Croeso i Dudalen Bwrdd Iechyd Hywel Dda
Gwasanaeth Rheoli Pwysau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Rydym yn darparu gwasanaeth cefnogol a thosturiol i bobl ordew. Gwyddom y gall colli pwysau fod yn anodd, a dyna pam rydym yn defnyddio dulliau sydd wedi bod yn llwyddiannus. Rydym yn canolbwyntio ar eich helpu i wneud newidiadau cadarnhaol hirdymor i'ch ffordd o fyw, yn hytrach na newidiadau tymor byr a chyflym.
Byddwn yn eich helpu i oresgyn unrhyw broblemau sydd gennych sy’n eich rhwystro rhag colli pwysau, ac yn eich helpu i wneud newidiadau a fydd yn eich helpu i gyflawni eich nodau colli pwysau personol.
Mae ein tîm yn cynnig cymorth gan wasanaethau deieteg, seicoleg glinigol, therapi galwedigaethol, ffisiotherapi, a chymorth meddygol, gan ddibynnu ar eich anghenion unigol.
Cysylltu â ni
Rydym ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am tan 5pm.
Rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau, o apwyntiadau gydag unigolion i sesiynau grŵp.
Mae ein gwasanaethau’n cael eu cynnig ar-lein ar hyn o bryd, ac mae apwyntiadau ar gael ar adegau gwahanol yn ystod yr wythnos.
Os hoffech gael cymorth gennym, byddwn yn gwneud pob ymdrech i'ch gwahodd i apwyntiad asesu ar ddyddiad sy'n addas i chi.
I atgyfeirio eich hun at y Gwasanaeth Rheoli Pwysau, cliciwch ar y ddolen yma a fydd yn mynd â chi at ffurflen atgyfeirio fer.
Cyfeiriad: Gwasanaeth Rheoli Pwysau, Adran Dieteteg, Ysbyty Cyffredinol Glangwili
E-bost: WeightManagementService.HDD@wales.nhs.uk
Ffôn: 01267 283195