsglwyddo a’i storio ar weinyddwyr Google yn yr Unol Daleithiau.

Bydd Google yn defnyddio’r wybodaeth hon i gynhyrchu adroddiadau am weithgarwch defnyddwyr ar gyfer y wefan hon. Mae’n bosibl y bydd Google hefyd yn trosglwyddo’r wybodaeth hon i drydydd partïon lle y bo’n rhaid gwneud hynny yn unol â’r gyfraith, neu le y bydd trydydd partïon o’r fath yn prosesu’r wybodaeth ar ran Google.

Ni fydd Google yn cysylltu eich cyfeiriad IP ag unrhyw ddata araill a gadwyd amdanoch ynghynt. Gallech wrthod defnyddio cwcis trwy ddewis y gosodiadau priodol ar eich porwr. Noder os bydd cwcis wedi’u diffodd, efallai na fyddwch yn gallu defnyddio swyddogaeth lawn y wefan hon. Trwy ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn cydsynio i Google brosesu data amdanoch yn y modd ac at y dibenion a amlinellir uchod.

Darllenwch Bolisi Preifatrwydd (Linc Saesneg yn unig) a Thelerau ac Amodau (Linc Saesneg yn unig) Gwasanaeth Google am wybodaeth fanwl.

HotJar

Rydym yn defnyddio Hotjar i ddeall anghenion ein defnyddwyr ac i wella’r gwasanaeth a’r profiad rydym yn cynnig. Mae Hotjar yn wasanaeth technoleg sy’n ein helpu i ddeall profiad ein defnyddwyr yn well (e.e. faint o amser sy’n cael ei dreulio ar ba dudalennau, pa ddolenni sy’n cael eu clicio, beth mae defnyddwyr yn ei hoffi neu beidio, ac ati) sy’n ein galluogi i wella ar yr hyn rydym yn ei wneud i chynnal gwasanaeth yn unol ag adborth defnyddwyr. Mae Hotjar yn defnyddio cwcis a thechnolegau eraill i gasglu data am ymddygiad defnyddwyr a’u dyfeisiau. Mae hyn yn cynnwys cyfeiriad IP dyfais (wedi'i brosesu yn ystod eich sesiwn a'i storio mewn ffurf sydd wedi'i dad-adnabod), maint sgrin dyfais, math o ddyfais (dynodwyr dyfais unigryw), gwybodaeth porwr, lleoliad daearyddol (gwlad yn unig), a'r iaith ddewisol a ddefnyddir i ddangos ein gwefan. Mae HotJar yn storio'r wybodaeth hon ar ein rhan mewn proffil defnyddiwr ffugenw. Gwaherddir i HotJar werthu unrhyw ddata a gesglir ar ein rhan.

I gael rhagor o fanylion, gweler yr adran ‘about HotJar’ ar wefan gymorth HotJar. (Linc Saesneg yn unig)

Meta Pixel

Rydym yn defnyddio Meta Pixel, sef darn o cod ar ein gwefan, i werthuso effeithiolrwydd ein hymdrechion hysbysebu trwy gael mewnwelediad i ymddygiad defnyddwyr. Mae'r Meta Pixel yn ein galluogi i olrhain a chasglu data sy'n ymwneud â gweithgareddau defnyddwyr yn unig fel golygfeydd tudalennau, cliciau ac ati. Gall y data a gesglir cynnwys cyfeiriadau IP, gwybodaeth dyfais, gwybodaeth porwr, a manylion perthnasol eraill. Sylwch nad yw'r Meta Pixel yn casglu unrhyw ddata personol. Ei unig ddiben yw dadansoddi gweithredoedd defnyddwyr i wella ein strategaethau hysbysebu a gwella profiad cyffredinol y defnyddiwr.

Ewch i wefan Meta (Linc Saesneg yn unig) am fanylion pellach.

Rhannu eich gwybodaeth

Nid yw'r wybodaeth rydych chi'n ei rhannu â ni yn 'Dod o hyd i'ch siwrnai' yn cael ei storio na'i chadw gennym ni. Unwaith y byddwch wedi cwblhau'r offeryn mae'r data wedi diflannu.

Os penderfynwch 'Ymuno â'r Gymuned' chi fydd y cyntaf i glywed am gynnwys a nodweddion newydd trwy ymuno â'n rhestr bostio. Bydd tanysgrifwyr yn derbyn diweddariadau e-bost, mynediad at erthyglau Pwysau Iach ac yn cael eu gwahodd i gymryd rhan yn ein harolygon gwella ac adborth rheolaidd. Mae’r data hwn yn cael ei rannu â’n partner rhestr bostio, sef Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) sy’n rhan o GIG Cymru ar hyn o bryd.

Oes rhaid i mi dalu ffi?

Mae'r wybodaeth a'r gwasanaeth a roddir gan Pwysau Iach Byw'n Iach yn rhad ac am ddim.

Eich hawliau o dan Reoliadau Diogelu Data

O dan y Ddeddf Diogelu Data, mae gennych hawl i wybod a ydym yn cadw data personol sy’n ymwneud â chi, ac os felly pa ddata personol sydd gennym a pham. Mae gennych hefyd yr hawl (gyda rhai eithriadau) i gopi o unrhyw ddata personol sydd gennym er mwyn i chi fod yn sicr ei fod yn gywir ac yn gyfredol. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ba ddata personol sydd gennym amdanoch drwy gysylltu â’r Swyddog Diogelu Data (manylion i’w gweld ar ddiwedd yr hysbysiad hwn).

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am yr hysbysiad hwn, neu brosesu eich data personol, dylech gysylltu â ni yn unol â'r manylion isod.

Sylwch efallai na fydd post i'r un o'r cyfeiriadau hyn yn cael ei agor gan y Swyddog Diogelu Data yn bersonol ac felly nid yw'n briodol ar gyfer cyfathrebiadau cyfrinachol. Os oes gennych rywbeth y mae angen i chi ei drafod yn bersonol yn gyfrinachol, cysylltwch â'r Swyddog Diogelu Data yn y lle cyntaf dros y ffôn.

Y Swyddog Diogelu Data
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru,
Capital Quarter 2,
Stryd Tyndall,
Caerdydd
CF10 4BZ

Ffôn: 02920 104307
E-bost: PHW.InformationGovernance@wales.nhs.uk

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn ymateb yn Gymraeg heb oedi.

Gwneud cwyn

Rydym yn hapus i ddarparu unrhyw wybodaeth ychwanegol neu esboniad sydd ei angen. Dylid anfon unrhyw geisiadau am hyn i'r cyfeiriad isod.

Os hoffech wneud cwyn ynghylch unrhyw broblemau sydd wedi codi mewn perthynas â’ch gwybodaeth, cysylltwch â:
healthimprovement@wales.nhs.uk

Os ydych chi’n dal yn anfodlon yn dilyn eich cwyn, mae gennych yr hawl i wneud cwyn i:

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Yr Ail Lawr, Tŷ Churchill,
17 Ffordd Churchill,
Caerdydd,
CF10 2HH

E-bost: wales@ico.gsi.gov.uk
Gwefan: www.ico.org.uk (Linc Saesneg yn unig)

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn ymateb yn Gymraeg heb oedi.

Dolenni i wefannau eraill

Nid yw'r polisi preifatrwydd hwn yn cwmpasu'r dolenni o fewn y wefan hon sy'n cysylltu â gwefannau eraill. Rydym yn eich annog i ddarllen y datganiadau preifatrwydd ar y gwefannau eraill y byddwch yn ymweld â nhw.

Newidiadau i'r Polisi Preifatrwydd hwn

Os bydd y polisi preifatrwydd hwn yn newid mewn unrhyw ffordd, byddwn yn rhoi fersiwn wedi'i diweddaru ar y dudalen hon. Mae adolygu’r dudalen hon yn rheolaidd yn sicrhau eich bod bob amser yn ymwybodol o ba wybodaeth rydym yn ei chasglu, sut rydym yn ei defnyddio ac o dan ba amgylchiadau, os o gwbl, y byddwn yn ei rhannu â phartïon eraill.

Diweddarwyd y polisi preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 29/06/2023.

Adborth

Rydym yn croesawu eich adborth. Os byddwch yn cysylltu â ni yn gofyn am wybodaeth, mae’n bosibl y bydd angen i ni gysylltu ag adrannau eraill y llywodraeth i ddod o hyd i'r wybodaeth honno. Os yw eich cwestiwn yn un technegol, efallai y bydd angen i ni ei drosglwyddo i’n gwasanaeth cymorth technoleg (Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) ar hyn o bryd). Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn ymateb yn Gymraeg heb oedi.

Nid ydym yn trosglwyddo unrhyw ran o’ch gwybodaeth bersonol wrth ddelio â’ch ymholiad, oni bai eich bod wedi rhoi caniatâd i ni wneud hynny. Unwaith y byddwn wedi ymateb i chi, byddwn yn cadw cofnod o'ch neges at ddibenion archwilio a gwerthuso.

 

Ymuno â'r Gymuned

Byddwch y cyntaf i glywed am gynnwys a nodweddion newydd trwy ymuno â'n rhestr bostio. Rhagor