Neidio i'r prif gynnwy

Croeso i dudalen Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Gall oedolion y mae angen cymorth arnynt i reoli eu pwysau mewn ffordd iach fanteisio ar y cymorth canlynol am ddim gan y GIG i reoli eu pwysau drwy wasanaethau lleol rheoli pwysau Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. Mae’r rhain yn cynnwys: 

Cymorth Lefel 2

Gwasanaeth aml-gydran a ddarperir gan y Tîm Deieteg. Gall ein Hymarferwyr Deieteg Cynorthwyol sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig eich cyfeirio at y gwasanaethau a'r cymorth perthnasol, gan gynnwys cyngor deietegol, datblygu sgiliau coginio a/neu weithgarwch corfforol. I gael gwybod mwy neu i gael ffurflen hunan-atgyfeirio, dilynwch y ddolen yma i Dudalen Hafan y Gwasanaethau Deieteg.

Cymorth Lefel 3

 Mae'r gwasanaeth hwn yn mynd i'r afael â'ch anghenion unigol mewn modd holistaidd. Nod y rhaglen yw eich helpu i golli o leiaf 5-10% o'ch pwysau a chyflawni canlyniadau iechyd gwell. Mae'n cynnwys cymysgedd o sesiynau grŵp a sesiynau unigol, wedi'u cynllunio i'ch cefnogi i wneud newidiadau cynaliadwy a fydd yn gwella eich iechyd, eich lles ac ansawdd eich bywyd.

Mae’r gwasanaeth hwn ar gyfer:

  • Pobl 18 oed neu hŷn
  • Pobl sy’n byw ym Mhowys neu sy’n mynd at feddyg teulu ym Mhowys
  • Pobl sydd â BMI o 40 kg/m2 neu uwch, neu BMI o 35 neu uwch ac â 2 neu fwy o gyflyrau iechyd cysylltiedig. 

Mae’n rhaid i’ch meddyg teulu eich atgyfeirio i’r gwasanaeth hwn. 

Cliciwch yma i’n tudalen wê am ragor o wybodaeth.

 

Ymuno â'r Gymuned

Byddwch y cyntaf i glywed am gynnwys a nodweddion newydd trwy ymuno â'n rhestr bostio. Rhagor